Neidio i'r prif gynnwy

Manylion cofrestriadau a chymwysterau myfyrwyr ar gyfer Medi 2018 i Awst 2019.

Cofrestriadau addysg uwch gan fyfyrwyr yng Nghymru

  • Yn 2018/19, fe gynyddodd nifer y myfyrwyr o Gymru a gofrestrodd mewn Sefydliadau Addysg Uwch (SAUau) yn y Deyrnas Unedig 2.6% o 96,780 yn 2017/18 i 99,310, gan ddod â’r gostyngiad a welwyd dros y chwe blynedd ddiwethaf i ben.
  • Roedd 81,105 o’r myfyrwyr israddedig o Gymru, sy’n ychydig o gynnydd ers 2017/18 (1.2%).
  • At ei gilydd roedd y cynnydd cyffredinol yn deillio o gynnydd yn nifer y myfyrwyr ôl-raddedig o Gymru; yn 2018/19 gwelwyd cynnydd am yr ail flwyddyn yn olynol, o 16,665 i 18,200 (9.2%).
  • Roedd 20,790 o fyfyrwyr israddedig rhan-amser o Gymru yn SAUau y DU yn 2018/19 – sef  cynnydd o 825 (4.1%), yn dilyn y gostyngiad a welwyd dros chwe blynedd.
  • Am bob dau o ddynion a oedd wedi cofrestru mewn prifysgol, roedd tair o fenywod.
  • Y grŵp pwnc mwyaf poblogaidd oedd Pynciau Perthynol i Feddygaeth, gyda’r rhan fwyaf o’r rhain yn gofrestriadau nyrsio.

Cofrestriadau addysg uwch yng Nghymru

  • Mae’r nifer sydd wedi cofrestru mewn prifysgolion yng Nghymru wedi cynyddu o 121,010 yn 2017/18 i 121,880 yn 2018/19.
  • Roedd nifer y myfyrwyr israddedig a oedd yn astudio’n rhan-amser wedi gostwng eleni, sef 555 yn llai (3.6%). Felly, mae’r gostyngiad a welwyd ers 2011/12 yn parhau.
  • Roedd nifer y myfyrwyr israddedig amser llawn wedi aros ar lefel sy’n debyg i’r hyn ydoedd yn 2017/18, yn dilyn cynnydd dros y tair blynedd ddiwethaf.
  • Roedd gostyngiad o 1,995 (7%) yn nifer y myfyrwyr israddedig a oedd yn astudio’n rhan-amser.
  • Gwelwyd cynnydd yn nifer y myfyrwyr ôl-raddedig a oedd wedi cofrestru o 24,875 i 26,350 yn 2018/19 (cynnydd o 5.9%).
  • Roedd bron i ddau o bob pum myfyriwr ôl-raddedig yn astudio’n rhan-amser, o gymharu â bron un o bob pum myfyriwr israddedig.
  • Roedd tua hanner nifer y myfyrwyr mewn prifysgolion yng Nghymru yn dod o Gymru cyn iddynt ddechrau astudio.
  • Y grŵp pwnc mwyaf poblogaidd mewn prifysgolion yng Nghymru yn 2018/19 oedd Gwyddorau Biolegol, a Phynciau’n gysylltiedig â meddygaeth yn dilyn.

Llifoedd trawsffiniol myfyrwyr amser llawn

  • Mae Cymru’n fewnforiwr net o ran myfyrwyr amser llawn o’r DU. Yn 2018/19, derbyniodd Cymru 10,325 yn fwy o fyfyrwyr o wledydd eraill y DU nag a anfonwyd i’r gwledydd hynny.
  • Roedd 36,820 o fyfyrwyr o wledydd eraill y DU mewn prifysgolion yng Nghymru, o gymharu â 26,500 o fyfyrwyr o Gymru yn astudio mewn SAUau yng ngweddill y DU.
  • Roedd dau o bob pum myfyriwr israddedig o Gymru yn astudio yn Lloegr, fel y gwnaeth ychydig dros un o bob tri myfyriwr ôl-raddedig o Gymru.

Cymwysterau addysg uwch

  • Roedd nifer y cymwysterau a ddyfarnwyd i fyfyrwyr o Gymru wedi cynyddu i  28,735 yn 2018/19.
  • Roedd tua thri chwarter y cymwysterau a ddyfarnwyd i fyfyrwyr o Gymru yn rhai israddedig.
  • Roedd nifer y cymwysterau a ddyfarnwyd gan brifysgolion yng Nghymru wedi cynyddu ychydig yn 2018/19 i 39,400.

Addysg Uwch mewn Sefydliadau Addysg Bellach (SABau) yng Nghymru

  • Mae niferoedd myfyrwyr ar gyrsiau Addysg Uwch mewn Sefydliadau Addysg Bellach (SABau) yng Nghymru ar gael o 2016/17 ymlaen.
  • Mae niferoedd myfyrwyr ar gyrsiau addysg uwch mewn SABau yng Nghymru wedi cynyddu ychydig o 1,670 yn 2017/18 i 1,705 yn 2018/19.

Adroddiadau

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.