Neidio i'r prif gynnwy
Bryn Arau Duon

Mae Bryn yr Arau Duon yn Sir Gaerfyrddin yn goetir a reolir yn dda sy'n cael ei drawsnewid o blanhigfa conwydd ucheldirol i Goedwig Gorchudd Parhaus.

Mae gan y safle gysylltiadau da ac mae'n cynnig mynediad da i bobl drwy hawliau tramwy cyhoeddus.

Mae Coedwigaeth Gorchudd Parhaus (CCF) yn ddull rheoli coetir cynaliadwy sy'n gyfeillgar i natur ac sy'n darparu amrediad o fanteision. 

Mae'r dull rheoli hwn, sy'n cynnwys teneuo coed yn ddetholus, yn helpu coetiroedd drwy: 

  • eu gwneud yn fwy cadarn yn erbyn newid yn yr hinsawdd, plâu a chlefydau, 
  • hybu bioamrywiaeth 
  • Annog adfywio naturiol

Mae hefyd yn arwain at greu strwythur coedwig amrywiol, a  chynhyrchu pren wrth gadw gorchudd canopi. 

Mae Bryn yr Arau Duon yn rhan o rwydwaith cenedlaethol o goedwigoedd gorchudd parhaus ymchwil, a elwir y Rhwydwaith Coedamaeth Afreolaidd. (Mae system goedamaeth yn cyfeirio at y broses o drin, cynaeafu ac adfywio coedwig.) Mae data o'r rhwydwaith yn cael ei gasglu a'i rannu i lywio arferion gorau coedamaeth yng Nghymru, Lloegr, yr Alban ac Iwerddon.

Fel coetir amlbwrpas deinamig, mae Bryn yr Arau Duon yn diogelu bioamrywiaeth, gan warchod a gwella gwasanaethau ecosystem, yn ogystal â chefnogi'r diwydiant pren yng Nghymru drwy gynhyrchu pren o safon ar gyfer marchnadoedd lleol. 

Mae'r lefelau uwch o gen a mwsoglau ar lawr y goedwig, oherwydd arferion coedwigaeth gorchudd parhaus, yn cynyddu dal a storio carbon yn ogystal â helpu i liniaru llifogydd.

Mae'r coetir hefyd yn gartref i wiwerod coch a beleod. Gan weithio gyda Phartneriaeth Gwiwerod Coch Canolbarth Cymru, mae'r safle'n monitro'r boblogaeth o wiwerod coch, sydd mewn perygl, fel rhan o brosiect cadwraeth rhanbarthol. Mae Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Vincent hefyd yn arwain gweithgareddau monitro bywyd gwyllt cymunedol ar y safle, sy'n canolbwyntio ar ddiogelu beleod.   

Coedwig Genedlaethol i Gymru

Dysgwch fwy am Goedwig Genedlaethol Cymru a sut y gallwch chi gymryd rhan.