Neidio i'r prif gynnwy

Mae Cymru wedi sicrhau 62 o brosiectau buddsoddiad mewnol yn ystod 2019-20, i fyny o 51 o fuddsoddiadau yn ystod y flwyddyn flaenorol, gan greu a diogelu mwy na 3,100 o swyddi ledled y wlad.

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Gorffennaf 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae ystadegau newydd sydd wedi’u cyhoeddi heddiw (10 Gorffennaf) gan Adran y DU ar gyfer Masnach Ryngwladol yn dangos bod Cymru wedi sicrhau 62 o brosiectau buddsoddiad mewnol yn ystod 2019-20, cynnydd o 22% ar y flwyddyn flaenorol. Mae hyn yn cymharu â chynnydd o 4% yn y DU yn gyffredinol.

Yn gyffredinol, mae nifer y swyddi newydd sydd wedi’u creu gan fuddsoddiad o dramor wedi gostwng ledled y DU ond gwelwyd Cymru’n mynd yn groes i’r duedd yma gyda chynnydd o 18 y cant yn nifer y swyddi newydd sydd wedi’u creu o gymharu â’r flwyddyn flaenorol.

Mae’r cynnydd hwn yn cyfateb i 2,738 o swyddi newydd, a chafodd 455 o swyddi pellach eu diogelu. Buddsoddwyd ledled Cymru gyfan, gyda 54% yn y de ddwyrain, 24% yng ngogledd Cymru a 23% yng nghanolbarth a de orllewin Cymru.

O blith y 62 o fuddsoddiadau, daeth 24 o’r UE, 18 o Ogledd America ac 20 o weddill y byd. Hefyd, sicrhawyd 73 o fuddsoddiadau gan gwmnïau â’u pencadlys yn y DU, gan greu 2,896 o swyddi newydd.

Wrth ymateb i’r ystadegau, dywedodd y Gweinidog ar gyfer Cysylltiadau Rhyngwladol, Eluned Morgan:

“Mae cynyddu lefelau’r buddsoddiadau mewnol er mwyn datblygu economi Cymru’n uchelgais allweddol fel rhan o’n strategaeth ryngwladol ac mae’r ffigurau hyn yn dyst i’r gwaith rydyn ni’n ei wneud yn hybu Cymru fel lle i fuddsoddi ynddo, gyda thua 75% o’r buddsoddiadau’n derbyn cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru.

“Rydw i’n hynod falch o weld cyfran sylweddol o fuddsoddiadau newydd yn y sectorau seibr ddiogelwch a lled-ddargludyddion cyfansawdd, dau faes rydyn ni wedi dewis eu harddangos fel canolfannau rhagoriaeth yng Nghymru yn ein strategaeth ryngwladol.”

Mae dadansoddiad pellach o’r ffigurau’n dangos bod Cymru wedi sicrhau un o’r cymarebau swyddi newydd i brosiect uchaf o gymharu â rhanbarthau eraill y DU.

Ychwanegodd y gweinidog:

“Mae Cymru wedi sicrhau cyfartaledd o 44 o swyddi newydd i bob buddsoddiad, yr ail gymhareb uchaf ymhlith rhanbarthau’r DU, gan ddangos ein hymrwymiad i gefnogi buddsoddiadau o safon sy’n creu cyfleoedd cyflogaeth arwyddocaol i bobl Cymru.”