Neidio i'r prif gynnwy

Mae Mark Drakeford, y Prif Weinidog, yn gofyn i artistiaid ifanc brwdfrydig gymryd rhan yn ei gystadleuaeth dylunio cerdyn Nadolig eleni.

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Tachwedd 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd y cynllun buddugol yn cael ei ddewis gan y Prif Weinidog, ac yn cael ei ddefnyddio fel ei gerdyn Nadolig swyddogol.

Mae’r Prif Weinidog yn anfon ei gerdyn Nadolig at filoedd o bobl ledled y byd, gan gynnwys y Frenhines ac Arlywydd yr Unol Daleithiau, Joe Biden, a’r Dirprwy Arlywydd, Kamala Harris.

Mae’r gystadleuaeth ar agor i blant ym mlynyddoedd 5 a 6 yn yr ysgol gynradd.

Ar ôl ymweliad y Prif Weinidog â Glasgow ar gyfer Uwchgynhadledd COP26, thema’r gystadleuaeth eleni yw ‘Nadolig Gwyrdd’.

Dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford:

"Roedd yn wych gweld cannoedd o gardiau’n cystadlu’r llynedd. Dw i’n edrych ymlaen at weld fy nesg wedi ei gorchuddio eto eleni gyda chynlluniau lliwgar ar gyfer yr ŵyl.

“Dw i’n gobeithio y bydd y thema ‘Nadolig gwyrdd’ yn gwneud i blant feddwl am sut y gallwn ni i gyd chwarae ein rhan yn yr ymgyrch i leihau llygredd, er mwyn diogelu byd natur a’r hinsawdd.

“Efallai fod angen rhywbeth i godi ein calonnau wedi blwyddyn anodd. Dw i wir yn edrych ymlaen at weld canlyniadau dychymyg y plant yn cyrraedd yn y blwch post.”

Y dyddiad cau yw 12 Tachwedd.

E-bostiwch eich ceisiadau i cabinetcommunications@llyw.cymru

Canllawiau ar gyfer cymryd rhan

  • Y dyddiad cau ar gyfer y gystadleuaeth yw 12 Tachwedd
  • Mae’r gystadleuaeth ar agor i blant oed ysgol ym mlynyddoedd pump a chwech
  • Dylai pob cerdyn fod yn faint A4 ar y mwyaf (210mm x 297mm)
  • Nid oes ots a yw’r cerdyn ar i fyny neu ar draws
  • Dylai pob cerdyn fod yn ‘fflat’ – dim arwyneb anwastad, dim gwlân cotwm, glitr ac ati
  • Lliwiau llachar sy’n cael eu hatgynhyrchu orau
  • Dylech osgoi cefndir tywyll
  • Os ydych am gynnwys testun, yna gofynnwch i’ch athro eich helpu i gyfieithu neu defnyddiwch Google Translate. Dyma rai ymadroddion safonol: Nadolig Llawen - Merry Christmas / Cyfarchion y Tymor - Season’s Greetings. Rhowch y Gymraeg yn gyntaf ac yna’r Saesneg.
  • Cofiwch gynnwys enw a manylion cyswllt y plentyn gyda’r cerdyn
  • Yn anffodus, ni allwn ddychwelyd unrhyw gardiau
  • Gellir anfon cardiau sydd wedi’u gwneud ar gyfrifiadur drwy e-bost. Gellir anfon cardiau nad ydynt wedi’u creu ar gyfrifiadur drwy e-bost hefyd – tynnwch lun clir o’ch cynllun, ond cofiwch gadw’r gwaith gwreiddiol fel y gallwch ei anfon atom os byddwch yn llwyddiannus.