Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru: adnabod grwpiau o ardaloedd bach yn seiliedig ar ddangosyddion amddifadedd
Canfod patrymau amddifadedd yng Nghymru: mewnwelediadau o ddadansoddiad clystyru WIMD 2019. Seasneg yn unig.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) yw dull swyddogol Llywodraeth Cymru o fesur amddifadedd cymharol yng Nghymru. Mae MALlC yn graddio pob ardal fach (a elwir yn Ardal Cynnyrch Ehangach Haen Is, neu ACEHI) yng Nghymru o 1 (mwyaf difreintiedig) i 1,909 (lleiaf difreintiedig) mewn wyth maes (er enghraifft: incwm, addysg, iechyd) gan ddefnyddio swm wedi’i bwysoli o 47 o ddangosyddion sylfaenol gwahanol; Mae’r rhain yn feintiau mesuradwy sy’n nodi’r cysyniad o amddifadedd ar gyfer pob maes. Ceir tabl chwilio ar gyfer disgrifiad o bob dangosydd a’r cod talfyredig cyfatebol ar ddiwedd yr adroddiad. Defnyddir y meysydd hyn hefyd i gyfrifo gradd amddifadedd gyffredinol. Am ragor o wybodaeth ynglŷn â sut y lluniwyd MALlC, gweler yr adran ar MALlC ar wefan Llywodraeth Cymru.
Fel rhan o’r prosiect hwn, gwnaethom ddefnyddio technegau clystyru i ymdrin â data ar ddangosyddion MALlC er mwyn segmentu grwpiau o ardaloedd bach yng Nghymru sy’n rhannu nodweddion amddifadedd cyffredin. Mae’r dull gweithredu hwn yn ei gwneud yn bosibl inni ddatgelu ac archwilio patrymau yn y data ar ddangosyddion MALlC sy’n adlewyrchu’r cyfuniadau gwahanol o amddifadedd ledled Cymru.
Amlinelliad o’r adroddiad
Yn y prosiect hwn, gwnaethom glystyru’r 1,909 o ardaloedd yn ddau brif glwstwr yn gyntaf, cyn rhannu’r clystyrau hynny ymhellach yn dri is-glwstwr yr un. Arweiniodd hyn at chwe is-glwstwr sy’n cynrychioli proffiliau amddifadedd gwahanol ledled Cymru.
Bydd yr adroddiad hwn yn rhoi disgrifiad cryno o’r ddau brif glwstwr cyn rhoi disgrifiadau manylach a dadansoddiad o’r chwe is-glwstwr. Ar gyfer pob is-glwstwr, byddwn yn disgrifio:
- patrymau graddio amddifadedd cyffredinol
- perfformiad mewn perthynas â dangosyddion MALlC allweddol sy’n gwahaniaethu rhwng yr is-glwstwr ac is-glystyrau eraill
- y rhaniad gwledig-trefol
At hynny, caiff pob is-glwstwr ei ategu gan dair astudiaeth achos o ardaloedd bach sy’n gynrychioliadol o’u his-glwstwr. Drwy archwilio’r astudiaethau achos hyn, bydd yr adroddiad hwn yn ceisio llunio proffiliau amddifadedd gwahanol pob is-glwstwr a sut maent yn amrywio. Rydym wedi darparu tablau sy’n dangos y gwahaniaeth cymharol mewn dangosyddion allweddol sy’n gwahaniaethu rhwng yr is-glwstwr ac is-glystyrau eraill, gan gynnwys y gwahaniaeth rhwng y canolrif cenedlaethol a’r degradd y mae’r ardal fach yn perthyn iddo ar gyfer y dangosydd hwnnw.
Ansawdd data
Noder mai Llywodraeth Cymru yw ffynhonnell yr holl ffigurau, tablau ac atodiadau oni nodir fel arall.
Caiff dangosyddion MALlC eu llunio gan ddefnyddio amrywiaeth eang o setiau data a gasglwyd mewn blynyddoedd gwahanol (gweler adroddiad technegol MALlC am wybodaeth fanylach). Mae’n bosibl bod setiau data sy’n sail i ddangosyddion MALlC wedi cael eu diweddaru â data mwy diweddar ers cyhoeddi MALlC 2019. Hefyd, yr ACEHIau y cyfeirir atynt yn y dadansoddiad hwn yw’r rhai a roddwyd ar waith yn 2011, a hynny am mai’r rhain oedd yr ACEHIau a ddefnyddiwyd yn nadansoddiad MALlC 2019 Yn 2021, diffiniodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) ACEHIau newydd oherwydd newidiadau yn y boblogaeth ac aelwydydd. Arweiniodd hyn at uno/rhannu rhai o ACEHIau 2011 er mwyn sicrhau eu bod yn cyrraedd y trothwyon o ran poblogaeth ac aelwydydd.
Cyfyngiadau dangosyddion
Cyfeirir at y 47 o ddangosyddion sylfaenol sy’n rhan o wyth maes MALlC drwy’r adroddiad cyfan hwn. Rydym yn defnyddio’r disgrifiadau o ddangosyddion yn nheitlau ffigurau ac wrth gyfeirio atynt yn y testun, ond mewn rhai ffigurau rydym wedi defnyddio codau talfyredig dangosyddion er mwyn gwneud yr adroddiad yn haws ei ddarllen. Ceir tabl chwilio ar gyfer disgrifiad llawn o bob dangosydd a chod y dangosydd yn yr atodiad ar ddiwedd yr adroddiad.
Y dangosydd sydd fwyaf tebygol o fod wedi newid ers i’r data gael eu casglu ar gyfer mynegai 2019 yw % y diffyg argaeledd band eang ar 30mb/e. Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, hwyluswyd y gwaith o gyflwyno band eang cyflymach ledled Cymru gan gynlluniau wedi’u cefnogi gan Lywodraeth Cymru, megis prosiect olynol Cyflymu Cymru a’r Gronfa Band Eang Leol. Mae adroddiad diweddaraf Cysylltu’r Gwledydd Ofcom yn dangos bod darpariaeth band eang cyflym iawn i breswylfeydd yng Nghymru wedi cynyddu i 95%, sef cynnydd o 2% ers 2019. Fodd bynnag, o rannu’r ganran hon yn ôl y categori gwledig-trefol, ceir ffigur o 98% ar gyfer ardaloedd trefol ac 85% ar gyfer ardaloedd gwledig.
Gallai’r wybodaeth wedi’i diweddaru am fand eang gael effaith nodedig ar ein dadansoddiad, yn enwedig ar gyfer Prif Glwstwr 2 am mai’r dangosydd “% y Diffyg argaeledd band eang ar 30Mb/e” yw’r 9fed nodwedd bwysicaf o blith y 25 o ddangosyddion a ddefnyddir. Os yw’r newidiadau o ran argaeledd band eang yn sylweddol, yna gall hynny effeithio ar y patrymau amddifadedd a nodwyd.
Gwledigrwydd
Mae’r ffordd y dosberthir ardaloedd trefol a gwledig yn gategorïau yn seiliedig ar set ddata Dosbarthiadau Trefol a Gwledig SYG 2011 sy’n defnyddio ardaloedd cynnyrch 2011. Yn y set ddata hon, dynodir ardaloedd â phoblogaeth >10,000 yn rhai ‘trefol’. Mae pob ardal arall wedi’i chategoreiddio’n un wledig. Yna, mae’r meysydd trefol a gwledig yn cael eu his-rannu’n chwe math o anheddiad a archwilir ar gyfer pob is-glwstwr, yn ogystal â dosbarthiad Ardaloedd Adeiledig (AAau), a all roi gwell amcan o ddwysedd cyfartalog y boblogaeth ym mhob un o’r is-glystyrau. Er ei bod yn bwysig nodi y daw’r data am nifer yr ardaloedd mewn gwahanol gategorïau trefol-gwledig a gwahanol feintiau o AAau o 2011 ac nad ydynt yn adlewyrchu’r newidiadau mwyaf diweddar o bosibl, dyma’r wybodaeth ddiweddaraf sydd ar gael inni.
Y ddau brif glwstwr
Yn y cam dadansoddi data cychwynnol, drwy gymhwyso profion algorithm clystyru at ein set ddata datgelwyd presenoldeb dau grŵp ar wahân yn y data. Nodwyd y ddau grŵp cychwynnol hyn yn seiliedig ar eu priodweddau cynhenid sy’n gwahaniaethu’r naill grŵp oddi wrth y llall. Bu’r broses o nodi’r ddau brif glwstwr hyn yn gam hollbwysig am iddi osod y sylfeini ar gyfer archwiliad manylach o’r data.
