Datganiad y bwrdd rhaglen ar bolisïau
Sut y byddwn yn cael gwared ar elw preifat o ofal plant sy'n derbyn gofal.
Mae Rhaglen Lywodraethu 2022-2027 yn cynnwys nifer o ymrwymiadau sydd, gyda’i gilydd, yn disgrifio gweledigaeth newydd i drawsnewid gwasanaethau plant. Bydd gwireddu’r ymrwymiadau hyn yn sicrhau newid ar draws y system gofal gyfan yng Nghymru.
Elfen allweddol o’r weledigaeth newydd hon ar gyfer gwasanaethau plant yw ymrwymiad y Rhaglen Lywodraethu i ddileu elw preifat o ofal plant sy’n derbyn gofal.
Mae Bwrdd Rhaglen amlasiantaethol wedi cael ei sefydlu, dan gadeiryddiaeth Albert Heaney, Prif Swyddog Gofal Cymdeithasol Cymru, er mwyn gwireddu’r ymrwymiad hwn i ailffurfio’r farchnad fel nad yw’r dyletswyddau ar awdurdodau lleol mewn perthynas â phlant sy’n derbyn gofal yn cael eu contractio allan i gwmnïau er elw ond eu bod yn aros gyda darparwyr y sector cyhoeddus a darparwyr nid-er-elw.
Mae cynrychiolwyr o gartrefi gofal plant yn y sector preifat a sefydliadau maethu yn ogystal â chynrychiolwyr o ddarparwyr y sector cyhoeddus a'r trydydd sector wedi dod ynghyd i weithio gyda'r Llywodraeth, awdurdodau lleol, Arolygiaeth Gofal Cymru, Comisiynydd Plant Cymru a Voices from Care.
Nod y Bwrdd yw creu ffyrdd o ddatblygu ein darpariaeth gyhoeddus a nid-er-elw ar gyfer gofal plant sy'n derbyn gofal a helpu i wireddu ymrwymiad y Llywodraeth hon i wella canlyniadau i blant, gan sicrhau bod eu budd pennaf, eu hawliau a'u hawliadau wrth wraidd unrhyw benderfyniadau a wneir. At y diben hwnnw, bydd y Bwrdd yn ceisio barn y plant a'r bobl ifanc y mae'n eu gwasanaethu ac yn defnyddio'r hyn a ddysgir i ddatblygu a mireinio unrhyw gynigion ar gyfer newid.
Mae'r Bwrdd yn cydnabod yr heriau sydd ynghlwm wrth geisio gwireddu'r ymrwymiad hwn. Mae angen rhoi ystyriaeth lawn i amrywiaeth o feysydd, er enghraifft o ran diffinio nid-er-elw, ac o ran newid deddfwriaeth, cystadlu ac ystyriaethau busnes, datblygu'r modelau ar gyfer darparu gwasanaethau sydd eisoes ar waith, megis Maethu Cymru, a datblygu modelau nid-er-elw ar gyfer y dyfodol. Mae angen mynd i'r afael â hyn wrth sicrhau bod y farchnad yn parhau'n sefydlog, gan osgoi amharu ar leoliadau plant presennol.
Mae'r Bwrdd yn cytuno bod angen gwasanaethau, gofal a chymorth ar blant a phobl ifanc er mwyn sicrhau eu bod yn gallu tyfu, datblygu a ffynnu. Fel arfer, mae hyn yn golygu bod yn agos at eu teuluoedd a'u cymunedau. Hwn fydd un o nodweddion allweddol y Rhaglen, hynny yw sicrhau ffyrdd o ddarparu llety a gofal i bobl ifanc yn agosach at eu cartrefi'n fwy aml, fel y gallant barhau i fod yn rhan o'u cymuned a chynnal eu rhwydweithiau cymorth, mewn trefniadau byw sydd wedi'u lleoli'n lleol, wedi'u cynllunio'n lleol ac yn atebol yn lleol.
Mae'r Bwrdd ar hyn o bryd yn cyfarfod bob chwarter. Mae pedair ffrwd waith yn gweithio i lywio ystyriaethau'r Bwrdd.
