Neidio i'r prif gynnwy

Mae ymchwil newydd a gyhoeddwyd heddiw yn dangos bod pobl yn awyddus i gael mynediad gwell at wasanaethau meddyg teulu. Mae hefyd yn pwysleisio pwysigrwydd sicrhau newid drwy'r contract newydd ar gyfer meddygon teulu yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Gorffennaf 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’r ymchwil, a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru, hefyd yn dangos bod pobl yn gefnogol i’r ymgyrch Dewis Doeth sy'n gofyn iddynt ddefnyddio'r gwasanaethau gofal iechyd mwyaf priodol ar gyfer eu cyflwr, gan gynnwys gofyn i fferyllydd am gymorth a chyngor.

Fe wnaeth yr ymchwil dangos yr angen am practisau meddygon teulu i weithredu oriau agor mwy hyblyg, a rhagor o wybodaeth ynghylch pa apwyntiadau sy'n rhai brys.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, y bydd yr ymchwil fanwl hon yn helpu i lywio ymdrechion Llywodraeth Cymru i wella mynediad at wasanaethau meddygon teulu.

Dywedodd: 

“Yn ddiweddar, cyhoeddon ni set newydd o safonau ar gyfer gwasanaethau meddygon teulu, ac rydyn ni wedi neilltuo £13m ychwanegol i'w helpu i roi'r safonau hynny ar waith. Mae'n amlwg o'r ymchwil bod y cyhoedd yn ymwybodol o'r pwysau sydd ar ein meddygon teulu ac yn gwybod eu bod yn gweithio'n hynod o galed, ac maen nhw'n cydnabod bod angen Dewis yn Ddoeth wrth ystyried pa driniaeth fyddai fwyaf priodol.

“Fodd bynnag, rhaid mynd ati i sicrhau bod pobl yn gallu gwneud apwyntiad, a gweld meddyg teulu neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol arall, ar adeg sy'n gyfleus. Drwy gyflwyno nifer o newidiadau bach a defnyddio technoleg mewn modd mwy effeithiol, gallwn ddatrys llawer o'r problemau sy'n codi ar hyn o bryd.

“Rydyn ni'n cyflwyno safonau newydd ac yn treialu ffyrdd newydd o weithio, gan gynnwys ymestyn yr oriau agor. Mae llawer o enghreifftiau rhagorol o'r arferion gorau sydd ar waith mewn meddygfeydd ledled Cymru, ac mae ein safonau newydd yn seiliedig ar yr arferion hynny. Rydyn ni wedi cytuno ar ffordd ymlaen gyda'r meddygon teulu yn eu contract newydd, a dw i'n edrych ymlaen at weithio gyda nhw i weld y newidiadau hyn yn dwyn ffrwyth.”

Wrth wneud yr ymchwil, cynhaliwyd grwpiau ffocws a chyfweliadau manwl wyneb yn wyneb ar draws Cymru.