Archwiliwyd priodoleddau unigryw’r ddau brif glwstwr er mwyn deall yn well y nodweddion a oedd yn eu diffinio a phennu llinell sylfaen ar gyfer y gwaith segmentu manylach sy’n dilyn yn ddiweddarach yn yr adroddiad.
Prif Glwstwr 1
Nifer yr ACEHIau: 1017
Poblogaeth: 1,690,000
Arwynebedd (km2): 18,840
Prif Glwstwr 2
Nifer yr ACEHIau: 892
Poblogaeth: 1,463,000
Arwynebedd (km2): 1,909
Mae llai o amddifadedd ym Mhrif Glwstwr 1 nag ym Mhrif Glwstwr 2 ar gyfartaledd, a hynny ym mhob un o feysydd MALlC. Y radd ganolrifol ar gyfer amddifadedd cyffredinol yw 1,400 ar gyfer Prif Glwstwr 1 a 447 ar gyfer Prif Glwstwr 2 (noder: gradd 1 = mwyaf difreintiedig, gradd 1909 = lleiaf difreintiedig).
Ffigur 1: Dosbarthiad Prif Glwstwr 1 a Phrif Glwstwr 2 ledled Cymru ar lefel AGEHI
Disgrifiad o Ffigur 1: Map sy’n dynodi cynrychioliad gweledol o ddosbarthiad Prif Glwstwr 1 a Phrif Glwstwr 2 ledled Cymru ar lefel ACEHI. Mae’r map yn cynnwys dau liw gwahanol i gynrychioli’r ddau brif glwstwr. Gwelir Prif Glwstwr 2, a gynrychiolir gan ddaearyddiaethau oren, yn bennaf mewn pocedi yn ninasoedd a chymoedd y de, ac mewn rhai trefi arfordirol a threfi ffin yn y gogledd. Mae Prif Glwstwr 1, a ddangosir mewn daearyddiaethau glas tywyll, yn cynrychioli gweddill Cymru a hwn yw’r clwstwr pennaf yn y canolbarth, y gogledd a’r gorllewin.
Pwysigrwydd nodwedd
Techneg a ddefnyddir ym maes dysgu peirianyddol i nodi nodweddion sy’n cael y dylanwad mwyaf ar ragfynegiadau model yw pwysigrwydd nodwedd. Mae’n ein helpu i ddeall strwythur sylfaenol y data ac ymddygiad y model drwy nodi pa nodweddion sy’n cyfrannu fwyaf at broses gwneud penderfyniadau’r model.
Y nodweddion pwysicaf wrth benderfynu pa ardaloedd bach sy’n rhan o Brif Glwstwr 1 yw: Pobl mewn amddifadedd incwm (INC) ac Oedolion 25 i 64 oed heb gymwysterau (NOQU).
Ffigur 2: Sgoriau Pwysigrwydd Newidynnau Amddifadedd ar gyfer Prif Glwstwr 1
Disgrifiad o Ffigur 2: Siart far sy’n dangos y 10 newidyn amddifadedd pwysicaf a ddefnyddir i ddidoli data i Brif Glwstwr 1 neu Brif Glwstwr 2. Mae’r siart yn dangos bod ychydig o newidynnau yn cael sgoriau pwysigrwydd tipyn yn uwch, gyda’r bariau hwyaf yn cynrychioli’r newidynnau mwyaf dylanwadol. Mae hyn yn golygu bod y newidynnau hyn yn chwarae mwy o rôl o ran diffinio nodweddion y prif glystyrau. Y newidyn INC sydd â’r sgôr pwysigrwydd uchaf, ac yna NOQU, KS4, a CHRON. Mae gan newidynnau eraill fariau byrrach, sy’n cynrychioli llai o bwysigrwydd yn y broses glystyru, a KS2 sydd â’r sgôr pwysigrwydd isaf ar gyfer y Prif Glwstwr hwn.
Dosbarthiad gwledigrwydd
Mae Prif Glwstwr 1 yn fwy gwledig na Phrif Glwstwr 2 ar gyfartaledd. Mae 44% o’r ardaloedd bach ym Mhrif Glwstwr 1 wedi’u dosbarthu’n rhai gwledig, o gymharu â 17% ym Mhrif Glwstwr 2. Mae Prif Glwstwr 1 yn rhychwantu tua 18,833km2 o arwynebedd tir, sy’n sylweddol fwy na Phrif Glwstwr 2, sy’n rhychwantu 1,902km2. Poblogaeth Prif Glwstwr 1 yw tua 1.7 miliwn, a phoblogaeth Prif Glwstwr 2 yw tua 1.5 miliwn.
Mae’r tabl isod yn dangos dadansoddiad wedi’i ddadgyfuno o’r categori gwledigrwydd chwephlyg wedi’i gyfuno ar lefel prif glwstwr – mae Prif Glwstwr 1 yn cynnwys is-glystyrau 1-1, 1-2, ac 1-3. Mae Prif Glwstwr 2 yn cynnwys is-glystyrau 2-1, 2-2, a 2-3.
Categori | Prif Glwstwr 1 | Prif Glwstwr 2 |
---|---|---|
Dinas drefol a thref | 54.1% | 80.5% |
Dinas drefol a thref mewn lleoliad tenau ei boblogaeth | 1.6% | 2.1% |
Tref wledig a chyrion | 13.1% | 13.3% |
Tref wledig a chyrion mewn lleoliad tenau ei boblogaeth | 5.8% | 2.1% |
Pentref gwledig a gwasgaredig | 11.1% | 1.8% |
Pentref gwledig a gwasgaredig mewn lleoliad tenau ei boblogaeth | 14.4% | 0.1% |
Disgrifiad o Dabl 1: Mae’r tabl hwn yn cyflwyno dosbarthiad canrannol y categori gwledigrwydd chwephlyg (ffynhonnell: SYG) ledled Prif Glwstwr 1 a Phrif Glwstwr 2, sy’n nodi gwahaniaethau sylweddol rhwng cyfansoddiadau trefol a gwledig y ddau glwstwr.
Y categori ‘Dinas drefol a thref’ yw’r categori mwyaf yn y ddau glwstwr, gyda chyfran gymharol uwch ym Mhrif Glwstwr 2 (80.5%) o gymharu â Phrif Glwstwr 1 (54.1%). Mae’r categori ‘Dinas drefol a thref mewn lleoliad tenau ei boblogaeth’ yn brin iawn yn y ddau glwstwr, sef 2.1% ar gyfer Prif Glwstwr 2 a 1.6% ar gyfer Prif Glwstwr 1, sy’n adlewyrchu cynrychiolaeth gyfyngedig o ardaloedd trefol tenau eu poblogaeth.
Mae categorïau gwledig yn gymharol fwy cyffredin ym Mhrif Glwstwr 1. Mae’r categori ‘Tref wledig a chyrion’ yn debyg yn y ddau glwstwr, gyda 13.1% yng Nghlwstwr 1 a 13.3% yng Nghlwstwr 2, sy’n awgrymu cyfrannau cymharol o drefi gwledig bach. Fodd bynnag, mae’r categori ‘Tref wledig a chyrion mewn lleoliad tenau ei boblogaeth’ yn fwy cyffredin yng Nghlwstwr 1 (5.8%) nag yng Nghlwstwr 2 (2.1%), sy’n nodi mwy o bresenoldeb o drefi gwledig tenau eu poblogaeth yng Nghlwstwr 1.
Mae’r categori ‘Pentref gwledig a gwasgaredig’ yn tanlinellu cymeriad cymharol wledig Clwstwr 1, lle mae’n cyfrif am 11.1% o ardaloedd, o gymharu â dim ond 1.8% yng Nghlwstwr 2. Mae pentrefi gwledig tenau eu poblogaeth a lleoliadau gwasgaredig yn nodwedd benodol yng Nghlwstwr 1, gyda 14.4% o ardaloedd yn dod o dan y categori hwn, er eu bod yn absennol bron yn gyfan gwbl yng Nghlwstwr 2 (0.1%).
Mae’r tabl isod yn dangos y dadansoddiad o AAau wedi’i gyfuno ar lefel y prif glwstwr – maent yn cynnwys ardaloedd o dir adeiledig ag arwynebedd o 20 hectar o leiaf (200,000m2).
