Yn ei neges Nadolig mae Mark Drakeford yn dweud:
Nadolig Llawen i chi i gyd.
Gobeithio y cewch chi Nadolig diogel, heddychlon a hapus.
Wrth i ni ddod at ein gilydd gyda ffrindiau a theulu, mae cysgod y pandemig yno o hyd.
Ond, unwaith eto, byddwn yn tynnu gyda’n gilydd i ddod trwy’r cyfnod anodd hwn.
I roi help llaw i deulu, ffrindiau a chymdogion.
Ac i edrych ymlaen at y dyfodol gyda gobaith ac optimistiaeth.
Y Nadolig hwn, bydd llawer o bobl yn gweithio ddydd a nos i’n cadw ni yn ddiogel – gwirfoddolwyr yn y gymuned, staff y Gwasanaeth Iechyd a’r gwasanaethau brys.
Ac wrth gwrs yr holl bobl sydd wedi aberthu eu Nadolig i weithio yn y canolfannau brechu ledled y wlad. I’n hamddiffyn ni rhag y feirws ofnadwy hwn.
Mae ymroddiad a gwasanaeth y “fyddin frechu” werth y byd i ni.
Diolch yn fawr iawn am eich holl waith caled.
Rwyf am i chi i gyd gael gorffwys, hedd a llawenydd dros yr Ŵyl.
Nadolig Llawen.