Dros yr haf gofynnir a ddylid codi tâl ychwanegol mewn perthynas â phrynu ail gartrefi a phrynu i osod yng Nghymru pan gaiff treth dir y dreth stamp ei datganoli yn Ebrill 2018.
Bydd ymgynghoriad newydd, sy’n cael ei lansio heddiw gan yr Ysgrifennydd Cyllid Mark Drakeford, yn casglu safbwyntiau tan 31 Awst.
Caiff treth dir y dreth stamp ei disodli yng Nghymru yn Ebrill 2018 gan dreth trafodiadau tir newydd. Wrth iddi baratoi ar gyfer datganoli pwerau trethi, mae Llywodraeth Cymru’n ceisio barn y cyhoedd, rhanddeiliaid a phartïon sydd â buddiant am y cyfraddau uwch o dreth trafodiadau tir ar eiddo preswyl ychwanegol yng Nghymru, megis ail gartrefi a phrynu i osod.
Mae'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol (OBR) wedi amcangyfrif y byddai refeniw yng Nghymru yn sgil y gyfradd uwch ar eiddo preswyl ychwanegol yn codi £9 miliwn yn 2016-17, gan godi i £14 miliwn yn 2020-21. Byddai hyn yn helpu i ariannu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.
Ac yntau’n lansio’r ymgynghoriad, dywedodd Mark Drakeford:
"O Ebrill 2018, bydd gan Gymru dreth trafodiadau tir newydd, a fydd yn disodli treth dir y dreth stamp. Mae llawer iawn o waith eisoes ar y gweill i baratoi ar gyfer datganoli pwerau trethi ac rydym wedi ymgynghori'n eang ar sut y bydd y Dreth Trafodiadau Tir newydd i Gymru’n edrych ac yn gweithio.
"Ers i’r ymgynghoriad gael ei gynnal, bu newid i daliadau treth dir y dreth stamp yn y DU a’r Alban gyda chyfraddau uwch yn cael eu codi ar eiddo preswyl ychwanegol. Dyna pam rydym wedi cyhoeddi Papur Trysorlys Cymru heddiw ynghylch y cyfraddau uwch, i gasglu barn pobl am sut y gallai hyn weithio yng Nghymru pan gaiff y dreth ei datganoli.
"Rwyf wedi ymrwymo i sicrhau bod ein polisi trethi a’r system ehangach ar gyfer trethi datganoledig yng Nghymru yn deg, yn gydlynol ac yn gydgysylltiedig.
"Hoffwn annog prynwyr tai, asiantau, gweithwyr proffesiynol ym maes trethi a rhanddeiliaid i rannu eu safbwyntiau â ni ar y mater pwysig hwn."