Categori AA | Prif Glwstwr 1 | Prif Glwstwr 2 |
---|---|---|
Mwyaf | 39.6% | 45.2% |
Mawr | 18.7% | 26.5% |
Canolig | 14.7% | 23.9% |
Bach | 31.1% | 4.5% |
Disgrifiad o Dabl 2: Mae’r tabl hwn yn cyflwyno dosbarthiad canrannol categorïau o AAau ledled Prif Glwstwr 1 a Phrif Glwstwr 2, gan nodi gwahaniaethau nodedig yn nodweddion adeiledig y ddau glwstwr. Y categori ‘Mwyaf’, sy’n cynrychioli’r ardaloedd mwyaf adeiledig, yw’r categori pennaf yn y ddau glwstwr. Mae canran uwch (45.2%) yn y categori hwn ym Mhrif Glwstwr 2 o gymharu â Phrif Glwstwr 1 (39.6%), sy’n adlewyrchu cyffredinrwydd cymharol ardaloedd wedi’u trefoli yng Nghlwstwr 2. Mae’r categori ‘Mawr’ yn dangos mwy o wahaniaeth, gyda Phrif Glwstwr 2 yn cynnwys cyfran uwch (26.5%) o gymharu ag 18.7% ym Mhrif Glwstwr 1. Mae hyn yn dangos mwy o bresenoldeb o ardaloedd gweddol adeiledig yng Nghlwstwr 2. Mae’r categori ‘Canolig’ yn dilyn tuedd debyg ac, unwaith eto, mae canran uwch (23.9%) ym Mhrif Glwstwr 2 na Phrif Glwstwr 1 (14.7%). Mae’r patrwm cyson hwn ymhlith y categorïau ‘Mawr’ a ‘Canolig’ yn nodi bod mwy o amrywiaeth a chrynodiad o ardaloedd trefol yng Nghlwstwr 2. Yn y categori ‘Bach’ y gwelir y gwrthgyferbyniad mwyaf. Mae’n fwy cyffredin ym Mhrif Glwstwr 1 (31.1%) nag ym Mhrif Glwstwr 2 (4.5%).
Mae Prif Glwstwr 1 yn dangos dosbarthiad eang o AAau. Y categori ‘Mwyaf’ (39.6%) yw’r categori pennaf, ond mae cyfran nodedig y categori ‘Bach’ (31.1%) yn awgrymu bod elfen wledig sylweddol yn y prif glwstwr hwn. Mae’r categorïau ‘Mawr’ (18.7%) a ‘Canolig’ (14.7%) yn llai amlwg ond maent yn helpu i danlinellu amrywiaeth Prif Glwstwr 1 o ran maint aneddiadau a’u dwysedd.
Mae Prif Glwstwr 2 yn dangos mwy o duedd tuag at ardaloedd adeiledig mwy o faint. Mae’r categori ‘Mwyaf’ (45.2%) yn amlycach yn y prif glwstwr hwn nag y mae ym Mhrif Glwstwr 1. Mae’r categorïau ‘Mawr’ (26.5%) a ‘Canolig’ (23.9%) hefyd yn cynnwys cyfran sylweddol ac yn atgyfnerthu’r elfen drefol o Brif Glwstwr 2. Mae canran gymharol fach y categori ‘Bach’ yn awgrymu llai o bresenoldeb o ardaloedd gwledig neu ardaloedd tenau eu poblogaeth.
Is-glystyrau
Cafodd y broses o rannu Prif Glwstwr 1 a Phrif Glwstwr 2 yn chwe is-glwstwr ei llywio gan ddadansoddiad o’r data. Ein nod oedd cofnodi’r gwahaniaethau cynnil ym mhob prif glwstwr ar lefel ddyfnach. Drwy gymhwyso haen arall o glystyru at yr is-setiau culach o ddata, roeddem yn gallu nodi patrymau a chydberthnasau penodol nad oeddent yn amlwg ar glystyru lefel uwch. Mae pob un o’r chwe is-glwstwr yn cynrychioli grŵp mwy homogenaidd o bwyntiau data, sydd wedi’u nodweddu gan briodoleddau penodol, y gallwn eu harchwilio ymhellach.
Yn yr adrannau nesaf o’r adroddiad hwn, byddwn yn archwilio priodweddau a nodweddion y chwe is-glwstwr hyn yn fanwl. Bydd y dadansoddiad yn canolbwyntio ar yr agweddau unigryw ar bob is-glwstwr. Ceir crynodeb o nodweddion y chwe is-glwstwr hyn yn Nhabl 3 isod.
Is-glwstwr | Disgrifiad o’r is-glwstwr | Nifer yr ardaloedd bach | Poblogaeth amcangyfrifedig | Arwynebedd tir (km sgwâr) | % yr ardaloedd trefol |
---|---|---|---|---|---|
1-1 | Ardaloedd ag amddifadedd cymedrol, wedi’u graddio tuag at y canol ym mhob un o’r meysydd | 453 | 766,000 | 2,160 | 66.7 |
1-2 | Ardaloedd gwledig ac anghysbell ag amddifadedd isel, heblaw am fynediad cymharol wael i wasanaethau a thai | 218 | 360,000 | 15,260 | 1.4 |
1-3 | Ardaloedd is-drefol a gwledig ag amddifadedd isel | 346 | 564,000 | 1,420 | 75.4 |
2-1 | Ardaloedd â lefelau cymharol uchel o amddifadedd, ond mynediad eithaf da i wasanaethau | 357 | 580,000 | 810 | 78.2 |
2-2 | Ardaloedd trefol ag amddifadedd cymedrol | 337 | 565,000 | 930 | 83.7 |
2-3 | Ardaloedd trefol ag amddifadedd uchel, heblaw am amddifadedd tai cymharol isel | 198 | 318,000 | 160 | 88.9 |
Disgrifiad o Dabl 3: Mae’r tabl hwn yn crynhoi’r chwe is-glwstwr, gan fanylu ar eu nodweddion, nifer yr ardaloedd bach, y boblogaeth amcangyfrifedig, arwynebedd tir, a chyfran yr ardaloedd trefol. Mae’n tynnu sylw at yr amrywiaeth o ran proffiliau daearyddol, demograffig, ac amddifadedd rhwng yr is-glystyrau.
Mae is-glwstwr 1-1 yn cynrychioli ardaloedd ag amddifadedd cymedrol a graddio cytbwys ym mhob maes. Yr is-glwstwr hwn sy’n cynnwys y nifer mwyaf o ardaloedd bach (453), ynghyd â phoblogaeth o 766,000, gyda 66.7% yn ardaloedd trefol. Mae ei arwynebedd tir o 2,160 km² yn awgrymu lefel gymedrol o arwynebedd daearyddol o gymharu â’r is-glystyrau eraill.
Mae is-glwstwr 1-2 yn wledig iawn ac yn anghysbell, gydag amddifadedd isel heblaw am fynediad gwael i wasanaethau a thai. Gan ymestyn dros yr arwynebedd tir mwyaf (15,260 km²), mae ond yn cynnwys 218 o ardaloedd bach, sy’n amlygu teneurwydd ei boblogaeth. Ceir poblogaeth amcangyfrifedig o 360,000, ac mae ardaloedd trefol yn cyfrif am 1.4% yn unig, sy’n adlewyrchu ei natur wledig.
Mae is-glwstwr 1-3 yn cynnwys ardaloedd maestrefol a gwledig ag amddifadedd isel. Mae’n ymestyn dros 346 o ardaloedd bach a cheir poblogaeth amcangyfrifedig o 564,000. Ceir arwynebedd tir o 1,420 km², ac felly mae’n llai nag is-glwstwr 1-2 ond mae’n cynnwys cyfran uwch o ardaloedd trefol (75.4%).
Mae is-glwstwr 2-1, a nodweddir gan amddifadedd cymharol uchel ond mynediad da i wasanaethau, yn cynnwys 357 o ardaloedd bach a phoblogaeth o 580,000. Mae’n rhychwantu 810 km², sy’n ei gwneud yn gymharol fach, gyda 78.2% yn ardaloedd gwledig.
Mae is-glwstwr 2-2 yn cynrychioli ardaloedd trefol ag amddifadedd eithaf cymedrol, sy’n cwmpasu 337 o ardaloedd bach a phoblogaeth o 565,000. Ceir arwynebedd tir o 930 km², ac felly mae’n ddaearyddol debyg i is-glwstwr 2-1 ond mae’n cynnwys cyfran ychydig yn uwch o ardaloedd trefol (83.7%).
Is-glwstwr 2-3 yw’r un mwyaf trefol, gydag 88.9% o’i 198 o ardaloedd bach wedi’u dosbarthu’n rhai trefol. Er mai’r is-glwstwr hwn sydd â’r arwynebedd tir lleiaf (160 km²), mae ganddo boblogaeth o 318,000, sy’n dangos dwysedd poblogaeth uchel. Mae’r is-glwstwr hwn hefyd yn dangos lefelau uchel o amddifadedd, gydag amddifadedd tai cymharol isel fel eithriad.
