Newid i bolisi a chanllawiau ym maes cynllunio ynghylch y defnydd o bwerau prynu gorfodol
Llythyr at awdurdodau cynllunio lleol yn cyhoeddi newidiadau i Polisi Cynllunio Cymru a chanllawiau cysylltiedig.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ein cyf/Our ref – Prynu Gorfodol
13 Hydref 2020
Penaethiaid Cynllunio,
Awdurdodau Cynllunio Lleol
(Local Authority Regeneration Leads, Arolygiaeth Gynllunio (PINS) Cymru / Compulsory Purchase Association (CPA))
Annwyl Gyfaill,
Mae’n flaenoriaeth gan Lywodraeth Cymru i adeiladu mwy o dai ar dir gwag, helpu i gynyddu’r cyflenwad o dai yn ogystal â defnyddio eiddo masnachol gwag a mathau eraill o eiddo unwaith eto, a helpu i greu cyfleoedd newydd am swyddi mewn cymunedau lleol.
Mae Llywodraeth Cymru o'r farn bod pwerau prynu gorfodol yn adnodd pwysig i awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus eraill fel modd i gasglu ynghyd y tir sydd ei angen arnynt i helpu i sicrhau newid amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd. Os cânt eu defnyddio'n briodol, gallant gyfrannu at adfywio effeithiol ac effeithlon, ailfywiogi cymunedau, creu lleoedd a hyrwyddo busnesau, y gall pob un ohonynt arwain at welliannau o ran ansawdd bywyd.
Yn ystod y cyfnod yn union ar ôl Covid-19, bydd meysydd polisi penodol yn destun trafodaethau a chamau gweithredu, er mwyn sbarduno adferiad ym mhob colofn datblygu cynaliadwy. Mae Adeiladu Lleoedd Gwell: Y System Gynllunio yn Sicrhau Dyfodol Cydnerth a Mwy Disglair – Creu Lleoedd ac Adferiad Covid-19 (Gorffennaf 2020) yn nodi wyth mater allweddol sy'n dod â meysydd polisi unigol ynghyd er mwyn sicrhau y cymerir y camau gweithredu mwyaf effeithiol. O blith yr wyth mater allweddol sy’n gofyn am gymryd camau gweithredu polisi, nodwyd y tri mater canlynol fel materion lle y gellir defnyddio pwerau prynu gorfodol fel adnodd gweithredu polisi defnyddiol[1]:
- Cadw'n lleol: creu cymdogaethau;
- Adfywio canol ein trefi;
- Teithio llesol: ymarfer corff a dulliau teithio a ail-ddarganfyddir.
Er mwyn cefnogi awdurdodau lleol a chymunedau i adfer o effeithiau Covid-19 ac ymateb i’r prif broblemau o ran gweithredu ar bolisïau, caiff awdurdodau lleol eu hannog i ystyried yn broactif y defnydd o’u pwerau prynu gorfodol ble y bo’n briodol i sicrhau bod manteision gwirioneddol i breswylwyr a’r gymuned fusnes yn ddi-oed.
I wella hyder a dealltwriaeth ymhlith rhanddeiliaid o’r broses prynu gorfodol yng Nghymru, bum yn ymgyngnori ar bolisi cynllunio cenedlaethol diwygiedig ar ddefnyddio pwerau prynu gorfodol a chanllawiau wedi’u diweddaru:
Roedd yr ymgynghoriad hefyd yn cynnwys 'cais am dystiolaeth' yn gofyn am sylwadau ar y canlynol:
- astudiaethau achos o'r defnydd llwyddiannus o bwerau prynu gorfodol er mwyn cyflwyno cynlluniau adfywio a arweinir gan dai;
- lle y gellid gwneud newidiadau o bosibl i'r system prynu gorfodol er mwyn gwella'r ffordd y caiff cynlluniau caffael gorfodol a arweinir gan dai eu cyflwyno.
Rwyf bellach wedi cael y cyfle i ystyried yr ymatebion i’r ymgynghoriad yn fanwl. Er gwybodaeth, rwy’n atodi dolen at yr Adroddiad ar y Crynodeb o’r Ymatebion i’r Ymgynghoriad:
Wedi ystyried yr ymatebion i’r ymgynghoriad rwy’n cyhoeddi y newidiadau canlynol i bolisïau:
Polisi Cynllunio Cymru
Diwygiadau i baragraff 3.53 o Bolisi Cynllunio Cymru o dan yr adran ‘Creu Lleoedd Strategol’. Mae’r newidiadau i bolisi cynllunio cenedlaethol yn atgyfnerthu’r gefnogaeth dros ddefnyddio pwerau prynu gorfodol gan awdurdodau cynllunio lleol er mwyn hwyluso gwaith datblygu, ailddatblygu a gwella tir ac adeiladau lle y mae achos cryf er budd y cyhoedd.
