Neidio i'r prif gynnwy

Mae mwyafrif helaeth y bobl yng Nghymru (84%) yn credu bod angen inni newid y ffordd rydyn ni’n byw yn sylweddol er mwyn mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd, yn ôl canlyniadau arolwg llywodraeth o 1,149 o ymatebwyr yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Awst 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

O ystyried targedau uchelgeisiol Cymru ar gyfer dim gwastraff, strategaeth yr economi gylchol a’i lle ymhlith arweinwyr y byd ym maes ailgylchu, efallai nad yw’n syndod i 84% ddweud yr hoffent weld llai o fwyd byth yn cael ei wastraffu, llai o ddeunydd pacio a rhagor o ailgylchu. Dywedodd 81% eu bod eisoes yn ceisio gwastraffu cyn lleied o fwyd ag y bo modd, neu’n debygol o ddechrau gwneud hynny.

Er i 86% gyfaddef eu bod yn pryderu am newid hinsawdd, dim ond 15% o ymatebwyr a ddywedodd eu bod yn credu y byddai’n cael effaith ‘fawr iawn’ ar eu hardal leol. Fodd bynnag, roedd bron i hanner yr ymatebwyr (42%) yn cydnabod y gallai newid hinsawdd effeithio ar eu hardal ‘i ryw raddau’, gan adlewyrchu adroddiad diweddar y Pwyllgor ar Newid Hinsawdd a ddangosodd y risgiau dybryd a helaeth sy’n gysylltiedig â newid hinsawdd mae Cymru bellach yn eu hwynebu.

Gan edrych ymlaen at ddyfodol gwell, dywedodd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr eu bod dyn credu y byddai dyfodol ag allyriadau sero-net yn well ar gyfer eu llesiant (77%) a’u hiechyd (80%). Dywedodd tua (51%) y byddai sero-net yn well ar gyfer yr economi. Roedd 80% hefyd yn cefnogi ymrwymiad y DU i sicrhau sero-net erbyn 2050, a byddai’r rhan fwyaf yn hoffi gweld amrediad o newidiadau ymddygiad i gyflawni hyn.

Dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James:

“Yng Nghymru rydyn ni’n gofalu am ein gilydd. Felly does dim amheuaeth gen i ynghylch ein gallu i ddod at ein gilydd i gymryd camau mawr a dewr er mwyn goresgyn yr argyfwng hinsawdd. Bydd sicrhau sero-net erbyn 2050 yn golygu cymryd camau penderfynol dros y deg mlynedd nesaf, gyda’r angen i lywodraeth, busnesau a chymunedau ddod at ei gilydd i newid y ffordd rydyn ni’n bwyta, siopa, teithio a chadw ein cartrefi’n gynnes.

“Er y bydd costau i’r camau rydyn ni’n eu cymryd i ddechrau, bydd y costau ariannol a’r effeithiau andwyol ar lesiant os nad ydyn ni’n gweithredu gryn dipyn yn uwch. Rydyn ni’n gwybod y bydd newid hinsawdd yn effeithio ar ein cymunedau, gyda disgwyl i lifogydd yng Nghymru ddigwydd yn fwy rheolaidd a pheri rhagor o ddifrod na’r rhai rydyn ni wedi eu profi yn ystod y ddwy flynedd diwethaf.

“Rhaid peidio â gadael i’r camau mae angen inni gymryd heddiw er mwyn diogelu’r dyfodol godi braw arnon ni. Bydd Cymru sero-net yn iachach, yn hapusach ac yn fwy ffyniannus ar ein cyfer ni, ein plant, ein hwyrion a’n hwyresau ac ar gyfer pob cenhedlaeth wedyn.