Categori AA | 1-1 | 1-2 | 1-3 | 2-1 | 2-2 | 2-3 |
---|---|---|---|---|---|---|
Mwyaf | 16.8% | 4.1% | 52.0% | 41.5% | 44.2% | 53.5% |
Mawr | 47.2% | 0.0% | 21.1% | 25.8% | 26.1% | 28.3% |
Canolig | 19.7% | 0.5% | 17.1% | 28.6% | 23.2% | 16.7% |
Bach | 16.3% | 95.4% | 9.8% | 4.2% | 6.5% | 1.5% |
Disgrifiad o Dabl 4: Mae’r tabl hwn yn dangos dosbarthiad canrannol categorïau o AAau rhwng y chwe is-glwstwr, sy’n dangos amrywioldeb meintiau ardaloedd.
Yn y tabl uchod, y categori ‘Mwyaf’ yw’r categori pennaf yn is-glystyrau 1-3 (52%) a 2-3 (53.5%), ac mae is-glystyrau 2-2 (44.2%) a 2-1 (41.5%) hefyd yn dangos nodweddion trefol cryf. Mewn gwrthgyferbyniad, is-glwstwr 1-2 sydd â’r gynrychiolaeth leiaf yn y categori hwn (4.1%), sy’n adlewyrchu ei natur wledig. Y categori ‘Mawr’ yw’r un amlycaf yn is-glwstwr 1-1 (47.2%), ond mae is-glystyrau eraill, heb gynnwys 1-2 (0%), yn dangos cyfrannau mwy cymedrol, yn amrywio o 21.1% i 28.3%.
Y categori ‘Canolig’ yw’r un uchaf yn is-glwstwr 2-1 (28.6%) ac is-glwstwr 2-2 (23.2%), gyda chyfrannau llai yn is-glystyrau 1-1 (19.7%) ac 1-3 (17.1%). Unwaith eto, cynrychiolaeth fach iawn sydd gan is-glwstwr 1-2 (0.5%). Y categori ‘Bach’ yw’r categori pennaf yn is-glwstwr 1-2 (95.4%), ac yna is-glwstwr 1-1 (16.3%). Mae gan is-glystyrau eraill gynrychiolaeth fach iawn yn y categori hwn, yn amrywio o 9.8% i 1.5% yn unig.
Mae is-glystyrau 1-2 ac 1-1 yn dangos nodweddion mwy gwledig gyda chyfrannau uwch o ardaloedd llai o faint, ond mae is-glystyrau 1-3, 2-1, 2-2, a 2-3 wedi’u nodweddu gan ardaloedd mwy o faint a mwy adeiledig, yn enwedig yn y categori ‘Mwyaf’ a’r categori ‘Mawr’. Mae’r dosbarthiad hwn yn tanlinellu’r amrywiaeth a welir mewn mathau o ardaloedd adeiledig yn yr is-glystyrau.
Categori | 1-1 | 1-2 | 1-3 | 2-1 | 2-2 | 2-3 |
---|---|---|---|---|---|---|
Dinas drefol a thref | 64.9% | 1.4% | 73.1% | 75.6% | 81.0% | 88.4% |
Dinas drefol a thref mewn lleoliad tenau ei boblogaeth | 1.8% | 0.0% | 2.3% | 2.5% | 2.7% | 0.5% |
Tref wledig a chyrion | 15.7% | 3.2% | 15.9% | 16.8% | 11.3% | 10.6% |
Tref wledig a chyrion mewn lleoliad tenau ei boblogaeth | 10.4% | 3.7% | 1.2% | 3.1% | 2.4% | 0.0% |
Pentref gwledig a gwasgaredig | 4.6% | 31.7% | 6.7% | 1.7% | 2.7% | 0.5% |
Pentref gwledig a gwasgaredig mewn lleoliad tenau ei boblogaeth | 2.7% | 60.1% | 0.9% | 0.3% | 0.0% | 0.0% |
Disgrifiad o Dabl 5: mae’r tabl hwn yn dangos dosbarthiad canrannol y categori gwledigrwydd chwephlyg rhwng y chwe is-glwstwr. Mae pob rhes yn cynrychioli categori gwledigrwydd penodol, ac mae’r colofnau yn cyfateb i’r is-glystyrau. Categorïau trefol a geir yn bennaf yn y rhan fwyaf o’r is-glystyrau. Is-glwstwr 2-3 sydd â’r ganran uchaf o ardaloedd ‘Dinas drefol a thref’, sef 88.4%, ac yna is-glwstwr 2-2, sef 81%. Mewn gwrthgyferbyniad, is-glwstwr 1-2 yw’r un mwyaf gwledig, gyda 60.1% o’i ardaloedd wedi’u dosbarthu yn y categori ‘Pentref gwledig a gwasgaredig mewn lleoliad tenau ei boblogaeth’ a 31.7% arall yn y categori ‘Pentref gwledig a gwasgaredig.’
Mae is-glwstwr 1-1 yn dangos dosbarthiad mwy cytbwys, gyda 64.9% o’i ardaloedd wedi’u dosbarthu yn y categori ‘Dinas drefol a thref,’ 15.7% yn y categori ‘Tref wledig a chyrion,’ a 10.4% yn y categori ‘Tref wledig a chyrion mewn lleoliad tenau ei boblogaeth.’ Mae is-glwstwr 1-3 hefyd yn tueddu i fod yn drefol, gyda 73.1% o’i ardaloedd yn y categori ‘Dinas drefol a thref,’ ond mae presenoldeb gwledig o hyd, gyda 6.7% yn y categori ‘Pentref gwledig a gwasgaredig.’ Mae is-glwstwr 2-1 ac is-glwstwr 2-2 yn dangos patrymau tebyg, gyda’r cyfrannau trefol uchaf (75.6% ac 81%, yn y drefn honno), ond categorïau gwledig is o gymharu ag is-glwstwr 1-1 ac is-glwstwr 1-3.
Lleoliadau tenau eu poblogaeth sydd fwyaf amlwg yn is-glwstwr 1-2 ac is-glwstwr 1-1, gyda chyfrannau nodedig yn y categori ‘Pentref gwledig a gwasgaredig mewn lleoliad tenau ei boblogaeth’ (60.1% a 2.7%, yn y drefn honno) ac yn y categori ‘Dinas drefol a thref mewn lleoliad tenau ei boblogaeth’ (1.8% yn 1-1). Nid oes fawr ddim cynrychiolaeth wledig yn is-glwstwr 2-3, sy’n amlygu ei natur drefol yn bennaf.
Is-glwstwr 1-1: Ardaloedd ag amddifadedd cymedrol, wedi’u graddio tuag at y canol ym mhob un o’r meysydd
Nifer yr ACEHIau: 453
Poblogaeth: 766,000
Arwynebedd (km2): 2160
Ffigur 3: Canran yr ACEHIau yn Is-glwstwr 1-1 ar Lefel Awdurdod Lleol
Disgrifiad o Ffigur 3: map sy’n dangos cyfran yr ACEHIau yn is-glwstwr 1-1 mewn Awdurdodau Lleol gwahanol. Mae ardaloedd goleuach yn nodi llai o ACEHIau yn yr is-glwstwr hwnnw o fewn yr Awdurdod Lleol, ac mae lliwiau tywyllach yn cynrychioli cyfran uwch o ACEHIau yn yr Awdurdod Lleol. Mae dau Awdurdod Lleol dipyn yn dywyllach na’r lleill, sy’n nodi crynodiad uwch o ACEHIau o is-glwstwr 1-1. Yr Awdurdodau Lleol tywyllaf hyn yw Sir Gaerfyrddin a Chonwy. Yr Awdurdodau Lleol goleuaf ar y map yw Sir Ddinbych a Bro Morgannwg.
Disgrifiad
Is-glwstwr 1-1 yw’r is-glwstwr mwyaf o ran nifer yr ardaloedd bach sy’n rhan o’r is-glwstwr yn ogystal â chyfanswm poblogaeth yr is-glwstwr. Mae’n glwstwr poblog iawn, cymharol ddifreintiedig sy’n cynnwys llawer o ardaloedd bach ger trefi gwledig. Mae’r ardaloedd hyn yn tueddu i fod wedi’u graddio tuag at y cyfartaledd o ran maes ‘mynediad i wasanaethau’ o gymharu ag is-glystyrau eraill, yn ogystal ag amddifadedd cyflogaeth uwch o gymharu ag is-glystyrau eraill. Mae’n wynebu heriau o ran incwm ac addysg, o ganlyniad i’r amddifadedd incwm uchaf o gymharu ag is-glystyrau eraill Prif Glwstwr 1, yn ogystal â chyfran o oedolion heb gymwysterau sy’n uwch na’r cyfartaledd.
