Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi £300,000 i Vox Pictures i greu ail gyfres o'r ddrama hynod lwyddiannus 'Un Bore Mercher'/'Keeping Faith'.

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Hydref 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Llwyddodd y gyfres gyntaf i ddenu'r gynulleidfa fwyaf ar gyfer drama ar BBC Wales mewn mwy nag 20 mlynedd. Ar ôl cael eu gweld fwy na 15 miliwn o weithiau ar iPlayer, cafodd ei phrynu gan BBC Network a'i dangos gyda llwyddiant mawr ar BBC One.

Bydd yr ail gyfres yn dechrau lle gorffennodd y gyntaf gyda Faith (Eve Myles) yn ceisio ailadeiladu'i bywyd ar ôl diwedd cyffrous y gyfres gyntaf. Bydd y gyfres yn cael ei rhannu'n chwe phennod awr o hyd, gyda'r rhan fwyaf o'r ffilmio'n cael ei wneud ar leoliad yn Nhalacharn (tref ddychmygol Abercoran yn y gyfres) gan roi llwyfan i lan-môr bendigedig Cymru. Bydd gweddill y rhaglen yn cael ei ffilmio yn Dragon Studios.

Fel y gyfres gyntaf, caiff ei ffilmio yn y Saesneg yn ogystal â'r Gymraeg a dangosir y Saesneg ar y BBC ar ôl darlledu'r fersiwn Gymraeg ar S4C.

Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates:

“Rydyn ni wedi gweithio'n hynod galed i ddenu'r cynyrchiadau teledu a ffilm gorau i Gymru ac i wneud yn fawr o'r manteision economaidd a ddaw yn eu sgil. Y ddwy flynedd ddiwethaf fu'r brysuraf erioed i Lywodraeth Cymru o ran cefnogi teledu a ffilm, gyda chynyrchiadau uchel eu proffil fel Journey's End, Requiem, Britannia, Kiri ac wrth gwrs Un Bore Mercher/Keeping Faith yn cyfrannu at gryfhau ein henw da fel gwlad benigamp ar gyfer ffilmio ynddi.

Rydyn ni wedi gweld cynnydd mawr yn nifer y cynyrchiadau sy'n derbyn nawdd Llywodraeth Cymru sy'n cael eu ffilmio yng Nghymru, a chynnydd cyfatebol yn yr arian sy'n cael ei wario yn yr economi o ganlyniad. Yn wir, am bob £1 y mae Llywodraeth Cymru'n ei buddsoddi mewn cynyrchiadau ffilm a theledu, mae o leiaf £8 yn cael ei wario yn economi Cymru.

Rwy'n rhagweld y gwnaiff ail gyfres y ddrama hynod lwyddiannus hon ddenu hyd yn oed mwy o gynyrchiadau o'r ansawdd uchaf i Gymru."