Neidio i'r prif gynnwy

Gwelwyd cynnydd enfawr o 35% yn nifer yr israddedigion rhan-amser o Gymru, diolch i becyn cymorth newydd radical Llywodraeth Cymru i fyfyrwyr.

Cyhoeddwyd gyntaf:
31 Ionawr 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Dyma'r ystadegau cyntaf i adrodd ar y system gymorth newydd i fyfyrwyr. Maent hefyd yn dangos cynnydd o 58% yn nifer yr ôl-raddedigion a gefnogir. Roedd llawer o ôl-raddedigion Cymru yn gymwys i gael bwrsarïau dynodedig a chymorth gan brifysgolion Cymru eleni, diolch i gyllid Llywodraeth Cymru, cyn cyflwyno'n llawn rantiau a benthyciadau o fis Medi eleni a benderfynir ar sail prawf moddion.

Yn rhannau eraill y DU, nid oes grant Llywodraeth ar gyfer costau byw i fyfyrwyr israddedig nac ôl-raddedig rhan-amser. Y llynedd, pennodd y Gweinidog Addysg nod o gynnydd o 10% yn nifer myfyrwyr ôl-raddedig Cymru erbyn diwedd tymor y Llywodraeth hon.

Dywedodd Kirsty Williams, yr Ysgrifennydd Addysg:

"Mae hyn yn newyddion bendigedig ac yn gymeradwyaeth wirioneddol i'n pecyn cymorth i fyfyrwyr, y cyntaf o'i fath yn y DU ac yn Ewrop.

"Rydyn ni wedi dweud bob amser mai costau byw uchel yw'r prif rwystr i fyfyrwyr wrth ystyried mynd i'r brifysgol. Fe gafodd ein pecyn cymorth ei ddylunio'n benodol i fynd i'r afael â'r pryderon hyn, i'w gwneud yn haws i bobl astudio'n rhan-amser, yn enwedig os oes ganddynt ymrwymiadau gwaith neu deuluol.

"Mae ein dull radical o gefnogi pobl i astudio'n rhan-amser yn hanfodol er mwyn hwyluso symudedd cymdeithasol, cyflogaeth, mynediad i'r proffesiynau a chyflawni ein hymrwymiad i ddysgu gydol oes."

Dywedodd Louise Casella, Cyfarwyddwr y Brifysgol Agored yng Nghymru:

"Gwelodd y Brifysgol Agored yng Nghymru gynnydd o 49% yn y niferoedd a recriwtiwyd ym mis Hydref y llynedd. Mae hyn yn cynrychioli cannoedd yn rhagor o bobl sy’n cychwyn ar ddysgu a fydd yn trawsnewid bywydau eu teuluoedd a'u cymunedau. Rydym wedi gweld cynnydd o 67% yn nifer y myfyrwyr o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru, cynnydd o 57% mewn myfyrwyr anabl a chynnydd o 30% yn nifer y dysgwyr o grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig.

"Rwy'n falch bod Llywodraeth Cymru yn tynnu sylw at yr effaith mae'r system gyllido newydd yn ei chael ar astudio rhan-amser yng Nghymru. Gyda grantiau cynhaliaeth bellach ar gael i ddysgwyr rhan-amser o bell hefyd, nid yw astudio hyblyg erioed wedi bod mor fforddiadwy. Mae hyn yn helpu’r Brifysgol Agored yng Nghymru i wneud astudio am radd yn realiti i'r rhai nad ydynt efallai wedi ei ystyried o’r blaen."

Dywedodd Julie Lydon, Cadeirydd Prifysgolion Cymru:

"Rydym yn falch iawn o weld y cynnydd yn nifer y myfyrwyr sy'n dewis astudio'n rhan-amser yng Nghymru, sy’n dangos yn glir bod y pecyn cymorth newydd i fyfyrwyr ac i ariannu addysg uwch yng Nghymru yn gweithio.

"Yn y degawd nesaf, bydd Cymru'n wynebu sawl her yn sgil newidiadau yn y gweithle a datblygiadau technolegol. Bydd hyn yn golygu bod angen gweithlu mwy medrus yng Nghymru. Bydd dysgu hyblyg, fel astudio'n rhan-amser, yn chwarae rôl allweddol wrth baratoi pobl, lleoedd a busnesau Cymru ar gyfer y dyfodol.

"Mae'r cynnydd hwn mewn astudiaethau rhan-amser ac ôl-radd yn dangos, gyda'r pecyn cymorth newydd i fyfyrwyr ac addysg uwch yng Nghymru, ein bod ar y trywydd iawn i roi cyfleoedd i bobl o bob oed a chefndir fanteisio ar addysg uwch."