Neidio i'r prif gynnwy

Mae Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith yn hapus iawn i allu cadarnhau y bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi mynediad am ddim

Sefydliad:
Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Mehefin 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn dilyn buddugoliaeth ragorol Cymru neithiwr ble y gwnaethon nhw guro Rwsia 3-0 a hefyd y ffaith eu bod nawr ar frig eu grŵp, dywedodd Ken Skates:  

“Llwyddodd y tîm i ennill eu lle yn Ewro 2016; roedd y grŵp hwn o chwaraewyr yn iawn i gredu mai dim ond dechrau’r daith fyddai hynny. 

“Mae popeth, o’r ffordd y mae’r cefnogwyr wedi bod yn ymddwyn i berfformiad Cymru ar y cae wedi cael gafael yng nghalon ac enaid pob un o ddinasyddion Cymru; mae wedi helpu i ddangos i weddill y byd y pethau rhagorol y mae Cymru’n gallu eu cyflawni.”

Yn gynharach y mis hwn, dywedodd Ken Skates, sydd hefyd yn gyfrifol am Ddigwyddiadau Pwysig a Chwaraeon Elitaidd yng Nghymru, y byddai’n hapus iawn i gynnig mynediad am ddim i gestyll a henebion Cadw ar 26 Mehefin os byddai’r tîm yn cyrraedd yr 16 olaf.

Yn dilyn canlyniad neithiwr dywedodd:  

“Rydym wedi aros 58 mlynedd am hyn; mae yn bendant wedi bod yn werth aros amdano.

“Heb amheuaeth, dyma yw uchafbwynt ein Blwyddyn Antur hyd yma a gobeithio y bydd ein llwyddiannau’n parhau.  Rwy’n falch iawn o allu cadarnhau y bydd nid yn unig ein cestyll yn parhau i gael eu goleuo’n goch, ond hefyd, y Sul hwn, bydd mynediad am ddim ar gael i safleoedd Cadw sy’n cael eu rheoli’n uniongyrchol.

“Rwy’n gobeithio y bydd pobl Cymru yn manteisio ar y cyfle hwn ac yn mwynhau diwrnod llawn hwyl, gwybodaeth a boddhad ac ar yr un pryd, yn helpu i ddathlu llwyddiant ein tîm pêl-droed cenedlaethol.”

Ledled Cymru, mae yna ddewis o dros 130 o safleoedd i ymweld â hwy.  Mae rhagor o wybodaeth am bob un o gestyll a safleoedd Cadw ar gael ar eu gwefan (dolen allanol). 

Mae 24 o safleoedd Cadw yng Nghymru yn cael eu rheoli’n uniongyrchol sy’n cynnig y cais arbennig hwn:

  • Castell Biwmares 
  • Castell Caernarfon 
  • Castell Conwy 
  • Castell Harlech 
  • Castell Criccieth 
  • Tŷ Tref Oes Elizabeth Plas Mawr 
  • Castell Dinbych 
  • Castell Rhuddlan 
  • Capel y Rhug
  • Abaty Glyn y Groes
  • Castell Cilgerran 
  • Castell Cydweli
  • Castell Talacharn
  • Castell Oxwich 
  • Palas Esgob Tŷ Ddewi
  • Abaty Ystrad Fflur
  • Castell Caerffili
  • Castell Coch
  • Castell Cas-gwent
  • Castell Rhaglan 
  • Abaty Tyndyrn
  • Llys a Chastell Tre-tŵr 
  • Gweithfeydd Dur Blaenafon *
  • Baddondai Rhufeinig Caerllion *

* Mae hi eisoes yn bosib cael mynediad am ddim i Faddonau Rhufeinig Caerllion a Gweithfeydd Dur Blaenafon felly, er eu bod hwy wedi cael eu cynnwys ar y rhestr hon, nid yw mynediad am ddim yn gyfyngedig i 26 Mehefin yn unig.