Y categori gwledigrwydd chwephlyg amlycaf yn is-glwstwr 1-1 yw ‘Dinas drefol a thref’ (64.9%) sy’n nodi cymeriad trefol cryf. Atgyfnerthir hyn ymhellach yn nosbarthiad yr AAau ar gyfer yr is-glwstwr hwn, sy’n dangos mai’r categori ‘Mawr’ o AAau yw’r un mwyaf cyffredin (47.2%). Er mai ardaloedd trefol a geir yn bennaf, ceir elfennau gwledig sylweddol o hyd yn is-glwstwr 1-1, lle mae’r categori ‘Tref wledig a chyrion’ (15.7%) a ‘Tref wledig a chyrion mewn lleoliad tenau ei boblogaeth’ (10.4%) yn cyfrif am 26% o ACEHIau yn yr is-glwstwr hwn. Mae hyn yn nodi presenoldeb nodedig ardaloedd gwledig a lled-wledig yn yr is-glwstwr.
Tystiolaeth
Mae ardaloedd bach yn y clwstwr hwn yn dueddol o ymddangos yn agosach at ganol y graddfeydd amddifadedd ym meysydd incwm (canolrif = 1160), cyflogaeth (canolrif = 1156), addysg (canolrif = 1149), ac iechyd (canolrif = 1126), ac mae’r is-glystyrau eraill yng Nghlwstwr 1 yn dueddol o gael eu graddio’n llai difreintiedig ar gyfartaledd. Fodd bynnag, mae ardaloedd bach yn yr is-glwstwr hwn yn dueddol o gael eu graddio’n llawer llai difreintiedig ym maes mynediad i wasanaethau (canolrif = 1273) o gymharu ag is-glwstwr 1-2 sy’n fwy gwledig.
Is-glwstwr 1-1 sydd â’r ganran ganolrifol uchaf o bobl mewn amddifadedd incwm (11%, gweler Ffigur 6) a’r ganran o oedolion 25 i 64 oed heb gymwysterau (15.4%) ym Mhrif Glwstwr 1.
Gwelir ardaloedd bach yn yr is-glwstwr hwn ym mhob Awdurdod Lleol ledled Cymru. Conwy a Sir Gaerfyrddin sydd â’r gyfran fwyaf o ardaloedd bach yn is-glwstwr 1-1 (mae tua thraean o ardaloedd bach y naill a’r llall yn yr is-glwstwr hwn) o gymharu â’r Awdurdodau Lleol eraill.
Ffigur 4: Dosbarthiad Is-glwstwr 1-1 yng Nghonwy ar Lefel AGEHI
Disgrifiad o Ffigur 4: map sy’n dangos dosbarthiad is-glwstwr 1-1 yng Nghonwy ar lefel AGEHI. Nodir ACEHIau sy’n perthyn i is-glystyrau 1-1 mewn lliw glas, ac mae’r is-glystyrau eraill mewn lliw llwyd. Mae tua thraean o’r ACEHIau ar y map mewn lliw glas, sy’n dangos eu bod yn rhan o is-glwstwr 1-1.
Is-glwstwr 1-2: Ardaloedd gwledig ac anghysbell ag amddifadedd isel, heblaw am fynediad cymharol wael i wasanaethau a thai
Nifer yr ACEHIau: 218
Poblogaeth: 360,000
Arwynebedd (km2) : 15,260
Ffigur 5: Canran yr ACEHIau yn Is-glwstwr 1-2 ar Lefel Awdurdod Lleol
Disgrifiad o Ffigur 5: map sy’n dangos cyfran yr ACEHIau yn is-glwstwr 1-2 mewn Awdurdodau Lleol gwahanol. Mae ardaloedd goleuach yn nodi llai o ACEHIau yn yr is-glwstwr hwnnw o fewn yr Awdurdod Lleol, ac mae lliwiau tywyllach yn cynrychioli cyfran uwch o ACEHIau yn yr Awdurdod Lleol. Mae Tri Awdurdod Lleol dipyn yn dywyllach na’r lleill, sy’n nodi crynodiad uwch o ACEHIau o is-glwstwr 1-2. Yr Awdurdodau Lleol tywyllaf hyn yw Powys, Ceredigion a Gwynedd. Yr Awdurdodau Lleol goleuaf ar y map, sy’n nodi crynodiad is o ACEHIau o is-glwstwr 1-2, yw Caerdydd, Pen-y-bont ar Ogwr, a Chaerffili.
Disgrifiad
Mae is-glwstwr 1-2 yn ymestyn dros yr arwynebedd tir mwyaf o blith yr is-glystyrau ac mae’n wledig yn bennaf – mae tua 99% ohono yn ardaloedd gwledig ac anghysbell. Mae’r is-glwstwr hwn yn cynnwys nifer o bentrefi gwledig ac aneddiadau gwasgaredig yng Nghymru, ond mae’n wynebu anawsterau o ran mynediad i wasanaethau, tai (mae peryglon tai yn fwy cyffredin yma), ac amseroedd teithio hwy i amwynderau.
Mae’r is-glwstwr hwn yn cynnwys canran uchel o AGEHIau yn y categori ‘Pentref gwledig a gwasgaredig mewn lleoliad tenau ei boblogaeth’ (60.1%). Y categori ‘Bach’ o Ardaloedd Adeiledig yw’r categori pennaf o bell ffordd yn nosbarthiad y categoriau o AAau (95.4%). Mae’r data hyn yn awgrymu bod ffocws cryf yn is-glystyrau 1-2 ar gymunedau gwledig tenau eu poblogaeth a gwasgaredig, sy’n gwrthgyferbynnu â phroffiliau gwledigrwydd mwy trefol eraill is-glystyrau eraill.
Tystiolaeth
Mae ACEHIau yn yr is-glwstwr hwn yn dueddol o gael eu graddio’n llai difreintiedig na’r cyfartaledd yn y rhan fwyaf o feysydd, ac eithrio Mynediad i Wasanaethau a Thai. Graddfeydd canolrifol yr is-glwstwr hwn oedd 114 ar gyfer Mynediad i Wasanaethau a 473 ar gyfer Tai.
Perfformiodd ardaloedd bach yn yr is-glwstwr hwn yn dda o ran y dangosyddion ansawdd aer, er enghraifft, y Gwerth Crynodiad Cyfartalog wedi’i Bwysoli gan y Boblogaeth ar gyfer Nitrogen Deuocsid canolrifol oedd 3.5, sydd ymhell islaw’r canolrif cenedlaethol, sef 8.3.
Mae’r lefelau uwch o amddifadedd ym maes Mynediad i Wasanaethau ar gyfer is-glwstwr 1-2 yn adlewyrchu lefel uwch o ddiffyg argaeledd band eang ar 30Mb/e (canolrif = 28%) ac amseroedd teithio hwy i wasanaethau ac amwynderau hanfodol (e.e. amser teithio dwyffordd cyhoeddus cyfartalog canolrifol i gyfleuster chwaraeon = 139 munud). Hefyd, tueddir i weld mwy o debygolrwydd y bydd tai yn cynnwys peryglon difrifol (canolrif = 31.7%, gweler Ffigur 12) mewn ACEHIau yn yr is-glwstwr hwn o gymharu â’r holl is-glystyrau eraill.
Mae llawer o’r ardaloedd bach ym Mhowys (54%), Ceredigion (50%), a Gwynedd (48%) yn is-glwstwr 1-2. I’r gwrthwyneb, nid oes unrhyw ardaloedd bach o is-glwstwr 1-2 yn Awdurdodau Lleol Blaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili, Caerdydd, Merthyr Tudful, Castell-nedd Port Talbot, Casnewydd, Rhondda Cynon Taf na Thorfaen.
Ffigur 6: Dosbarthiad Is-glwstwr 1-2 yng Ngwynedd ar Lefel AGEHI
Disgrifiad o Ffigur 6: map sy’n dangos dosbarthiad is-glwstwr 1-2 yng Ngwynedd ar lefel AGEHI. Nodir ACEHIau sy’n perthyn i is-glystyrau 1-2 mewn lliw glas, ac mae’r is-glystyrau eraill mewn lliw llwyd. Mae tua hanner yr ACEHIau ar y map mewn lliw glas, sy’n dangos eu bod yn rhan o is-glwstwr 1-2.
Is-glwstwr 1-3: Ardaloedd is-drefol a gwledig ag amddifadedd isel
Nifer yr ACEHIau: 346
Poblogaeth: 564,000
Arwynebedd (km2) : 1,420
Ffigur 7: Canran yr ACEHIau yn Is-glwstwr 1-3 ar Lefel
Disgrifiad o Ffigur 7: Map sy’n dangos canran yr ACEHIau yn is-glwstwr 1-3 mewn Awdurdodau Lleol gwahanol yw’r ffigur hwn. Mae ardaloedd goleuach yn nodi llai o ACEHIau yn yr is-glwstwr hwnnw o fewn yr Awdurdod Lleol, ac mae lliwiau tywyllach yn cynrychioli cyfran uwch o ACEHIau yn yr Awdurdod Lleol. Mae dau Awdurdod Lleol dipyn yn dywyllach na’r lleill, sy’n nodi crynodiad uwch o ACEHIau o is-glwstwr 1-3. Yr Awdurdodau Lleol tywyllaf hyn yw Bro Morgannwg a Sir Fynwy. Yr Awdurdodau Lleol goleuaf ar y map, sy’n nodi crynodiad is o ACEHIau o is-glwstwr 1-2, yw Blaenau Gwent a Phowys.
