Cyngor, arweiniad, a gweminarau i helpu i liniaru prisiau cynyddol bwyd anifeiliaid, tanwydd a gwrtaith.
Cynnwys
Cyflwyniad
Rydym yn ymwybodol o'r effaith y mae costau cynyddol yn ei chael ar gynhyrchwyr amaethyddol. Yn benodol, pris:
- tanwydd
- bwyd anifeiliaid
- gwrtaith
Rydym yn monitro'r sefyllfa'n agos drwy Grŵp Monitro Marchnad Amaethyddiaeth y DU (ar gov.uk).
Mae'r wybodaeth ganlynol yn cynnwys cyngor, arweiniad a gweminarau i helpu i liniaru prisiau uchel. Mae hyn yn cynnwys:
- adnoddau gan Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth (AHDB), Hybu Cig Cymru a Chyswllt Ffermio
- gwybodaeth am Daliadau BPS Ymlaen Llaw
- manylion ein cynlluniau sydd ar gael i chi
Llif arian parod - taliadau BPS ymlaen llaw
Byddwn yn darparu taliadau Cynllun y Taliad Sylfaenol (BPS) ymlaen llaw eto eleni. Bydd hyn yn helpu gyda sicrwydd llif arian. Bydd ein cefnogaeth yn parhau i'ch helpu, gan gynnwys:
- in hymrwymiad i barhau â Chynllun y Taliad Sylfaenol heb ei newid yn 2023
- ymestyn contractau Glastir tan ddiwedd 2023
Cynlluniau trosiannol
Ym mis Ebrill y llynedd, cyhoeddwyd pecyn cymorth gennym ar gyfer:
- ffermwyr
- coedwigwyr
- rheolwyr tir
- busnesau bwyd
Mae hyn yn werth dros £227 miliwn dros y tair blynedd ariannol nesaf. Bydd y cynlluniau hyn yn cefnogi gwydnwch yr economi wledig.
Tyfu dros yr Amgylchedd
Cymorth i liniaru rhywfaint o effaith cynyddol costau gwrtaith. Mae'n cynnig cyfle i:
- pori cnydau gorchudd yn y gwanwyn, a/neu
- defnyddio'r cnwd gorchudd fel tail gwyrdd yn y gwanwyn i'w ddefnyddio gan y cnwd canlynol
Bydd ffenest ymgeisio i gnydau hydref ar agor tan 14 Gorffennaf. Ar 2 Hydref, bydd ffenest ymgeisio agor i gnydau gwanwyn, a chau ar 10 Tachwedd.
Mae'r grant hwn yn cefnogi i dyfu cnydau sy'n darparu manteision:
- amgylcheddol
- bioamrywiaeth a
- chynhyrchu
Mae'r rhain yn cynnwys cnydau protein, gwndwn cymysg (a elwir hefyd yn gwndwn llysieuol) a chnydau gorchudd.
Mae’r cymorth yn hwyluso gwaith gwella'r amgylchedd a lleddfu costau mewnbwn cynyddol drwy dyfu mwy o borthiant cartref.
Cymorth i'r sector garddwriaethol
Gyda sector garddwriaeth bywiog, ein nod yw datblygu diwydiant amaethyddol cynaliadwy.
Mae'n darparu amrywiaeth o fanteision amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd. Trwy dyfu mwy o gynnyrch garddwriaethol, gall pobl gael gafael ar gynnyrch lleol ffres ac iach.
Mae dau gynllun ategol ar gael:
Yn cefnogi newydd-ddyfodiaid i sector garddwriaeth Cymru. Agorodd y ffenestr Datganiad o Ddiddordeb diwethaf ar 11 Ebrill 2023 a gwnaeth gau ar 20 Mai 2023.
Grantiau i dyfwyr garddwriaeth masnachol presennol fuddsoddi mewn technoleg ac offer newydd. Bydd y cyfnod ymgeisio nesaf ar agor rhwng 4 Ebrill a 10 Tachwedd.
Bwyd Anifeiliaid
Gwybodaeth a chanllawiau i helpu cynhyrchwyr amaethyddol sy'n wynebu costau cynyddol am fwyd anifeiliaid:
Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth (AHDB)
- Mynd i'r afael â chostau silwair a lleihau gwastraff (ar ahdb.org.uk)
- Gweminar: Llithriant claddfa silwair – sut i geisio osgoi llithriant y tymor hwn (ar ahdb.org.uk)
- Rhestrau Glaswellt a Meillion a Argymhellir (RGCL) (ar ahdb.org.uk)
Cyswllt Ffermio
Glinigau samplo a chyngor ar ansawdd pridd a dŵr sydd wedi’u hariannu’n llawn.
