Neges dymhorol gan Brif Weinidog Cymru
“Hoffwn ddiolch o waelod calon i bawb sy’n gweithio yn ein gwasanaethau brys a’n gwasanaethau cymdeithasol, ac i’r degau o filoedd o ofalwyr a gwirfoddolwyr sy’n rhoi o’u hamser dros y Nadolig er mwyn helpu pobl eraill.
“Rwy’n ddiolchgar iawn am bopeth rydych chi’n ei wneud. Diolch yn fawr.
“Gan edrych yn ôl ar y 12 mis diwethaf, rwy’n falch iawn ein bod ni yng Nghymru wedi:
- Cynnal ein heconomi gyda rhagor o swyddi a chyfleoedd. Yn ystod pencampwriaeth Cwpan Rygbi’r Byd ym mis Medi, cefais y fraint o arwain un o’r teithiau masnach mwyaf erioed i Japan. Hefyd yn ystod 2019, rydym wedi cefnogi mwy na 30,000 o swyddi ac wedi cyrraedd y garreg filltir o 75,000 o brentisiaethau newydd.
- Fe wnaethom fuddsoddi mwy na £7.5bn yn ein Gwasanaeth Iechyd Gwladol ac rwy’n falch bod gennym y niferoedd uchaf erioed o nyrsys, meddygon a bydwragedd yn gweithio yng Nghymru.
- Fe wnaethom hefyd ddatgan argyfwng o ran yr hinsawdd – gan sbarduno ton o gamau gweithredu yng Nghymru ac yn rhyngwladol er mwyn diogelu ein planed werthfawr.
“Dewch inni sicrhau bod 2020 yn flwyddyn sy’n ein huno ni, gan ddechrau’r degawd newydd gyda meddwl agored a phenderfyniad i gymodi a gweithio gyda’n gilydd i gael Cymru well i bawb.
“Nadolig Llawen i chi gyd!”