Neidio i'r prif gynnwy

Wrth inni agosáu at y Nadolig a’r Calan, dyma gyfle i fwrw golwg yn ôl ar flwyddyn brysur iawn ac i edrych ymlaen at y flwyddyn sydd i ddod.

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Rhagfyr 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

 Rydyn ni wedi cael sawl rheswm i ddathlu yn 2018, o’r digwyddiadau arbennig i nodi 70 mlwyddiant ein Gwasanaeth Iechyd Gwladol i fuddugoliaeth anhygoel Geraint Thomas yn y Tour de France. Fe gafwyd cyfle hefyd i gymryd rhan mewn seremonïau teimladwy yng Nghymru, Ffrainc a Gwlad Belg i goffáu canmlwyddiant diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf.

Wrth edrych yn ôl dros y flwyddyn, does dim modd anwybyddu methiant Llywodraeth y Deyrnas Unedig i sicrhau cytundeb derbyniol i ymadael â’r Undeb Ewropeaidd.  

Llai na 100 diwrnod sydd ar ôl nes bydd y DU yn ymadael â’r UE. Mae’r flwyddyn newydd ar y gorwel a does dim arwydd y bydd modd datrys yr anghytundeb rhwng Senedd a Llywodraeth y DU. Byddai ymadael heb gytundeb yn cael effaith arbennig o ddifrifol ar Gymru.

Yn ystod y cyfnod ansicr hwn, bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i wneud  popeth o fewn ein gallu i ddiogelu swyddi Cymru, i gefnogi ein heconomi ac i warchod ein gwasanaethau cyhoeddus yn y sefyllfa anodd sydd ohoni.

Mae’n bwysig inni i gyd gofio y gallwn oll wneud ein rhan i uno’n gwlad ac i osgoi rhaniadau pellach – boed yn ein cymunedau neu hyd yn oed o fewn ein teuluoedd ein hunain.

Mae cyfnod y Nadolig yn adeg ar gyfer teuluoedd, ffrindiau ac ewyllys da. Rwy’n meddwl am y rhai llai ffodus  – o’r llawer gormod a fydd yn cysgu ar y stryd y Nadolig hwn i’r bobl ar draws y byd sy’n wynebu peryglon bob dydd yn sgil gwrthdaro parhaus.

Rhaid diolch o galon hefyd i staff a gwirfoddolwyr ein gwasanaeth iechyd, gofal cymdeithasol a gwasanaethau brys sy’n gweithio dros wyliau’r Nadolig i gynnal ein gwasanaethau. Mae’ch ymrwymiad a’ch gwaith caled chi yn gwbl ryfeddol.

Wrth i fy mis cyntaf fel Prif Weinidog ddod i ben, rwy’n dal yn ymwybodol o’r cyfleoedd a’r cyfrifoldebau sy’n rhan o’r swydd. Rwy’n edrych ymlaen at gael gweithio gyda’r Cabinet newydd i gyflawni ar ran pobl Cymru.

Nadolig llawen iawn i chi i gyd!