Disgrifiad
Mae is-glwstwr 1-3 yn cynrychioli llawer o’r ACEHIau lleiaf difreintiedig yng Nghymru. Ardaloedd maestrefol yw’r rhain yn bennaf, neu ardaloedd gwledig sy’n agos i ganolfannau trefol ag amddifadedd incwm a chyflogaeth cymharol isel. Er bod yr ACEHIau yn yr is-glwstwr hwn yn debygol o fod yn ganolfannau cymudo â chysylltiadau trafnidiaeth da i ardaloedd o gyflogaeth a mynediad hawdd i wasanaethau, mae agosrwydd i ganolfannau trefol hefyd yn arwain at ansawdd aer is.
Yn is-glwstwr 1-3, y categori ‘Dinas drefol a thref’ yw’r un mwyaf cyffredin (73%), sy’n awgrymu elfen drefol gymharol gryf. Y categori ‘Mwyaf’ o Ardaloedd Adeiledig yw’r un mwyaf sylweddol, sy’n cyfrif am fwy na hanner yr ardaloedd (52%). Mae’r categorïau ‘Mwyaf’ (21.1%) a ‘Canolig’ (17%) o AAau yn dangos rhywfaint o amrywiaeth mewn graddfa drefol. Mae’r agwedd wledig ar yr is-glwstwr yn llai amlwg ond mae wedi’i chynrychioli o hyd, yn enwedig yn y categori ‘Tref wledig a chyrion’ (15.9%). Is-glwstwr 1-3 yw’r un mwyaf trefol o blith tri is-glwstwr Prif Glwstwr 1.
Tystiolaeth
Ar gyfartaledd, mae’r is-glwstwr hwn yn cael ei raddio fel yr is-glwstwr lleiaf difreintiedig mewn llawer o feysydd MALlC – ac eithrio diogelwch cymunedol, lle mae’n llai difreintiedig o fymryn nag is-glwstwr 1-2, a’r amgylchedd ffisegol, â gradd ganolrifol o 933 – mae ardaloedd bach yn yr is-glwstwr hwn yn tueddu i berfformio’n dda mewn llawer o ddangosyddion amddifadedd, er enghraifft, pobl ag amddifadedd incwm (canolrif = 6%), oedolion 25 i 64 oed heb gymwysterau (8.7%), a diffyg argaeledd band eang ar 30mb/e (1.3%). Fodd bynnag, mae lefelau llygredd aer yn yr ardaloedd bach hyn yn dueddol o fod yn uwch, er enghraifft y Gwerth Crynodiad Cyfartalog wedi’i Bwysoli gan y Boblogaeth ar gyfer Nitrogen Deuocsid canolrifol oedd 9.8, sydd ar yr un lefel â’r is-glystyrau cymharol fwy difreintiedig.
Mae enghreifftiau o ACEHIau sy’n perthyn i is-glwstwr 1-3 i’w gweld ym mhob awdurdod lleol. Mae mwy o ACEHIau ym Mro Morgannwg (48%), Sir Fynwy (34%), a Chaerdydd (32%) yn perthyn i’r is-glwstwr hwn ar gyfartaledd.
Ffigur 8:Dosbarthiad Is-glwstwr 1-3 ym Mro Morgannwg ar Lefel AGEHI
Disgrifiad o Ffigur 8: map sy’n dangos dosbarthiad is-glwstwr 1-3 ym Mro Morgannwg ar lefel AGEHI. Nodir ACEHIau sy’n perthyn i is-glystyrau 1-3 mewn lliw glas, ac mae’r is-glystyrau eraill mewn lliw llwyd. Mae tua hanner yr ACEHIau ar y map yn rhan o is-glwstwr 1-3.
Is-glwstwr 2-1: Ardaloedd â lefelau cymharol uchel o amddifadedd, ond mynediad eithaf da i wasanaethau
Nifer yr ACEHIau: 357
Poblogaeth: 580,000
Arwynebedd (km2) : 810
Ffigur 9: Canran yr ACEHIau yn Is-glwstwr 2-1 ar Lefel Awdurdod Lleol
Disgrifiad o Ffigur 9: map sy’n dangos cyfran yr ACEHIau yn is-glwstwr 2-1 mewn Awdurdodau Lleol gwahanol. Mae ardaloedd goleuach yn nodi llai o ACEHIau yn yr is-glwstwr hwnnw o fewn yr Awdurdod Lleol, ac mae lliwiau tywyllach yn cynrychioli cyfran uwch o ACEHIau yn yr Awdurdod Lleol. Mae Tri Awdurdod Lleol dipyn yn dywyllach na’r lleill, sy’n nodi crynodiad uwch o ACEHIau o is-glwstwr 1-2. Yr Awdurdodau Lleol tywyllaf hyn yw Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful, a Blaenau Gwent. Yr Awdurdodau Lleol goleuaf ar y map, sy’n nodi crynodiad is o ACEHIau o is-glwstwr 2-1, yw Sir Fynwy a Sir y Fflint.
Disgrifiad
Mae lefelau sylweddol o amddifadedd yn yr ardaloedd bach yn is-glwstwr 2-1 ond mae ganddynt fynediad da i wasanaethau am eu bod yn agos i ganolfannau economaidd. Maent yn wynebu amddifadedd economaidd, ac mae tai yn aml mewn cyflwr gwael ac mae lefel y peryglon posibl yn y cartref yn uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol, a cheir lefel uwch o amddifadedd incwm na’r cyfartaledd o gymharu ag is-glystyrau eraill hefyd.
Mae tuedd drefol amlwg yn is-glwstwr 2-1, a danlinellir gan y nifer mawr o ardaloedd bach yn y categori ‘Mwyaf’ o AAau (41.5%), ac yn y categorïau ‘Mawr’ a ‘Canolig’ wedi hynny, sy’n cyfrif am 25.8% a 28.6% yn y drefn honno. Mae’r dosbarthiad hwn yn amlygu amrywiaeth y fframwaith trefol yn yr is-glwstwr hwn, gyda thuedd glir tuag at aneddiadau trefol mwy o faint a mwy datblygedig. Gwelir rhagor o dystiolaeth o’r duedd drefol hon yn y categori gwledigrwydd chwephlyg yn yr is-glwstwr hwn, lle mae’r categori ‘Dinas drefol a thref’ yn cynrychioli 75.6% o’r is-glwstwr hwn. Mae’r categori ‘tref wledig a chyrion’, er ei fod yn llai o gymharu â’r categorïau trefol, yn cyfrif am 16.8% o’r is-glwstwr hwn, sy’n awgrymu ei fod yn cynnwys ardaloedd sydd ar ffin lleoliadau trefol a gwledig – ardaloedd mwy anghysbell a allai fod yn ardaloedd trosiannol rhwng tirweddau tra threfol a gwledig o bosibl.
Tystiolaeth
Ar gyfartaledd, caiff ardaloedd bach yn is-glwstwr 2-1 eu graddio’n gymharol fwy difreintiedig yn nifer o feysydd MALlC, megis Incwm (canolrif = 476), Tai (canolrif = 447), a Chyflogaeth (canolrif = 444). Fodd bynnag, maent yn dueddol o gael eu graddio’n llai difreintiedig na’r cyfartaledd o ran Mynediad i Wasanaethau (canolrif = 1020). Y gwahaniaeth mwyaf nodedig rhwng yr is-glwstwr hwn ac is-glystyrau eraill ym Mhrif Glwstwr 2 yw’r tebygolrwydd cynyddol y bydd tai mewn cyflwr gwael (canolrif = 4.7%) ac y bydd tai yn cynnwys peryglon difrifol (22.7%), ac mae’r ddau ffigur uwchlaw’r cyfartaledd cenedlaethol. Canran ganolrifol y bobl mewn amddifadedd incwm yn yr is-glwstwr hwn yw 22%, sy’n uwch na’r ganran ganolrifol genedlaethol, sef 14%, ond mae’n llai na’r ffigur ar gyfer is-glwstwr 2-3.
Ymhlith yr awdurdodau lleol y mae mwy o’u ACEHIau yn perthyn i’r is-glwstwr hwn ar gyfartaledd mae Rhondda Cynon Taf (48%), Blaenau Gwent (45%), a Merthyr Tudful (44%).
