Traddododd Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai, Jayne Bryant, y brif araith ar ddiwrnod cyntaf cynhadledd flynyddol Cartrefi Cymunedol Cymru, gan ganolbwyntio ar weithio gyda'r sector i ddarparu mwy o gartrefi, cydnabod rôl allweddol gweithwyr rheng flaen a rhoi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru.
Mae'r gynhadledd ddeuddydd yn gyfle i rwydweithio, meithrin cysylltiadau a chanolbwyntio ar uchelgeisiau'r sector tai cymdeithasol yng Nghymru.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet:
Rwy'n falch o fod yn gyfrifol am faes sydd mor bwysig i bobl Cymru a chenedlaethau'r dyfodol.
Mae mynediad at dai o ansawdd da yn datgloi cyfleoedd mewn cymaint o feysydd eraill. Mae buddsoddi mewn tai cymdeithasol yn lleihau tlodi, yn gwella iechyd ac yn helpu i ysgogi twf economaidd.
Gall tai fforddiadwy o ansawdd da ddarparu cyfleoedd i bob unigolyn a theulu, gan effeithio'n gadarnhaol ar iechyd, iechyd meddwl a chanlyniadau addysg.
Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fabwysiadu dull ‘neb heb help’ tuag at ddigartrefedd ac yn y 12 mis diwethaf bu mwy na 18,000 o leoliadau mewn llety dros dro.
Mae'r niferoedd mawr hyn yn adlewyrchu'r pwysau parhaus o fewn y system ac effeithiau'r argyfwng costau byw ar unigolion a chartrefi.
Mae un person sy’n cysgu allan neu deulu heb le i’w alw’n gartref yn ormod ac mae Ysgrifennydd y Cabinet yn bwriadu cyflwyno deddfwriaeth yn ystod y tymor Senedd hwn i helpu i drawsnewid gwasanaethau a chanolbwyntio ar atal ac ailgartrefu cyflym.
Gwnaeth Ysgrifennydd y Cabinet hefyd gydnabod rôl allweddol gweithwyr rheng flaen wrth ddarparu cymorth i denantiaid agored i niwed:
Mae'r gweithlu digartrefedd yn gwneud gwaith arwrol, o ddydd i ddydd, yn aml yn gweithio mewn amgylchiadau heriol iawn, i helpu rhai o'r bobl fwyaf agored i niwed mewn cymdeithas.
Bydd eu hymdrechion yn hollbwysig os ydym am gyflawni ein hymrwymiad i roi diwedd ar ddigartrefedd.
Rwy'n hynod ddiolchgar iddynt am bopeth maen nhw'n ei wneud, ac rwy'n gwybod ein bod ni i gyd wir yn gwerthfawrogi eu gwaith.
Pwysleisiodd yr araith yr angen am bolisi rhent sy'n gweithio i Gymru, gan sicrhau y gall landlordiaid cymdeithasol cofrestredig barhau i fod yn gydnerth yn ariannol wrth ddarparu rhenti sy'n fforddiadwy i'r miloedd o denantiaid sy'n dal i gael trafferth talu costau byw.
Bydd ymgynghoriad yr haf nesaf ar gynigion ar gyfer polisi newydd ar renti cymdeithasol.
I gloi, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet mai:
Ein nod yw gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau y gall pawb yng Nghymru fod yn sicr o le i alw'n gartref iddynt nawr ac yn y dyfodol.
Rwy'n hyderus, gyda'ch cymorth chi, y gallwn gyflawni'r nodau hyn a rennir.”