Neidio i'r prif gynnwy

Yn egluro cyfrifoldebau’r grŵp a sut y mae’n gweithredu.

Diben y bwrdd

1. Diben bwrdd y rhaglen yw cydweithio i ystyried tystiolaeth a datblygu cynigion ar gyfer gweithredu’r ymrwymiad yn y rhaglen lywodraethu, ‘Dileu elw preifat o ofal plant sy'n derbyn gofal’.

Cefndir a chyd-destun y rhaglen

2. Mae'r Prif Weinidog a'r Gweinidog Gofal Cymdeithasol yn glir bod yr ymrwymiad ‘Dileu elw preifat o ofal plant sy'n derbyn gofal’ yn y rhaglen lywodraethu yn brif flaenoriaeth ar gyfer cyflawni yn ystod tymor y Senedd hon. Mae'r ymrwymiad ei hun yn adeiladu ar farn hirsefydlog y gweinidogion y dylid dileu elw preifat o ofal plant sy'n derbyn gofal, ac mae'n cyd-fynd â galwadau a wnaed gan Gomisiynydd Plant Cymru a Voices from Care. At hynny, mae plant eu hunain wedi mynegi gofid am dderbyn gofal gan sefydliadau sy'n gwneud elw, gan eu bod yn teimlo eu bod yn cael eu 'prynu a'u gwerthu’.

3. Mynegodd y cyn Ddirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol ei barn am yr ymrwymiad hwn mewn dadl Cyfarfod Llawn yn y Senedd yn 2021. Gwnaeth y cyn Ddirprwy Weinidog y datganiad hwn hefyd:

Mae dileu gwneud elw o ofal plant sy'n derbyn gofal yn flaenoriaeth uchel i'r llywodraeth hon. Credwn y dylai gofal cyhoeddus olygu bod plant yn derbyn gofal gan awdurdodau lleol neu ddarparwyr nid-er-elw eraill, lle mae gwerthoedd cymdeithasol a lles gorau plant a chanlyniadau i blant yn brif gymhellion.

Cwmpas y rhaglen

4. Bydd y gwaith hwn yn canolbwyntio yn y lle cyntaf ar ddarpariaeth breifat gofal preswyl i blant, ac yn archwilio gofal maeth yn y sector annibynnol.

5. Mae cysylltiad anorfod rhwng darparu lleoliadau gofal maeth cyhoeddus/nid-er-elw, gofal gan berthynas a Gwarcheidiaeth Arbennig â chyflawni'r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiadau ehangach y rhaglen lywodraethu yn rhoi pwyslais ar gynyddu'r ffocws ar gadw teuluoedd gyda'i gilydd. Pan na all plant aros gyda rhieni geni, rydym am gynyddu'r defnydd o drefniadau gofal gan berthynas a gwarcheidiaeth arbennig lle mae hynny'n bosibl ac er lles pennaf y plentyn.

Rôl y cadeirydd

6. Bydd y bwrdd yn cael ei gadeirio gan Brif Swyddog Gofal Cymdeithasol Cymru, Albert Heaney, a fydd yn cael ei gefnogi gan Dîm Rhaglen (gweler isod).

7. Cefnogir y cadeirydd gan ddirprwy gadeirydd, sef Alistair Davey, Dirprwy Gyfarwyddwr, yr Is-adran Galluogi Pobl, y Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol ac Integreiddio. 

8. Bydd y cadeirydd yn nodi ac yn cyfarwyddo meysydd gwaith i gyflawni'r diben.

9. Bydd y cadeirydd yn darparu swyddogaeth herio ac yn gweithredu fel cyfaill beirniadol i holl aelodau'r bwrdd i'w galluogi i wneud argymhellion priodol.

10. Mae'r cadeirydd yn atebol am gyflwyno'r rhaglen ac yn gyfrifol am benderfyniadau a gyflwynir i weinidogion. Mae'r cadeirydd yn atebol i'r Gweinidog Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol a'r Prif Weinidog am gynnydd a chyflawniad.

Bwrdd y rhaglen

11. Mae bwrdd y rhaglen yn cynnwys aelodau a mynychwyr yn ôl y gofyn. Bydd yr aelodau'n rhan o'r holl benderfyniadau sydd angen eu gwneud. Ni fydd y mynychwyr yn ymwneud yn uniongyrchol â phenderfyniadau, ond byddant yn rhoi cyngor ac arweiniad i'r bwrdd yn ôl yr angen. 

