Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething, wedi anfon neges Nadolig i ddangos ei werthfawrogiad ac i ddiolch i'r gwasanaeth iechyd a gofal yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Rhagfyr 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Dywedodd Vaughan Gething: 

“Wrth i'r Nadolig nesáu, hoffwn ddweud diolch o'r galon i bawb sy'n gweithio'n ddiflino – drwy'r dydd bob dydd – i ddarparu ein gwasanaethau iechyd a gofal ar draws Cymru.

“Y staff sy'n gweithio yn ein Gwasanaeth Iechyd Gwladol sy'n cadw olwynion y gwasanaeth, sy'n destun edmygedd drwy'r byd, i droi. Hebddyn nhw byddai'r gwasanaeth yn dod i stop.

“Dros y ddeuddeg mis diwethaf, dw i wedi gweld a chlywed am lu o enghreifftiau o weithwyr ein Gwasanaeth Iechyd yn mynd y filltir ychwanegol ac yn cyflawni y tu hwnt i'r gofyn er lles y rheini sydd â'r angen mwyaf.

“Dim ond yn ddiweddar, yn ystod yr eira mawr, clywais am staff yn goresgyn anawsterau'r tywydd i gyrraedd eu gwaith er mwyn sicrhau bod gofal o safon ar gael i bobl anghenus.

“Storïau fel y rhain, storïau ynghylch ymrwymiad a chydymdeimlad, sy'n fy ngwneud imi deimlo mor falch o'n Gwasanaeth Iechyd a'r hyn y mae'n ei gyflawni ledled Cymru 24/7.

“Wrth i'r rhan fwyaf ohonom fwynhau'r Nadolig, dw i'n gwybod y bydd llawer yn gweithio i achub bywydau, yn trin pobl sy'n sâl, ac yn darparu gofal. Maen nhw'n wir haeddu ein hedmygedd a'n diolch.

“Dw i'n gobeithio y bydd pawb sy'n gweithio'n ddiflino yn ein Gwasanaeth Iechyd ac yn ein gwasanaethau gofal, yn cael Nadolig rhagorol. Hoffwn ddymuno'n dda iddyn nhw ar gyfer y flwyddyn i ddod. Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda.”