Neidio i'r prif gynnwy

Mae Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) yn cael ei enwi yng Ngorchymyn Ystadegau Swyddogol (Cymru) 2017 fel corff sy’n cynhyrchu ystadegau swyddogol, fel y’i diffinnir gan Ddeddf Ystadegau a Gwasanaethau Cofrestru 2007

Pennaeth Dadansoddi Data yr ACC sy’n rhoi mynediad cyn-rhyddhau at ystadegau ACC.

1. Pwy sydd â mynediad cyn-rhyddhau at ystadegau ar eu ffurf derfynol

Mae mynediad cyn-rhyddhau yn rhoi mynediad at ystadegau ar eu ffurf derfynol cyn iddynt gael eu cyhoeddi. Mae’r rheolau sy’n rheoli pwy gaiff fynediad cyn-rhyddhau a pham wedi’u nodi yng Ngorchymyn Mynediad Cyn-rhyddhau at Ystadegau Swyddogol (Cymru) 2009.

Mae pob derbynnydd a enwir ar y rhestr mynediad cyn-rhyddhau wedi llofnodi datganiad yn cadarnhau:

  • bod angen mynediad arnynt ar gyfer eu swyddogaethau swyddogol
  • byddant yn cydymffurfio â’r amodau ar gyfer mynediad cyn-rhyddhau

Caiff mynediad cyn-rhyddhau at ystadegau'r Awdurdod ei ddarparu 24 awr cyn i’r ystadegau gael eu cyhoeddi.

2. Pwy sydd â mynediad cyn-rhyddhau ar gyfer dibenion cynhyrchu

Rhoddir mynediad cyn-rhyddhau hefyd i nifer fach o bobl sy'n ymwneud â chynhyrchu’r cyhoeddiad ystadegol. Mae hyn yn cynnwys:

  • ystadegwyr Awdurdod Cyllid Cymru
  • cyfieithwyr
  • ysgrifenyddion (sydd â mynediad at flwch post derbynnydd a restrir isod)
  • timau cyhoeddi ar y we

Bydd datganiadau tebyg yn cael eu llofnodi gan y rhai sy’n cael mynediad at ddibenion gweithredol ond nid ydynt wedi’u cynnwys ar y rhestr isod. 

3. Rhestr o’r swyddi sydd â mynediad cyn-rhyddhau i ystadegau ACC

Rydym yn cyhoeddi ac yn diweddaru'r rhestr ganlynol o swyddi sydd â mynediad cyn-rhyddhau i ystadegau ACC. Mae hyn yn unol â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.

Mae'r rhestr mynediad cyn-rhyddhau ar gyfer datganiadau ystadegol cynharach ar gael ar gais.

Ystadegau’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi (chwarterol)

Diweddarwyd ddiwethaf: 14 Tachwedd 2024

  • Prif Weithredwr, Awdurdod Cyllid Cymru.
  • Pennaeth Cyfathrebu, Awdurdod Cyllid Cymru.
  • Cynghorydd polisi Treth Gwarediadau Tirlenwi, Awdurdod Cyllid Cymru.
  • Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg, Llywodraeth Cymru.
  • Cynghorydd Arbennig i'r Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg, Llywodraeth Cymru.
  • Cyfarwyddwr, Trysorlys Cymru, Llywodraeth Cymru.
  • Pennaeth Dadansoddi Ariannol, Trysorlys Cymru, Llywodraeth Cymru.
  • Cynghorydd Economaidd, Llywodraeth Cymru.
  • Arweinydd Polisi Treth Gwarediadau Tirlenwi, Llywodraeth Cymru.
  • Pennaeth Strategaeth Wastraff, Llywodraeth Cymru.

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir (chwarterol)

Diweddarwyd ddiwethaf: 30 Ionawr 2025

  • Prif Weithredwr, Awdurdod Cyllid Cymru.
  • Pennaeth Cyfathrebu, Awdurdod Cyllid Cymru.
  • Cynghorydd polisi Treth Trafodiadau Tir, Awdurdod Cyllid Cymru.
  • Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg, Llywodraeth Cymru.
  • Cynghorydd Arbennig i'r Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg, Llywodraeth Cymru.
  • Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai, Llywodraeth Cymru.
  • Cynghorydd Arbennig i'r Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a ThaiLlywodraeth Cymru.
  • Cyfarwyddwr, Trysorlys Cymru, Llywodraeth Cymru.
  • Pennaeth Dadansoddi Ariannol, Trysorlys Cymru, Llywodraeth Cymru.
  • Cynghorwyr Economaidd, Llywodraeth Cymru.
  • Arweinydd Polisi Treth Trafodiadau Tir, Llywodraeth Cymru.
  • Pennaeth Polisi Treth Gyngor, Llywodraeth Cymru.
  • Pennaeth Polisi Ail Gartrefi, Llywodraeth Cymru.
  • Pennaeth Ystadegau Tai, Llywodraeth Cymru.

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir (misol)

Diweddarwyd ddiwethaf: 20 Rhagfyr 2024

  • Cynghorwyr Economaidd, Llywodraeth Cymru.