Rebecca Evans yn ymweld â Chaernarfon i weld sut mae’r buddsoddiad adfywio wedi effeithio ar y dref ac i gyhoeddi neilltuo £7.595m pellach o Fenthyciadau Canol Trefi.
Mae Cronfa Benthyciadau Canol Trefi Llywodraeth Cymru sy’n werth £20m yn helpu i roi bywyd newydd i safleoedd yng nghanol trefi sy’n segur. Unwaith y caiff yr arian ei ad-dalu bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio eto i ariannu benthyciadau newydd.
Mae Caernarfon wedi elwa o gael dros £700,000 o Fenthyciadau Canol Trefi, gyda £250,000 ohono’n cael ei ddefnyddio i ailddatblygu’r adeilad rhestredig Gradd II Tŷ Castell yn westy boutique a thŷ bwyta. Cafodd £60,000 ei ddefnyddio i adfywio ail adeilad, Tŷ Glyndŵr, yn llwyr i greu tŷ bynciau a chaffi.
Dywedodd Rebecca Evans:
“Diben y Gronfa Benthyciadau Canol Trefi yw ailddefnyddio safleoedd gwag a segur yng nghanol trefi. Mae hefyd yn cefnogi gweithgareddau sy’n cynyddu nifer y bobl fydd yn ymweld â chanol ein trefi, yn mynd i’r afael â safleoedd gwag ac yn helpu busnesau i dyfu a ffynnu. Unwaith y caiff y benthyciadau eu had-dalu, caiff yr arian ei ddefnyddio eto i ariannu benthyciadau newydd.”
Mae’r prosiectau fydd yn elwa ar y £7.595m a gyhoeddwyd heddiw yn cynnwys y canlynol:
- yng Ngwynedd, caiff benthyciad o £500,000 ei ddefnyddio i estyn y rhaglen adfywio yng nghanol trefi Caernarfon a Bethesda a hefyd i estyn y gwaith adfywio ym Methesda;
- yn Rhondda Cynon Taf, caiff £975,000 ei ddefnyddio i helpu i ailddatblygu adeiladau yng nghanol trefi Aberdâr a Phontypridd;
- a bydd Abertawe yn elwa ar dderbyn swm o £2,000,000 i adfywio safleoedd ar draws canol y ddinas