Neidio i'r prif gynnwy

Mae Kirsty Williams, yr Ysgrifennydd Addysg wedi llongyfarch myfyrwyr sy'n cael eu canlyniadau Safon Uwch a Bagloriaeth Cymru heddiw.

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Awst 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'r canlyniadau Safon Uwch sydd gennym ar hyn o bryd ar gyfer Cymru yn dangos gwelliant cyffredinol. Mae 8.7% o'r graddau yn A*, y canlyniad gorau yng Nghymru ers cyflwyno'r radd hon yn 2010. Mae hyn 0.4 pwynt canran yn uwch na'r ffigur gorau blaenorol yn 2017.

Dyma rai ffigurau eraill o ganlyniadau heddiw:

  • Enillodd 76.3% raddau A* i C, y gyfran uchaf er 2009 - a'r gyfran uchaf ond un erioed - ac enillodd 26.3% A*-A, sy'n uchafbwynt hanesyddol. 
  • Mewn Mathemateg y gwelwyd y gyfradd basio uchaf o bob pwnc allweddol, ac enillodd 42.2% A*-A.
  • Gwelwyd cynnydd yn y niferoedd a gafodd A* mewn Ffiseg, Bioleg, Cemeg, Celf a Dylunio, Seicoleg, Daearyddiaeth, Astudiaethau Crefyddol a Saesneg Iaith.
  • O ran graddau A*-C, mae'r canlyniadau wedi codi yn Saesneg Llenyddiaeth, Bioleg, Cemeg, Ffiseg, Hanes, Celf a Dylunio, Cymdeithaseg ac Astudiaethau Busnes.
  • Mae cyfartaledd cyffredinol pob pwnc yn dangos bod perfformiad bechgyn a merched wedi gwella ar draws y rhan fwyaf o raddau.

Mae canlyniadau Bagloriaeth Cymru yn dangos:

  • bod 97.7% o ymgeiswyr wedi ennill y Dystysgrif Her Sgiliau, cynnydd o 3.7 pwynt canran ers 2017.
  • bod 80.9% o ymgeiswyr wedi pasio Bagloriaeth Uwch Cymru, cynnydd o 2.2 pwynt canran ers 2017.

Wrth ymweld ag Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf yn Llandaf, dywedodd Kirsty Williams:

“Heddiw rydyn ni'n gweld penllanw llawer o waith caled gan ein myfyrwyr a dw i am eu llongyfarch nhw, yn ogystal â'n hathrawon a'n darlithwyr gwych, ar y canlyniadau hyn.

“Mae gyda ni ganlyniadau cadarnhaol a sefydlog, ac arwyddion calonogol iawn o gynnydd wrth inni barhau ar ein taith i ddiwygio addysg.

“Dw i'n hapus iawn bod nifer y myfyrwyr sydd wedi cael A*-A wedi cyrraedd 26.3% - sydd 1.3% yn fwy na'r llynedd ac yn uchafbwynt hanesyddol i Gymru.

“Mae'n arbennig o braf hefyd gweld cynnydd yn nifer y myfyrwyr sy'n astudio pynciau STEM. Mae hwn yn batrwm rydyn ni wedi'i weld yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

“Mae cyfraddau pasio Bagloriaeth Uwch Cymru hefyd wedi codi, sy'n newyddion rhagorol - mae hwn yn gymhwyster sy'n cael ei brisio a'i dderbyn gan nifer cynyddol o brifysgolion uchel-eu-parch ledled y DU.

“Mae'r rhain i gyd yn rhesymau da iawn pam y dylen ni barhau i fod yn hyderus yn ein system gymwysterau ddiwygiedig. Rydyn ni'n darparu'r  sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen ar ein myfyrwyr er mwyn byw yn y byd modern, a'n her ni nawr yw adeiladu ar y canlyniadau wrth inni barhau â'n hymgyrch genedlaethol i godi safonau i'n holl bobl ifanc.”