12. Bydd bwrdd y rhaglen yn cyfarfod bob chwarter, gan osgoi cyfnod yr haf pan fo hynny’n bosibl.

13. Bydd adegau pan fydd rhai eitemau ar yr agenda yn cael eu trafod gydag aelodau'r bwrdd yn unig, er enghraifft, penderfyniadau ynghylch adnoddau. Pan fo hyn yn berthnasol, nodir hynny'n glir ar agenda bwrdd y rhaglen ac ar y papurau ar gyfer yr eitemau hynny. 

14. Bydd bwrdd y rhaglen yn sicrhau bod ystyriaeth lawn yn cael ei rhoi i'r holl gyd-ddibyniaethau, cyfleoedd a heriau a gyflwynir i sicrhau rhaglen gydlynol.

Rôl aelodau bwrdd y rhaglen

15. Disgwylir i aelodau'r bwrdd gydweithio i roi cyngor ac arweiniad i'r cadeirydd (a thîm y rhaglen). Bydd disgwyl i Aelodau'r Bwrdd gyfathrebu â chydweithwyr perthnasol yn eu sefydliadau ac, o fewn Llywodraeth Cymru, ym meysydd eu cyfarwyddwyr cyffredinol a sicrhau, lle bo angen, bod eu staff yn ymrwymo digon o amser i gyfrannu'n effeithiol at y rhaglen, gan gydnabod y gall hyn gynnwys trafodaeth am flaenoriaethau.

16. Bydd disgwyl i aelodau'r bwrdd roi cyngor sy'n golygu ei bod yn bosibl i benderfyniadau gael eu gwneud. Ni all aelodau'r bwrdd weithio'n annibynnol ar ei gilydd. Er mwyn cyflawni'r rhaglen, mae angen meithrin cysylltiadau adeiladol rhwng holl aelodau’r bwrdd. 

17. O ystyried natur a chynnwys trafodaethau’r bwrdd, bydd disgwyl i aelodau'r bwrdd drin holl drafodaethau'r bwrdd yn gyfrinachol. Fodd bynnag, bydd crynodeb o’r materion allweddol a drafodwyd yn cael ei lunio ar ôl pob cyfarfod o’r bwrdd gan yr ysgrifenyddiaeth i’w rannu’n ehangach.

Mynychwyr bwrdd y rhaglen

18. Gall y cadeirydd ac aelodau'r bwrdd gynnig mynychwyr i gymryd rhan ar gyfer eitemau penodol. Bydd gan y mynychwyr rôl gwybodaeth, cyngor ac arweiniad, a gallant herio hefyd. Ni fydd ganddynt rôl o ran gwneud penderfyniadau. Gall y mynychwyr fod yn cynrychioli sefydliadau allanol sydd â rôl yn y gwaith o gyflawni'r rhaglen. 

19. Bydd aelodau'r bwrdd a’r mynychwyr yn darparu arweinyddiaeth ac ymrwymiad gweladwy drwy fynychu holl gyfarfodydd bwrdd y rhaglen a chreu amgylchedd lle bydd y rhaglen yn ffynnu.

Arsylwyr

20. Gall arsylwyr ofyn am gael bod yn bresennol neu gael eu gwahodd i gyfarfodydd y bwrdd, ond rhaid gofyn am gymeradwyaeth ymlaen llaw gan y cadeirydd.

Absenoldeb

21. Os na all aelod o'r bwrdd neu fynychwr fod yn bresennol mewn cyfarfod, dylid ystyried dirprwy a hysbysu tîm y rhaglen ymlaen llaw.

Ysgrifenyddiaeth bwrdd y rhaglen (tîm rheoli’r rhaglen)

22. Mae tîm y rhaglen yn cynnwys aelodau o'r Tîm Gwella Canlyniadau i Blant, y Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol ac Integreiddio. 

23. Bydd Tîm y Rhaglen yn sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei darparu i aelodau'r bwrdd mewn modd amserol i'w galluogi i roi cyngor. 

24. Efallai y bydd adegau pan fydd angen galw cyfarfod eithriadol o’r bwrdd i ymdrin â phenderfyniadau neu faterion penodol. O dan rai amgylchiadau, bydd aelodau'r bwrdd ac, os yw’n briodol, y mynychwyr yn derbyn papurau i'w hystyried ‘y tu allan i'r pwyllgor’.

