Mae'r adroddiad hwn yn crynhoi canfyddiadau arolwg a oedd yn archwilio ymwybyddiaeth, agweddau a dewisiadau tuag at wahanol lwybrau i leihau allyriadau carbon a chyrraedd Sero-Net yng Nghymru.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Prif ganfyddiadau
- Roedd y rhan fwyaf o ymatebwyr yr arolwg yn pryderu am newid yn yr hinsawdd.
- Roedd ymatebwyr o'r farn y byddai dyfodol Sero-Net yn well ar gyfer lles, iechyd a'r economi.
- Roedd y rhan fwyaf o'r ymatebwyr o'r farn bod angen newid ffordd o fyw er mwyn mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd.
- Hoffai'r rhan fwyaf o ymatebwyr weld amrywiaeth o newidiadau cymdeithasol i helpu i leihau allyriadau carbon. Lleihau gwastraff oedd y newid mwyaf yr hoffai cyfranogwyr ei weld. Deietau gwyrddach oedd y newid yr oedd y lleiaf o ymatebwyr am ei weld.
- Er bod y rhan fwyaf o ymatebwyr am weld newidiadau, mae llai o ymatebwyr ar gyfartaledd yn credu bod newidiadau'n debygol o ddigwydd dros y degawdau nesaf.
Adroddiadau

Newid hinsawdd a chyrraedd sero-net: canfyddiadau ac ymwybyddiaeth yng Nghymru , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB
PDF
2 MB
Os mae arnoch chi angen fersiwn o’r ddogfen hon mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Cofiwch ddweud wrthym y math o fformat sydd ei angen arnoch chi. Byddai’n help mawr i ni os gallech chi ddweud wrthym ba fath o dechnoleg gynorthwyol rydych yn ei defnyddio hefyd.
Cyswllt
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099