Ffigur 10: Dosbarthiad Is-glwstwr 2-1 yn Rhondda Cynon Taf ar Lefel AGEHI
Disgrifiad o Ffigur 10: map sy’n dangos dosbarthiad is-glwstwr 2-1 yn Rhondda Cynon Taf ar Lefel AGEHI. Nodir ACEHIau sy’n perthyn i is-glystyrau 2-1 mewn lliw glas, ac mae’r is-glystyrau eraill mewn lliw llwyd. Mae tua hanner yr ACEHIau ar y map yn rhan o is-glwstwr 2-1.
Is-glwstwr 2-2: Ardaloedd trefol ag amddifadedd cymedrol
Nifer yr ACEHIau: 337
Poblogaeth: 565,000
Arwynebedd (km2) : 930
Ffigur 11: Canran yr ACEHIau yn Is-glwstwr 2-2 ar Lefel Awdurdod Lleol
Disgrifiad o Ffigur 11: map sy’n dangos cyfran yr ACEHIau yn is-glwstwr 2-2 mewn Awdurdodau Lleol gwahanol. Mae ardaloedd goleuach yn nodi cyfran lai o ACEHIau yn yr is-glwstwr hwnnw o fewn yr Awdurdod Lleol, ac mae lliwiau tywyllach yn cynrychioli cyfran uwch o ACEHIau sy’n rhan o’r Awdurdod Lleol. Mae un Awdurdod Lleol dipyn yn dywyllach na’r lleill, sy’n nodi crynodiad uwch o ACEHIau o is-glwstwr 2-2. Yr Awdurdod Lleol tywyllaf hwn yw Torfaen. Yr Awdurdod Lleol goleuaf ar y map, sy’n nodi crynodiad is o ACEHIau o is-glwstwr 2-2, yw Gwynedd.
Disgrifiad
Fel arfer, mae’r ardaloedd bach yn is-glwstwr 2-2 wedi’u lleoli’n agos i ganolfannau economaidd gyda mynediad da i wasanaethau. O gymharu ag is-glwstwr 2-1, tueddir i weld llai o amddifadedd economaidd a gwell ansawdd tai yn yr ardaloedd hyn. Mae llawer o’r ardaloedd bach hyn wedi’u lleoli yng nghymoedd y de, mewn ardaloedd canol dinas ac ar hyd arfordir y gogledd.
Yn is-glwstwr 2-2, unwaith eto, mae’r data yn dangos proffil trefol iawn, a cheir categori ‘Dinas drefol a thref’ amlwg sy’n cyfrif am 81% o’r ardaloedd bach yn yr is-glwstwr hwn. Er bod y categori ‘Mwyaf’ o AAau yn cyfrif am 44% o’r ardaloedd bach yn yr is-glwstwr hwn, mae’r categorïau ‘Mawr’ a ‘Canolig’ o AAau yn cyfrif am 26.1% a 23.2%, yn y drefn honno. Er bod yr is-glwstwr hwn ac is-glwstwr 2-1 yn rhai trefol yn bennaf, mae is-glwstwr 2-2 yn dangos llai o bresenoldeb gwledig sy’n awgrymu llai o amrywiaeth yn ei gymysgedd gwledig-trefol nag is-glwstwr 2-1.
Tystiolaeth
Mae is-glwstwr 2-2 yn cynrychioli rhai o’r ardaloedd bach lleiaf difreintiedig ym Mhrif Glwstwr 2. Ar gyfartaledd, mae ACEHIau yn yr is-glwstwr hwn yn ymddangos tuag at ganol y graddfeydd ym meysydd tai (canolrif = 1025) a mynediad i wasanaethau (canolrif = 926). Y gyfran ganolrifol o bobl mewn amddifadedd incwm yn yr is-glwstwr hwn yw 19%, sydd 5% yn uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol. Mae mwy o amddifadedd incwm na’r cyfartaledd yn yr is-glwstwr hwn o gymharu ag is-glystyrau 1-1, 1-2, ac 1-3, ond mae llai o amddifadedd incwm na’r cyfartaledd o gymharu ag is-glystyrau 2-1 a 2-3. O gymharu ag is-glwstwr 2-1, mae tebygolrwydd canolrifol is y bydd tai mewn cyflwr gwael (2.3%) ac y bydd tai yn cynnwys peryglon difrifol (12.4%) yn yr is-glwstwr hwn.
Mae is-glwstwr 2-2 i’w weld ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru. Fel cyfran o’i ardaloedd bach, Torfaen sydd â’r nifer mwyaf o ACEHIau sy’n perthyn i is-glwstwr 2-2 (43%). Yn y cyfamser, Gwynedd sydd â’r nifer lleiaf o ACEHIau sy’n perthyn i is-glwstwr 2-2 fel canran (1%).
Ffigur 12: Dosbarthiad Is-glwstwr 2-2 yn Nhorfaen ar Lefel AGEHI
Disgrifiad o Ffigur 12: map sy’n dangos dosbarthiad is-glwstwr 2-2 yn Nhorfaen ar lefel AGEHI. Nodir ACEHIau sy’n perthyn i is-glystyrau 2-2 mewn lliw glas, ac mae’r is-glystyrau eraill mewn lliw llwyd. Mae tua hanner yr ACEHIau ar y map yn rhan o is-glwstwr 2-2.
Is-glwstwr 2-3: Ardaloedd trefol ag amddifadedd uchel, heblaw am amddifadedd tai cymharol isel
Nifer yr ACEHIau: 198
Poblogaeth: 318,000
Arwynebedd (km2): 160
Ffigur 13: Canran yr ACEHIau yn Is-glwstwr 1-1 ar Lefel
Disgrifiad o Ffigur 13: map sy’n dangos cyfran yr ACEHIau yn is-glwstwr 1-1 mewn Awdurdodau Lleol gwahanol. Mae ardaloedd goleuach yn nodi llai o ACEHIau yn yr is-glwstwr hwnnw o fewn yr Awdurdod Lleol, ac mae lliwiau tywyllach yn cynrychioli cyfran uwch o ACEHIau yn yr Awdurdod Lleol. Mae dau Awdurdod Lleol dipyn yn dywyllach na’r lleill, sy’n nodi crynodiad uwch o ACEHIau o is-glwstwr 1-1. Yr Awdurdodau Lleol tywyllaf hyn yw Blaenau Gwent a Merthyr Tudful. Yr Awdurdodau Lleol goleuaf ar y map, sy’n nodi crynodiad is o ACEHIau o is-glwstwr 1-1, yw Ceredigion.
Disgrifiad
Is-glwstwr 2-3 yw’r is-glwstwr lleiaf o ran arwynebedd tir, poblogaeth, a nifer yr ACEHIau. Ar y cyfan, mae amodau tai da ond amddifadedd economaidd mawr yn yr is-glwstwr trefol tra difreintiedig bach hwn. Er mai’r is-glwstwr hwn sydd â’r gyfran uchaf o amddifadedd incwm ac oedolion heb gymwysterau, mae’n lleiaf tebygol o gynnwys tai â pheryglon o blith y chwe is-glwstwr.
Mae is-glwstwr 2-3 yn ffafrio’r categori gwledig ‘Dinas drefol a thref’ yn fawr (88.4%), a’r categori ‘Mwyaf’ o AAau (53.4%). Nid oes fawr ddim ardaloedd gwledig bach yn bresennol, sy’n dangos mai lleoliadau trefol mwy o faint a mwy datblygedig a geir yn bennaf yn nhirwedd yr is-glwstwr hwn.
Tystiolaeth
Ar gyfartaledd, ACEHIau yn yr is-glwstwr hwn sydd â’r amddifadedd mwyaf mewn meysydd megis addysg (canolrif = 119), incwm (canolrif = 108), ac iechyd (canolrif = 103). Fodd bynnag, ar gyfartaledd ceir llai o amddifadedd ym maes tai o gymharu â rhai o’r is-glystyrau eraill (canolrif = 810). Y gyfran ganolrifol o bobl mewn amddifadedd incwm yw 34% a’r gyfran ganolrifol o oedolion 25-64 oed heb gymwysterau yw 37%, sef y cyfrannau uchaf o blith y chwe is-glwstwr. Yn y cyfamser, y tebygolrwydd canolrifol y bydd tai yn cynnwys problemau difrifol yw 10.1%, sef yr isaf o blith y chwe is-glwstwr.
Mae ACEHIau sy’n perthyn i is-glwstwr 2-3 i’w gweld yn y rhan fwyaf o awdurdodau lleol, ac eithrio Sir Fynwy a Cheredigion. Ymhlith yr awdurdodau lleol y mae mwy o’u ACEHIau yn perthyn i’r is-glwstwr hwn ar gyfartaledd mae Blaenau Gwent (23%) a Merthyr Tudful (22%).