25. Bydd diweddariadau yn cael eu darparu i roi manylion i aelodau'r bwrdd a’r mynychwyr am gynnydd y rhaglen.

26. Bydd gwasanaethau'r ysgrifenyddiaeth yn cael eu darparu gan Dîm y Rhaglen. Bydd papurau ar gyfer y bwrdd yn cael eu darparu i'r holl aelodau a’r mynychwyr o leiaf dri diwrnod gwaith cyn pob cyfarfod.

Tasgau bwrdd y rhaglen

27. Mae bwrdd y rhaglen yn gyfrifol am amrywiaeth o dasgau, gan gynnwys: 

  • gweinyddu’r rhaglen
  • datblygu polisi
  • ystyriaethau polisi
  • cyflwyno’r rhaglen

Gweinyddu’r rhaglen

28. Cytuno ar y cylch gorchwyl hwn neu gynnig telerau ychwanegol neu newydd sy'n cyflawni'r diben.

29. Adolygu'r cylch gorchwyl hwn bob tri mis.

30. Ym mhob un o gyfarfodydd bwrdd y rhaglen, ystyried, cynghori ar, cytuno ac adolygu'n rheolaidd gofrestr risg, gweithrediadau, cynllun cyfathrebu ac asesiad effaith integredig bwrdd y rhaglen.

31. Asesu ac ystyried potensial y rhaglen i lwyddo o fewn y cyd-destun polisi ehangach. 

32. Adolygu'n rheolaidd y trefniadau ar gyfer arwain, rheoli a monitro'r rhaglen a sicrhau bod cysylltiadau'n cael eu gwneud â phrosiectau a rhaglenni eraill (yn fewnol ac yn allanol i Lywodraeth Cymru).

33. Gwirio'n barhaus fod y ddarpariaeth ar gyfer adnoddau ariannol ac adnoddau eraill yn cael ei rheoli'n weithredol ar gyfer y rhaglen a bod cynlluniau gweithgareddau, cyn belled ag y bo modd, yn ymarferol, bod ganddynt adnoddau priodol gyda digon o bobl â phrofiad priodol, a’u bod wedi'u hawdurdodi.

34. Ystyried defnyddio cyllid y bwriedir ei ddarparu i ddod ag arbenigwyr pwnc i mewn yn ôl y gofyn.

35. Cyfleu negeseuon allweddol am y rhaglen o fewn Llywodraeth Cymru ac yn allanol.

36. Cadarnhau bod y rhaglen yn cael ei chyflwyno'n llwyddiannus a “chymeradwyo” camau penodol y rhaglen, gan gynnwys cau'r rhaglen.

37. Pan fydd papurau'n cael eu dosbarthu y tu allan i'r pwyllgor, disgwylir i bob aelod ystyried y papurau ac ymateb.

Datblygu polisi

38. Datblygu cynllun cyfathrebu sy'n gosod cyd-destun y rhaglen ac sy’n cynnwys: 

  • lles gorau plant a phobl ifanc, y canlyniadau gorau ar eu cyfer a'u hawliau
  • y negeseuon gan blant eu hunain am dderbyn gofal a chymorth mewn amgylchedd er elw
  • osgoi tarfu ar blant

39. Ystyried tystiolaeth a data sy'n disgrifio gweithrediad darpariaeth cartrefi gofal plant y sector preifat, gan gynnwys, er enghraifft, dadansoddiadau ystadegol a dogfennaeth a lleoliad lleoliadau plant mewn gofal yng Nghymru. Bydd hyn yn cynnwys aelodau'r bwrdd a’r mynychwyr yn rhannu arbenigedd a phrofiad mewn perthynas â darparu cartrefi gofal plant yn y sector preifat.