Cylchlythyr wedi’i ddiweddaru
Cyhoeddi Cylchlythyr 003/2019: Prynu Gorfodol yng Nghymru a ‘Rheolau Crichel Down’ (Fersiwn Cymru, 2020)’ sy’n canslo Cylchlythyr Cynulliad Cenedlaethol Cymru (CCC) 14/2004: Cylchlythyr Diwygiedig ar Orchmynion Prynu Gorfodol. Mae hyn yn sicrhau bod canllawiau cywir a chyfredol ar gael gan Lywodraeth Cymru ynghylch deddfwriaeth ac arferion ym maes prynu gorfodol. Gallwch weld Cylchlythyr 003/2019 yma: Polisi a chanllawiau cynllunio: prynu gorfodol.
Mae’r Adroddiad ar y Crynodeb o Ymatebion i’r Ymgynghoriad yn rhoi manylion yr awgrymiadau sy’n cael eu cynnig drwy’r ‘alwad am dystiolaeth’ ar gyfer rhagor o ddiwygiadau ar y broses prynu gorfodol. Roedd yr ‘alwad am dystiolaeth’ yn tynnu sylw at y ffaith bod capasiti am ragor o newidiadau i’r broses prynu gorfodol gan ei bod ar hyn o bryd yn gymhleth mewn rhannau, a gallai fod yn rhwystr i ddefnyddio pwerau prynu gorfodol.
Rwyf wedi ymrwymo i ddileu y rhwystrau i’r defnydd o bwerau prynu gorfodol a gwella y broses prynu gorfodol i’w gwneud yn decach, yn fwy effeithiol ac yn haws i’w deall. Mae hyn yn hollbwysig i gefnogi awdurdodau lleol a chymunedau i adfer o effeithiau Covid-19 ac ymateb i’r prif faterion a nodir er mwyn gweithredu ar bolisïau.
Oherwydd hynny, rwy’n cyhoedd ymgynghoriad pellach ar gynigion i symleiddio a moderneiddio y broses prynu gorfodol yng Nghymru:
Ymgynghoriad ar ddiwygiadau i bwerau a gweithdrefnau gorfodol
Mae’r ymgynghoriad yn holi barn ar ddiwygiadau i:
- foderneiddio pwerau a gweithdrefnau prynu gorfodol statudol sydd wedi’u cefnogi gan ddeddfwriaeth sylfaenol, a
- defnyddio gwelliannau i’r broses dechnegol i symleiddio gweithdrefnau yr ymchwiliadau cyhoeddus i brynu gorfodol a sylwadau ysgrifenedig.
Cynhelir yr ymgynghoriad tan 19 Ionawr 2021.
Hoffwn gadarnhau bod y newidiadau i Bolisi Cynllunio Cymru a’r canllawiau yn dod i rym heddiw (gweler dyddiad y llythyr). NAFWC 14/2004: Mae’r Cylchlythyr Diwygiedig ar Orchmynion Prynu Gorfodol wedi ei ganslo ar unwaith. Bydd y newidiadau i Bolisi Cynllunio Cymru yn cael eu cynnwys felly yn y rhifyn nesaf sydd i’w gyhoeddi yn ystod y gwanwyn y flwyddyn nesaf.
Yn gywir,
Julie James AS/MS
Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol
Minister for Housing and Local Government
Atodiad 1: Polisi Cynllunio Cymru – revisions to policy on use of compulsory purchase powers
Testun newydd / diwygiedig.
Defnyddio Pwerau Prynu Gorfodol
3.53 Anogir awdurdodau cynllunio i gymryd camau priodol er mwyn datgloi potensial datblygu safleoedd. Mewn rhai achosion, efallai y bydd angen i awdurdodau cynllunio brynu tir er mwyn hwyluso datblygiad, ailddatblygiad neu welliannau. Os yn bosibl, dylid gwneud hyn â chytundeb y tirfeddiannwr. Lle na ellir dod i gytundebau o’r fath, dylai awdurdodau cynllunio ystyried defnyddio’r holl bwerau sydd ar gael iddynt. Dylai hyn gynnwys, lle bo angen, defnyddio pwerau prynu gorfodol er mwyn cyflwyno tir a/neu adeiladau i ddiwallu anghenion datblygu yn eu hardal a/neu i sicrhau canlyniadau datblygu gwell lle y gellir dangos achos cryf er budd y cyhoedd sy’n gwrthbwyso colli buddiannau preifat.
[1] Mae Rhan 2 o gylchlythyr Llywodraeth Cymru Cylchlythyr 003/2019: Prynu Gorfodol yng Nghymru a Rheolau Crichel Down (Fersiwn Cymru, 2019)' yn darparu canllawiau ar ddefnyddio pwerau prynu gorfodol i ymdrin â'r materion allweddol hyn ar gyfer cymryd camau gweithredu polisi.