Neidio i'r prif gynnwy

Dyma alwad Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, wrth i’n gwasanaethau gofal iechyd a’n byrddau iechyd barhau i ymateb i bandemig y coronafeirws.

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Hydref 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd diogelu gwasanaethau hanfodol a gofyn am gyngor yn y lle cywir yn ein helpu i ddiogelu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG).

Yn ôl byrddau iechyd Cymru byddai’n fwy priodol pe bai tua 20% i 30% o gleifion sy’n mynd i Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys yn cael eu trin rywle arall neu mewn ffordd arall.

Fel rhan o’r ymgyrch i Ddiogelu’r GIG, gofynnir i bobl ddefnyddio’r adnodd gwirio symptomau ar lein sydd i’w gael ar wefan gwasanaeth GIG 111 Cymru neu dylent ffonio 111 i gael cyngor ynglŷn â ble i fynd i gael y driniaeth gywir.

Gall fferyllfeydd cymunedol hefyd helpu mewn amrywiol ffyrdd gan gynnwys helpu gyda mân anhwylderau ac anafiadau. I helpu fferyllfeydd i dderbyn eu meddyginiaethau mewn da bryd, gofynnir i bobl archebu eu presgripsiynau 7 diwrnod cyn y bydd eu hangen arnynt.  

Dylai pobl fynd i’r ysbyty o hyd pan ofynnir iddynt wneud hynny er mwyn parhau â’u triniaeth neu i’w hadolygu. Mae ysbytai wedi rhoi mesurau priodol ar waith i ddiogelu pobl, gan gynnwys trin pobl sydd â COVID-19 neu bobl yr amheuir bod ganddynt COVID-19 mewn ardaloedd ar wahân i’r rheini nad oes ganddynt y feirws er mwyn atal y risg o’i ledaenu.

Ni ddylai’r rheini sydd â symptomau o COVID fynd i’w fferyllfa, at eu meddyg teulu nac i’r Adran Damweiniau ac Achosion Brys leol. Yn hytrach, dylai’r unigolion hynny drefnu cael prawf drwy'r gwasanaeth 119 a ffonio 111 os bydd eu symptomau’n parhau neu os na fyddant yn gallu ymdopi gartref mwyach.

Dywedodd Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd:

Nawr yn fwy nag erioed mae angen i bobl feddwl yn ofalus ymhle i ofyn am gyngor er mwyn osgoi rhoi pwysau ychwanegol ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol y gaeaf hwn.  

Mae’n bwysicach nag erioed bod pobl yn meddwl am y math o gyngor neu ofal sydd eu hangen arnyn nhw os byddan nhw eu hunain neu aelod arall o’u teulu yn cael salwch neu anaf yn annisgwyl.  

Rydyn ni’n gofyn i bobl ddefnyddio’r gwasanaethau cywir er mwyn sicrhau na fyddwn yn rhoi pwysau ychwanegol ar feddygon teulu, Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys a’r gwasanaeth ambiwlans brys wrth iddyn nhw barhau i ymateb i bandemig y coronafeirws.

Wrth i’r gaeaf agosáu rydyn ni’n gwybod bod mwy a mwy o bobl yn debygol o ddioddef o fân anhwylderau, fel annwyd a hoffwn annog pobl i ofyn am gyngor yn y lle cywir – bydd hyn yn sicrhau eu bod yn cael y cyngor, cymorth neu driniaeth sydd eu hangen arnynt.

Eleni, fel cenedl, rydyn ni wedi gweithio gyda’n gilydd i atal lledaeniad y coronafeirws ac i gefnogi ein staff ymroddedig yn y GIG ac ym maes gofal. Rydw i’n galw unwaith eto ar bob un i chwarae ei ran i ddiogelu’r GIG.

Dywedodd Andrew Evans, y Prif Swyddog Fferyllol:

Mae fferyllwyr a fferyllfeydd cymunedol wedi gweithio’n hynod o galed ac wedi chwarae rôl allweddol yn ystod pandemig y coronafeirws, gan wneud yn siŵr bod pobl yn cael y feddyginiaeth a’r gefnogaeth gywir. Dros y gaeaf hwn bydd gwasanaethau fferyllol yno unwaith eto yn brechu rhag y ffliw, ac yn darparu cyngor a thriniaeth ar gyfer mân anhwylderau. Hoffwn i ofyn i bob un wneud popeth posibl i ddewis y gwasanaeth cywir ond i ddefnyddio gwasanaethau fferyllol yn y ffordd gywir hefyd. Pan fo hynny’n bosibl, mae hyn yn cynnwys eu helpu nhw drwy sicrhau bod presgripsiynau rheolaidd yn cael eu harchebu saith ddiwrnod ymlaen llaw. Gallwn ni i gyd chwarae ein rôl y gaeaf hwn i ddiogelu ein gwasanaethau iechyd.