40. Ystyried a gwneud argymhellion ar gyfer papurau neu ddadansoddiadau data a thystiolaeth ychwanegol neu bwrpasol.

Ystyriaethau polisi

41. Ystyried materion a phynciau ar gyfer cyflawni'r diben. Mae'r rhain yn cynnwys: 

  • y buddsoddiad sylweddol sydd ei angen i feithrin gallu'r sector cartrefi gofal plant cyhoeddus / nid-er-elw. 
  • defnyddio Maethu Cymru, ein cynllun maethu cyhoeddus / nid-er-elw a threfniadau maethu’r trydydd sector posibl
  • darparu gofal arbenigol, therapiwtig, gan gynnwys iechyd, addysg a chymorth cofleidiol arall
  • unrhyw ofyniad am gamau gweithredu deddfwriaethol, er enghraifft, mwy o ddefnydd o adran 16 [troednodyn 1] o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a newid ffocws Cod Ymarfer Rhan 2 (Swyddogaethau Cyffredinol)  mewn perthynas â strategaethau comisiynu gwasanaethau plant a'r defnydd o fentrau cymdeithasol, mentrau cydweithredol, gwasanaethau a arweinir gan ddefnyddwyr a'r trydydd sector
  • unrhyw ofyniad am newidiadau deddfwriaethol sy'n ymwneud â chofrestriad cartrefi gofal plant, boed yn gartrefi sydd wedi'u cofrestru ar hyn o bryd neu’n gofrestriadau newydd
  • cysylltiadau â chyflawni ymrwymiadau'r rhaglen lywodraethu, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i: 
    • ystyried cyfleoedd radical i ddiwygio’r gwasanaethau presennol ar gyfer plant sy'n derbyn gofal ac yn gadael gofal
    • deddfu i integreiddio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ymhellach, gan roi sylw i’r ymatebion a gafwyd i’n papur gwyn ar ailgydbwyso gofal a chymorth
    • lansio fframwaith gofal cymdeithasol cenedlaethol
  1. Ystyried unrhyw rwystrau i gyflawni'r diben. Mae'r rhain yn cynnwys:
  • modelau busnes er elw darparwyr sector preifat
  • darpariaeth ddigonol o leoliadau gofal maeth, gofal gan berthynas a gwarcheidiaeth arbennig cyhoeddus / nid-er-elw
  • ansefydlogi lleoliadau plant a risgiau i sicrhau canlyniadau da i blant

Cyflawni’r rhaglen

43. Bydd trefniadau cyflwyno'r rhaglen yn golygu dull gweithredu fesul cam, a byddant yn cael eu cydgynhyrchu gydag aelodau'r bwrdd. Bydd gofyn i aelodau bwrdd y rhaglen:  

  • arwain ffrydiau gwaith

Mae’r pedair ffrwd waith fel a ganlyn: 

Ffrwd waith 1: 

Nodi a chynghori bwrdd y rhaglen dileu elw preifat o ofal plant sy'n derbyn gofal ar y camau i'w cymryd i ehangu, a datblygu darpariaeth newydd yn yr awdurdodau lleol ac yn rhanbarthol a darpariaeth nid-er-elw yn achos lleoliadau gofal preswyl a maeth. Yn cael ei chadeirio gan Sally Jenkins.

Ffrwd waith 2: 

Nodi a chynghori bwrdd y rhaglen dileu elw preifat o ofal plant sy'n derbyn gofal ar y camau i'w cymryd i ehangu, a datblygu darpariaeth nid-er-elw newydd yn achos lleoliadau gofal preswyl a maeth. Yn cael ei chadeirio gan Keith Edwards.

Ffrwd waith 3: 

Nodi a chynghori bwrdd y rhaglen dileu elw preifat o ofal plant sy'n derbyn gofal ar y camau i'w cymryd i gefnogi darparwyr annibynnol neu'r sector preifat presennol lleoliadau gofal preswyl a gofal maeth i drosglwyddo i fodel nid-er-elw.

Ffrwd waith 4:

Nodi a chynghori bwrdd y rhaglen dileu elw preifat o ofal plant sy'n derbyn gofal ar y camau i'w cymryd i leihau effaith y newidiadau arfaethedig ar blant a phobl ifanc unigol.

  • Datblygu cynllun cyfathrebu â rhanddeiliaid, gan gynnwys cynnwys, dulliau a mynychder. 
  • Datblygu cynllun gweithredu wedi'i amserlennu sydd ynghlwm wrth yr eitemau datblygu polisi ac ystyriaethau polisi. 
  • Arwain a gweithredu'r newidiadau y cytunwyd arnynt sy'n cyflawni diben y rhaglen. 
  • Cynnig trefniadau ar gyfer adolygu a gwerthuso ar ôl gweithredu.

