Neidio i'r prif gynnwy

Cynnig cyngor diduedd am ddim i helpu i wneud cartrefi pobl yn gynhesach ac yn fwy effeithlon o ran tanwydd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Mawrth 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:
Man installing solar panel on roof.

Cynllun Nyth yn hyrwyddo sgiliau ynni gwyrdd

Gall y rhai sy'n byw mewn cartrefi incwm isel neu gymunedau difreintiedig hefyd elwa ar welliannau sy'n effeithlon o ran ynni, megis inswleiddio neu foeler newydd sy'n arbed ynni. Ers 2011, mae'r cynllun wedi cael ei reoli gan Nwy Prydain.

Yn ogystal â helpu i leihau costau biliau ynni, mae cynllun Nyth hefyd yn cefnogi ymrwymiadau Llywodraeth Cymru i leihau allyriadau carbon niweidiol i’r amgylchedd naturiol.

Yn 2020 i 2021, darparodd Llywodraeth Cymru gyllid o £20.1 miliwn i gyflawni cynllun Nyth, gan helpu mwy na 4,500 o aelwydydd incwm is, tra bo bron i 15,000 o bobl wedi cyrchu cyngor am ddim.

Michelle Symonds yw Rheolwr Ymgysylltu Cymunedol cynllun Nyth:

"Mae sero net wedi bod ar ein hagenda erioed. Mae'n mynd law yn llaw â phopeth a wnawn. Os byddwn yn gwneud cartref yn fwy effeithlon o ran ynni fel bod biliau'n cael eu gostwng, mae ein hallyriadau carbon hefyd yn cael eu lleihau.

"Mae pob achos o osod boeler sy'n arbed ynni a gosod deunydd inswleiddio atig yn helpu ein hamgylchedd."

Ond dros y 12 mis diwethaf, mae cynllun Nyth wedi goruchwylio cynnydd sylweddol yn nifer y paneli solar sy'n cael eu gosod. Gyda chyllid bellach ar gael gan Lywodraeth Cymru, mae hyn wedi gweld newid mawr ac mae angen newid ymddygiad gan gwsmeriaid hefyd.

Dywed Michelle,

"Mae angen i ni barhau i gyfleu’r neges am sut i ddefnyddio ynni’n effeithlon. Nid yw'n ymwneud â'r hyn rydych chi'n ei osod mewn cartref yn unig – mae'n ymwneud â sut rydych chi'n ei ddefnyddio. Rydym yn annog pobl i ddefnyddio ynni yn ystod y dydd pan fo'r haul yn gwenu.

"Rydym hefyd yn edrych i weld p’un a yw storio ynni mewn batris yn ymarferol, a fyddai’n helpu’r rhai nad ydynt gartref yn ystod y dydd i ddefnyddio’r ynni y maent wedi’i gynhyrchu yn hytrach na’i anfon yn ôl i’r grid."

Er bod y cynllun Nyth yn cael ei reoli gan Nwy Prydain, mae’r gwelliannau i’r cartref yn cael eu gwneud gan rwydwaith o gontractwyr o fusnesau bach a chanolog ledled Cymru. Ar hyn o bryd, mae’r rhwydwaith hwnnw'n cynnwys 35 o fusnesau bach a chanolig. Michelle yn dweud y bydd y dyhead i ddod yn sero net yng Nghymru yn cael effaith fawr ar y diwydiant:

"Gwnaethom ofyn i’n contractwyr a oedd ganddynt y sgiliau i osod paneli solar a gwnaethom ddarganfod bod galw mawr am uwchsgilio yn y maes hwn. Ers hynny, rydym wedi gallu dyrannu cyllid fel y gall y contractwyr busnesau bach a chanolig ehangu eu harbenigedd, a fydd yn hanfodol wrth symud ymlaen."

Mae cynllun Llywodraeth Cymru yn annog contractwyr i gyflogi prentisiaid a, rhwng mis Ebrill 2018 a mis Mawrth 2023, bydd wedi buddsoddi mwy na £200,000 mewn prentisiaethau a hyfforddiant, tra bo £10,500 wedi’i neilltuo i uwchsgilio busnesau bach a chanolig mewn gosod paneli ffotofoltäig solar.

"Mae sgiliau ynni gwyrdd yn mynd i ddod yn bwysicach fyth. Nid wyf yn siŵr a ydym wedi gweld effaith hynny eto, ond rydym ar drothwy ac rwy'n meddwl y byddwn yn gweld swyddi yn y sector yn newid o ganlyniad."

Victoria Deakin yw Cyfarwyddwr Ivor Cook Ltd yng Nghasnewydd, sy’n gontractiwr i’r cynllun Nyth. Mae hi’n credu bod dyhead Cymru i fod yn sero net erbyn 2030 yn cael effaith sylweddol ar y sector:

"Mae’n amser cyffrous iawn i ymuno â’r diwydiant gyda’r technolegau newydd sy’n cael eu gosod. Rydym wedi gweld cynnydd aruthrol yn y gwaith o osod paneli solar dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae cynllun Nyth wedi bod yn wych, gyda chartrefi yn elwa ar dderbyn boeleri gradd A yn ogystal â phaneli solar. Ac wrth i drigolion elwa, mae'r sgiliau o fewn y sector yn esblygu wrth i dechnoleg newydd gael ei rhoi ar waith."

Gall y contractwyr o fusnesau bach a chanolig ddewis cyrsiau hyfforddi sy'n addas i'w gweithwyr a'u lleoliad. Mae Ivor Cook Ltd wedi anfon ei ddau beiriannydd i'r Ganolfan Asesu a Hyfforddi Nwy i gwblhau cymhwyster BPEC tri diwrnod mewn gosod a phrofi paneli ffotofoltäig solar.

Ac wrth gefnogi newid a meddwl arloesol gan weithlu’r dyfodol, lansiodd cynllun Nyth gystadleuaeth i ysgolion o’r enw Cre8 i gynyddu ymgysylltiad pobl ifanc â phynciau STEM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg).

Michelle eglura:

"Rydym yn cymryd carfan o ddisgyblion Blwyddyn 9 ac yn gofyn iddynt ddylunio a chreu cynnyrch sy'n effeithlon o ran ynni. Mae’r enillwyr yn mynd ymlaen i rownd ranbarthol lle maen nhw’n cyflwyno eu cynnyrch. Wedyn, cânt eu cefnogi gan fusnesau lleol, sy'n gweithio gyda'r myfyrwyr i addasu eu dyluniadau. Mae rhai o'r atebion wedi bod yn gwbl anhygoel.

"Rwy’n credu bod gennym ni rôl fwy i’w chwarae yn y modd yr ydym yn codi dyheadau ac yn rhoi hwb i hyder pobl ifanc oherwydd nhw yw dylunwyr a chrewyr y dyfodol."

Os ydych am gael rhagor o wybodaeth am recriwtio prentis, ewch i wefen prentisiaethau dewis doeth neu ffoniwch 03000 603 000.