Ffigur 14: Dosbarthiad Is-glwstwr 2-3 ym Mlaenau Gwent ar Lefel AGEHI
Disgrifiad o Ffigur 14: Map sy’n dangos dosbarthiad is-glwstwr 2-3 ym Mlaenau Gwent ar Lefel AGEHI. Nodir ACEHIau sy’n perthyn i is-glystyrau 2-3 mewn lliw glas, ac mae’r is-glystyrau eraill mewn lliw llwyd. Mae tua thraean o’r ACEHIau ar y map yn rhan o is-glwstwr 2-3.
Casgliad
Yn yr adroddiad hwn, defnyddiwyd dysgu peirianyddol heb ei oruchwylio i ddatgelu patrymau amddifadedd penodol mewn ardaloedd bach yng Nghymru. Drwy ddadansoddi data 2019 MALlC, rydym wedi segmentu Cymru yn ddau brif glwstwr, a’i rhannu ymhellach yn chwe is-glwstwr yn seiliedig ar nodweddion tebyg mewn dangosyddion amddifadedd lluosog. Mae’r dull gweithredu hwn yn ein helpu i ddeall yn fanwl raddau a dimensiynau amrywiol amddifadedd ledled y 1,909 o ardaloedd bach a archwiliwyd. Archwilir nodweddion unigryw pob is-glwstwr, a nodir amrywiaeth eang o lefelau amddifadedd mewn meysydd megis incwm, addysg, iechyd, ansawdd tai a mynediad i wasanaethau.
Mae’r broses o gymhwyso’r algorithm clystyru at y dangosyddion amddifadedd lluosog nid yn unig yn cadarnhau’r patrymau amddifadedd a nodwyd ond hefyd yn dangos potensial technegau dysgu peirianyddol i wella ein dealltwriaeth o amddifadedd ledled Cymru Drwy gymhwyso’r technegau hyn yn llwyddiannus, tanlinellir y posibilrwydd o waith dadansoddi parhaus i fireinio a diweddaru ein dealltwriaeth o broffiliau amddifadedd ledled Cymru drwy’r amser.
Atodiad 1: Tabl chwilio ar gyfer disgrifiadau o ddangosyddion MALlC a chod y dangosydd
Achosion o ddwyn a gofnodwyd gan yr heddlu (cyfradd fesul 100)
Cod y dangosydd: THEF
Troseddau treisgar a gofnodwyd gan yr heddlu (cyfradd fesul 100)
Cod y dangosydd: VIOC
Absenoldeb Mynych (%)
Cod y dangosydd: REAB
Amser teithio dwyffordd cyhoeddus cyfartalog i ysgol uwchradd (munudau)
Cod y dangosydd: PUSS
Amser teithio dwyffordd cyhoeddus cyfartalog i gyfleuster chwaraeon (munudau)
Cod y dangosydd: PUSF
Amser teithio dwyffordd cyhoeddus cyfartalog i ysgol gynradd (munudau)
Cod y dangosydd: PUPS
Amser teithio dwyffordd cyhoeddus cyfartalog i swyddfa bost (munudau)
Cod y dangosydd: PUPO
Amser teithio dwyffordd cyhoeddus cyfartalog i fferyllfa (munudau)
Cod y dangosydd: PUPH
Amser teithio dwyffordd cyhoeddus cyfartalog i lyfrgell gyhoeddus (munudau)
Cod y dangosydd: PULI
Amser teithio dwyffordd cyhoeddus cyfartalog i feddygfa (munudau)
Cod y dangosydd: PUGP
Amser teithio dwyffordd cyhoeddus cyfartalog i siop fwyd (munudau)
Cod y dangosydd: PUFS
Amser teithio dwyffordd preifat cyfartalog i ysgol uwchradd (munudau)
Cod y dangosydd: PRSS
Amser teithio dwyffordd preifat cyfartalog i gyfleuster chwaraeon (munudau)
Cod y dangosydd: PRSF
Amser teithio dwyffordd preifat cyfartalog i ysgol gynradd (munudau)
Cod y dangosydd: PRPS
Amser teithio dwyffordd preifat cyfartalog i swyddfa bost (munudau)
Cod y dangosydd: PRPO
Amser teithio dwyffordd preifat cyfartalog i fferyllfa (munudau)
Cod y dangosydd: PRPH
Amser teithio dwyffordd preifat cyfartalog i orsaf betrol (munudau)
Cod y dangosydd: PRPE
Amser teithio dwyffordd preifat cyfartalog i lyfrgell gyhoeddus (munudau)
Cod y dangosydd: PRLI
Amser teithio dwyffordd preifat cyfartalog i feddygfa (munudau)
Cod y dangosydd: PRGP
Amser teithio dwyffordd preifat cyfartalog i siop fwyd (munudau)
Cod y dangosydd: PRFS
Pobl mewn cartrefi gorlawn (%)
Cod y dangosydd: OVCR
Plant 4 i 5 oed sy’n ordew (%)
Cod y dangosydd: OBCH
Oedolion 25 i 64 oed heb gymwysterau (%)
Cod y dangosydd: NOQU
Disgyblion Cyfnod Allweddol 4 sy’n mynd ymlaen i Addysg Uwch (%)
Cod y dangosydd: NEHE
Cyflwr iechyd meddwl a gofnodwyd gan feddyg teulu (cyfradd fesul 100)
Cod y dangosydd: MENH
Salwch hirdymor cyfyngus (cyfradd fesul 100)
Cod y dangosydd: LLTI
Pwysau geni isel (genedigaethau byw sengl sy’n llai na 2.5 kg) (%)
Cod y dangosydd: LBW
Sgôr pwyntiau cyfartalog Cyfnod Allweddol 4
Cod y dangosydd: CA4
Sgôr pwyntiau cyfartalog Cyfnod Allweddol 2
Cod y dangosydd: CA2
Pobl mewn amddifadedd incwm (%)
Cod y dangosydd: INC
Y tebygolrwydd y bydd tai yn cynnwys peryglon difrifol (%)
Cod y dangosydd: HQUAH
Y tebygolrwydd y bydd tai mewn cyflwr gwael (%)
Cod y dangosydd: HQUAD
Y tebygolrwydd o dai o ansawdd gwael (%)
Cod y dangosydd: HQUA
Sgôr Pwyntiau Cyfartalog y Cyfnod Sylfaen
Cod y dangosydd: FOUN
Sgôr cartrefi sy’n wynebu perygl o lifogydd
Cod y dangosydd: FLRS
Achosion o dân (cyfradd fesul 100)
Cod y dangosydd: FIRE
Pobl o oedran gweithio mewn amddifadedd cyflogaeth (%)
Cod y dangosydd: EMP
% y Diffyg argaeledd band eang ar 30Mb/e
Cod y dangosydd: DIG
Marwolaethau cynamserol (cyfradd fesul 100,000)
Cod y dangosydd: DEAT
Difrod troseddol a gofnodwyd gan yr heddlu (cyfradd fesul 100)
Cod y dangosydd: CRDG
Cyflwr cronig a gofnodwyd gan feddyg teulu (cyfradd fesul 100)
Cod y dangosydd: CHRON
Nifer yr achosion o ganser (cyfradd fesul 100,000)
Cod y dangosydd: CANC
Bwrgleriaethau a gofnodwyd gan yr heddlu
Cod y dangosydd: BURG
Ymddygiad Gwrthgymdeithasol (cyfradd fesul 100)
Cod y dangosydd: ASB
Sgôr ar gyfer Mannau Gwyrdd Amgylchol
Cod y dangosydd: AMBGS
Gwerth Crynodiad Cyfartalog Wedi’i Bwysoli yn ôl y Boblogaeth ar gyfer Gronynnau < 2.5 µm
Cod y dangosydd: AIQP2
Atodiad 2: Categori maint ardaloedd adeiledig AAau
Amrediad y boblogaeth (Poblogaeth breswyl arferol) | Categori maint AA | Math o anheddiad yn fras |
---|---|---|
0 i 4,999 | Mân | Pentrefan neu bentref |
5,000 i 19,999 | Bach | Pentref mwy o faint / tref fach |
20,000 i 74,999 | Canolig | Trefi canolig |
75,000 i 199,999 | Mawr | Trefi mawr / dinasoedd llai o faint |
200,000+ | Sylweddol | Dinasoedd |
Ffynhonnell: Swyddfa Ystadegau Gwladol
Manylion cyswllt
Ystadegydd: David Basch
E-bost: ystadegau.cynhwysiant@llyw.cymru
Cyfryngau: 0300 025 8099