Aelodaeth bwrdd y rhaglen

Cadeirydd  

Albert Heaney, Prif Swyddog Gofal Cymdeithasol Cymru.

Dirprwy gadeirydd / uwch-swyddog cyfrifol    

Alistair Davey, Dirprwy Gyfarwyddwr, Y Gyfarwyddiaeth Galluogi Pobl, Gwasanaethau Cymdeithasol ac Integreiddio.

Association of Directors of Social Services (ADSS) Cymru    

Sally Jenkins.

David Howes.

Fôn Roberts.

All Wales Heads of Children's Services (AWHoCS)

Jan Coles.

Sharon Powell.

Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC)

Naomi Alleyne.

Stewart Blythe.

Arolygiaeth Gofal Cymru  

Vicky Poole.

Consortiwm Comisiynu Plant Cymru    

Karen Benjamin.

Cynghorydd CAMHS (Child and Adolescent Mental Health Services) i Lywodraeth Cymru a'r Prif Swyddog Meddygol    

Dave Williams.

Asiantaethau maethu trydydd sector Cymru / fframwaith maethu cenedlaethol / Maethu Cymru / Cynrychiolaeth Busnesau Bach a Chanolig (BBaCh)

Sarah Coldrick – AFKA Cymru.

Sam Frith-Jones – AFKA Cymru.

Julie Gillbanks – Gweithredu dros Blant.

Sue Richardson – Cariad Fostering.

Sarah Thomas – Y Rhwydwaith Maethu.

Suzanne Griffiths – Maethu Cymru.

Cymdeithas Cartrefi Gofal Annibynnol

Jen Roberts.

Cymdeithas Darparwyr Maethu Ledled y Wlad   

Harvey Gallagher.

Darparwyr Cartrefi Gofal Annibynnol    

Darryl Williams - Woodlands Limited.

Paul Thomas - Landsker.

Dan Svensson – Keys Group.

Comisiynydd Plant Cymru

Rachel Thomas.

Voices from Care    

Deborah Jones.

Tros Gynnal Plant (TGP) Cymru    

Sarah Durrant.

Unsain  

Mark Turner.

Undeb y GMB

Kelly Andrews.

Bwrdd Comisiynu Cenedlaethol

Maria Bell.

Cadeirydd ffrydiau gwaith 2 a 3     

Keith Edwards.

Swyddogion Llywodraeth Cymru    

Penny Hall, Pennaeth, Tîm Gwella Canlyniadau i Blant.

Tom Cleaver, Tîm Gwella Canlyniadau i Blant.

Neil Jones, Tîm Gwella Canlyniadau i Blant.

Tracy Dunning, Tîm Gwella Canlyniadau i Blant.

Jasmin Jordan, Tîm Gwella Canlyniadau i Blant.

Shelley Davies, Dirprwy Gyfarwyddwr, Is-adran y Dyfodol ac Integreiddio.

Jonathan Griffiths, Cyfarwyddwr Trawsnewid, Gwasanaethau Plant ac Oedolion.

I'w gadarnhau, Pennaeth, Partneriaeth ac Integreiddio.

Huw Gwyn Jones, Uwch Reolwr Polisi, Ailgydbwyso Gofal a Chymorth.

Matt Downton, Pennaeth, Grwpiau Iechyd Meddwl ac Agored i Niwed.

I'w gadarnhau, Prif Economegydd (modelu ariannol).

Mike Lubienski / Chloe Marong, Cyfreithiwr Gofal Cymdeithasol.

Claire Germain, Polisi Llywodraeth Leol.

Judith Cole, Cyllid Llywodraeth Leol.

Troednodiadau

[1]. Dyfyniad - Rhaid i awdurdod lleol hyrwyddo:

  1. datblygiad mentrau cymdeithasol yn ei ardal i ddarparu gofal a chymorth a gwasanaethau ataliol
  2. datblygiad sefydliadau cydweithredol neu drefniadau cydweithredol yn ei ardal i ddarparu gofal a chymorth a gwasanaethau ataliol
  3. ymglymiad personau y mae gofal a chymorth neu wasanaethau ataliol i'w darparu ar eu cyfer yn y broses o ddylunio a gweithredu'r ddarpariaeth honno
  4. argaeledd gofal a chymorth a gwasanaethau ataliol yn ei ardal gan sefydliadau trydydd sector.