Neidio i'r prif gynnwy

Mae Julie James AC wedi ysgrifennu at bob Imam yng Nghymru i ddatgan neges o gefnogaeth.

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Ebrill 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn dilyn adroddiadau yn y cyfryngau yn ddiweddar am ymgyrch faleisus wedi'i hanelu at Fwslimiaid ym Mhrydain, fe roddodd Julie James sy'n gyfrifol am gydraddoldeb yn Llywodraeth Cymru, sicrwydd bod y cymunedau Mwslimaidd yn werthfawr yn ein golwg ni a bod croeso iddynt yng Nghymru.

Ysgrifennodd,

"Gobeithio y gallaf roi rhyw ychydig o sicrwydd i chi drwy ddweud yn ddiamheuol fod Llywodraeth Cymru, a mwyafrif helaeth poblogaeth Cymru, yn condemnio’n llwyr y casineb ffiaidd sy’n cael ei fynegi gan leiafrif bychan a’r ymgais lwfr i ledaenu ofn ymhlith ein cymunedau. 

"Mae Llywodraeth Cymru yn cyd-sefyll yn gadarn ochr yn ochr â’r bobl hynny sydd wedi dioddef cael eu bygwth neu eu cam-drin, ac rydyn ni bob amser yn codi llais yn erbyn pawb sy’n meiddio lledaenu rhaniadau."

Drwy weithio gyda’r pedwar heddlu a Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Troseddau Casineb Cymru mae gennym systemau cadarn yn eu lle a deddfwriaeth i ymchwilio i droseddau casineb, cefnogi dioddefwyr a chosbi’r drwgweithredwyr. 

Mae Llywodraeth Cymru a’r Heddlu yn ymdrin â phob achos o droseddau casineb o ddifrif. Hyd yn oed os na fydd achos penodol yn arwain at arestio, mae’r wybodaeth yn gwbl hanfodol i helpu’r heddluoedd i gynllunio a thargedu eu gweithgareddau ataliol.