Ffrwd waith
Ffrwd waith 1 – sy’n canolbwyntio ar ddatblygu darpariaeth breswyl a gofal maeth newydd i’w ddarparu gan yr awdurdodau lleol.
Ffrwd waith 2 – sy’n ystyried sut y gall y sector nid-er-elw ddatblygu ac ehangu.
Ffrwd waith 3 – sy’n edrych ar bontio o’r ddarpariaeth sector preifat bresennol.
Ffrwd waith 4 – sy’n nodi ac yn argymell camau gweithredu i liniaru effaith y newidiadau arfaethedig ar blant a phobl ifanc unigol.
Ymgynghoriad
Cafodd ymgynghoriad cyhoeddus ar ddeddfwriaeth arfaethedig i gefnogi ein hymrwymiad i ddileu elw ei gynnal rhwng 17 Awst 2022 a 7 Tachwedd 2022. Roedd hwn yn rhan o ymarfer ymgynghori ehangach a oedd hefyd yn edrych ar:
- Gyflwyno Taliadau Uniongyrchol ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus.
- Ymestyn y trefniadau adrodd gorfodol mewn perthynas ag oedolion a phlant mewn perygl.
- Diwygio’r trefniadau ar gyfer rheoleiddio darparwyr gwasanaethau, oedolion cyfrifol, a’r gweithlu gofal cymdeithasol.
Roedd yr ymgynghoriad yn cynnwys nifer o gynigion mewn perthynas â dileu elw:
- Diffinio ‘nid-er-elw’ ar gyfer gofal plant sy’n derbyn gofal.
- Darpariaeth sy’n caniatáu i ddarparwyr nid-er-elw yn unig gofrestru fel gwasanaeth cartref gofal i blant yng Nghymru neu wasanaeth maethu yng Nghymru o dan Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016.
- Gofyniad bod yn rhaid i ddarparwyr newydd sy’n cofrestru ag Arolygiaeth Gofal Cymru feddu ar statws nid-er-elw o 1 Ebrill 2026.
- Gofyniad bod yn rhaid i unrhyw ddarparwyr ‘er elw’ presennol bontio i statws nid-er-elw, a chofrestru ag Arolygiaeth Gofal Cymru, erbyn 1 Ebrill 2027.
- Pŵer i gyhoeddi canllawiau i gefnogi’r gwaith o weithredu’r newidiadau deddfwriaethol, megis cyfeirio at fodelau sefydliadol priodol neu eu disgrifio.
At hynny, roedd dau faes arall hefyd y gofynnwyd i’r ymatebwyr ddarparu sylwadau arnynt:
- Y posibilrwydd o roi cyfyngiad ar awdurdodau lleol i gomisiynu lleoliadau gofal i blant a phobl ifanc gan sefydliadau nid-er-elw yn unig (ynghyd â’r cynnig i gyfyngu ar gofrestru ag Arolygiaeth Gofal Cymru i sefydliadau nid-er-elw yn unig), a’r amserlenni priodol pe bai’r cynnig hwn yn cael ei roi ar waith.
- Sut i sicrhau nad yw’r polisi yn cael ei danseilio gan arferion sy’n mynd yn groes i’w ysbryd a’i fwriad, gan felly drechu pwrpas y newidiadau deddfwriaethol i ddileu elw o ofal plant sy’n derbyn gofal yng Nghymru (megis rhiant-gwmnïau gwasanaethau nid-er-elw yn codi ffioedd gormodol, a allai fod yn gyfystyr â chymryd elw allan mewn ffyrdd eraill).
Daeth cyfanswm o 153 o ymatebion i law mewn perthynas â’r cynigion deddfwriaethol i ddileu elw ac mae’r crynodeb o’r ymatebion ar gael.
Cadarnhaodd y Prif Weinidog yn ei ddatganiad ar y rhaglen ddeddfwriaethol ym mis Gorffennaf 2023 y byddai darpariaethau i gefnogi’r ymrwymiad i ddileu elw o ofal plant sy’n derbyn gofal yn cael eu cynnwys mewn Bil Gofal Cymdeithasol i’w gyflwyno yn ystod trydedd flwyddyn rhaglen ddeddfwriaethol y Senedd.