Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Ysgrifennydd Addysg Kirsty Williams, wedi llongyfarch myfyrwyr sy'n cael eu canlyniadau Safon Uwch a Bagloriaeth Cymru heddiw.

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Awst 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Dyma grynodeb o'r canlyniadau eleni:

  • Enillodd 75.3% raddau A* i C, y gyfran uchaf er 2009, ac enillodd 25% raddau A*-A. 
  • Mewn Mathemateg, perfformiodd Cymru yn well na Lloegr unwaith eto ar A* ac A*-C, wrth i 19.4% ennill gradd A*, ac 80.4% ennill graddau A* i C.
  • Gwelwyd cynnydd yn y graddau A* ym Mathemateg, Bioleg, Cemeg a Ffiseg.
  • O A* i C mae'r canlyniadau wedi cynyddu ym Mathemateg, Bioleg, Cemeg, Ffiseg a Daearyddiaeth.
  • Mae perfformiad myfyrwyr gwrywaidd a benywaidd wedi gwella ar draws yr holl raddau ym mhob pwnc.

Mae canlyniadau Bagloriaeth Cymru yn dangos:

  • bod 94% o'r ymgeiswyr wedi ennill y Dystysgrif Her Sgiliau.
  • bod 78.7% o'r ymgeiswyr wedi ennill Bagloriaeth Uwch Cymru.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae Llywodraeth Cymru wedi cymryd camau i wella canlyniadau Safon Uwch. Mae’r rhain yn cynnwys gweithio gyda chonsortia rhanbarthol, adolygu mesurau perfformiad a sicrhau bod rhaglenni i gefnogi dysgu proffesiynol ar gael i staff.

Wrth ymweld ag Ysgol John Frost yng Nghasnewydd, dywedodd Kirsty Williams:

"Hoffwn longyfarch pawb sy'n cael eu canlyniadau a diolch i ddisgyblion, athrawon a staff am eu holl waith caled.

“Mae'r set hon o ganlyniadau'n dangos cynnydd calonogol yn y nifer sy'n ennill y graddau uchaf, a chanlyniadau gwell ar draws mathemateg, bioleg, cemeg a ffiseg. Rydym hefyd wedi gweld cynnydd yn y canlyniadau ar draws amrywiaeth o bynciau. Rydw i eisiau i ni adeiladu ar hyn.

"Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod ein system addysg yn darparu’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen ar ddisgyblion yn y byd modern.

“Mae'r gwaith sy'n mynd rhagddo i ddiwygio'r cyrsiau Safon Uwch yn rhan bwysig o'n cenhadaeth genedlaethol i godi safonau ac ehangu cyfleoedd i bob un o'n pobl ifanc.”