Neidio i'r prif gynnwy

Manylion cofrestriadau a chymwysterau myfyrwyr ar gyfer Medi 2019 i Awst 2020.

Cofrestriadau addysg uwch gan fyfyrwyr yng Nghymru

  • Yn 2019/20, fe gynyddodd nifer y myfyrwyr o Gymru a gofrestrodd â Darparwyr Addysg Uwch (DAU) yn y Deyrnas Unedig  o 101,860 yn 2018/19 i 103,605 yn 2019/20.
  • Bu cynnydd yn nifer y myfyrwyr israddedig o Gymru; yn 2019/20 gwelwyd cynnydd o 83,330 i  84,375.  Daeth y cynnydd hwn yn bennaf o gynnydd yn nifer yr israddedigion rhan-amser a gynyddodd o 21,990 i 22,980 o fyfyrwyr yn 2019/20.
  • Bu cynnydd yn nifer y myfyrwyr ôl-raddedig o Gymru; yn 2019/20 gwelwyd cynnydd o 18,525 i 19,230.
  • Roedd 22,980 o fyfyrwyr israddedig rhan-amser o Gymru wedi cofrestru â Darparwyr Addysg Uwch (DAP) y DU yn 2019/20 – sef  cynnydd o 990.
  • Am bob dau o ddynion a oedd wedi cofrestru mewn prifysgol, roedd tair o fenywod.
  • Y grŵp pwnc mwyaf poblogaidd oedd Pynciau Perthynol i Feddygaeth, gyda’r rhan fwyaf o’r rhain yn gofrestriadau nyrsio.

Cofrestriadau addysg uwch yng Nghymru

  • Mae’r nifer sydd wedi cofrestru mewn prifysgolion yng Nghymru wedi cynyddu o 132,205 yn 2018/19 i 136,335 yn 2019/20.
  • Roedd nifer y myfyrwyr israddedig a oedd yn astudio’n rhan-amser wedi cynyddu eleni, sef 665 (2.7%). 
  • Mae nifer y myfyrwyr israddedig amser llawn wedi cynyddu eleni, sef 1005 (1.2%).
  • Gwelwyd cynnydd yn nifer y myfyrwyr ôl-raddedig a oedd wedi cofrestru o 26,755 i 29,240 yn 2019/20.
  • Roedd bron i ddau o bob pum myfyriwr ôl-raddedig yn astudio’n rhan-amser, o gymharu â bron un o bob pedwar myfyriwr israddedig.
  • Roedd ychydig dros hanner nifer y myfyrwyr mewn prifysgolion yng Nghymru yn dod o Gymru cyn iddynt ddechrau astudio.
  • Y grŵp pwnc mwyaf poblogaidd mewn prifysgolion yng Nghymru yn 2019/20 oedd Busnes a rheoli, aPhynciau’n gysylltiedig â meddygaeth yn dilyn.

Llifoedd trawsffiniol myfyrwyr amser llawn

  • Mae Cymru’n fewnforiwr net o ran myfyrwyr amser llawn o’r DU. Yn 2019/20, derbyniodd Cymru 11,320 yn fwy o fyfyrwyr o wledydd eraill y DU nag a anfonwyd i’r gwledydd hynny.
  • Roedd 37,855 o fyfyrwyr amser llawn o wledydd eraill y DU mewn prifysgolion yng Nghymru, o gymharu â 26,535 o fyfyrwyr amser llawn o Gymru yn astudio mewn Sefydiadau Addysg Uwch yng ngweddill y DU.
  • Roedd bron dau o bob pum myfyriwr israddedig amser llawn o Gymru yn astudio yn Lloegr, fel y gwnaeth un o bob tri myfyriwr ôl-raddedig amser llawn o Gymru.

Cymwysterau addysg uwch

  • Roedd nifer y cymwysterau a ddyfarnwyd i fyfyrwyr o Gymru wedi gostwng i  28,820 yn 2019/20.
  • Roedd tua thri chwarter y cymwysterau a ddyfarnwyd i fyfyrwyr o Gymru yn rhai israddedig.
  • Roedd nifer y cymwysterau a ddyfarnwyd gan brifysgolion yng Nghymru wedi gostwng ychydig yn 2019/20 i 40,250.
  • Mae tystiolaeth gan HESA yn awgrymu y gall rhywfaint o'r gostyngiad gael ei egluro oherwydd y nifer sylweddol o gymwysterau a ddyfarnwyd eleni nad ydynt wedi’u cofnodi. Y rheswm am hynny oedd bod rhai darparwyr wedi profi oedi gweinyddol o ganlyniad i bandemig COVID-19. Gellir cael rhagor o wybodaeth am effaith COVID-19 ar 2019/20 yn adran nodiadau bwletin ystadegol HESA.

Addysg Uwch mewn Sefydliadau Addysg Bellach (SABau) yng Nghymru

  • Mae niferoedd myfyrwyr ar gyrsiau Addysg Uwch mewn Sefydliadau Addysg Bellach (SABau) yng Nghymru ar gael o 2016/17 ymlaen.
  • Mae niferoedd myfyrwyr ar gyrsiau addysg uwch mewn SABau yng Nghymru wedi gostwng ychydig o 1,705 yn 2018/19 i 1,580 yn 2019/20.

Data i ddilyn

Bydd dadansoddiadau pellach ynghylch myfyrwyr yn ôl pwnc a astudir ar gyfer myfyrwyr yng Nghymru a myfyrwyr o Gymru yn dilyn ar StatsCymru.

Adroddiadau

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.