Hybu Cig Cymru / Meat Promotion Wales
- Arfer orau o ran rheoli glaswelltir, dŵr a phriddoedd (ar meatpromotion.wales)
- Perffeithio'r Ffordd Gymreig (ar Hybu Cig Cymru)
- Rheoli Tir Pori'r Ucheldir yn y Ffordd Orau – Gweminar (ar YouTube)
- Prosiect Grasscheck GB (ar Hybu Cig Cymru)
- Prosiect Newydd i Ymchwilio i Fanteision Systemau Pori (ar Hybu Cig Cymru)
Gwrtaith
Rydym yn gweithio gyda:
- rhanddeiliaid
- Llywodraeth y DU
- llywodraethau datganoledig
i olrhain pris gwrtaith.
Bydd hyn yn ein helpu i ystyried unrhyw gamau lliniaru y gallem eu cymryd.
Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth (AHDB)
Mae gwybodaeth a chanllawiau ar gael fel a ganlyn:
- Cost benefit calculator for nitrogen fertiliser use on grassland (ar ahdb.org.uk)
- Nitrogen fertiliser adjustment calculator for cereals and oilseeds (ar ahdb.org.uk)
- Fertiliser information (ar ahdb.org.uk)
- Blog: How should farmers manage costly nitrogen fertilisers? (ar ahdb.org.uk)
- How best to respond to costly fertiliser nitrogen for use in 2022 (ar ahdb.org.uk)
- Mitigating high fertiliser prices (Webinar) (ar ahdb.org.uk)
- Growing grass: simple use of nutrients and fertiliser (Webinar) (ar ahdb.org.uk)
- Make the most of your muck (Webinar) (ar ahdb.org.uk)
Cyswllt Ffermio
- Cynllunio Rheoli Maetholion | Cyswllt Ffermio (ar busnescymru.llyw.cymru)
- Cwtogi’ch colledion: Manteisio i'r eithaf ar fuddion cynllun rheoli maetholion | Cyswllt Ffermio (ar busnescymru.llyw.cymru)
- Gall ffermwyr glaswelltir liniaru yn erbyn effaith taenu llai o N ar dwf glaswellt | Cyswllt Ffermio (ar busnescymru.llyw.cymru)
- Costau cynyddol gwrtaith yn rhoi hwb i Brofi Pridd tymhorol | Cyswllt Ffermio (ar busnescymru.llyw.cymru)
- Podlediad - Rhowch gynnig ar bori cylchdro y Gwanwyn hwn | Cyswllt Ffermio (ar busnescymru.llyw.cymru)
- Lleihau mewnbwn N drwy ddefnyddio meillion yn Mountjoy | Cyswllt Ffermio (ar busnescymru.llyw.cymru)
Cymorth pellach
Galla:
- ddod o hyd i gyngor a chymorth busnes drwy Cyswllt Ffermio (ar busnescymru.llyw.cymru)
- trefnu clinig un-i-un ar y fferm (ar busnescymru.llyw.cymru)
Mae Farmwell Cymru yn ganolfan wybodaeth ar-lein. Gallwch gael cyngor ar wydnwch personol a busnes i chi a'ch teulu.
Cytundebau Glastir
Rydym yn ymwybodol o’r anawsterau y mae llawer o ffermwyr yn eu hwynebu oherwydd costau cynyddol ac mae RPW yn parhau i fonitro’r sefyllfa’n agos.
Os oes angen i ffermwyr wneud newidiadau i arferion rheoli a allai effeithio ar eu gallu i gyflawni ymrwymiadau Glastir, dylent gysylltu ag RPW ar unwaith i ofyn am randdirymiad.
Rhoddir ystyriaeth lawn i bob cais fesul achos. Gall taliadau blynyddol gael eu heffeithio lle na ellir cyflawni gofynion contract. Dylid darparu manylion yr opsiwn Glastir a rhif(au) y cae, ynghyd â chymaint o wybodaeth â phosibl am yr amgylchiadau a arweiniodd at y cais.
Yn dibynnu ar y mater, efallai y gofynnir am dystiolaeth ategol hefyd. Rhaid i ffermwyr beidio â gwyro oddi wrth ofynion eu contract Glastir cyn cael cymeradwyaeth gan RPW.