Neidio i'r prif gynnwy

Myfyrwyr o Gymru sydd wedi cofrestru mewn darparwyr addysg uwch y DU

  • Roedd 108,165 o fyfyrwyr o Gymru wedi’u cofrestru mewn darparwyr addysg uwch yn y DU yn 2022/23, 2% yn llai nag yn 2021/22.
  • Roedd 86,210 o fyfyrwyr israddedig o Gymru yn 2022/23, 1% yn llai nag yn 2021/22. 
  • Roedd 21,960 o fyfyrwyr ôl-raddedig o Gymru yn 2022/23, 5% yn llai nag yn 2021/22. 
  • Roedd 60% o fyfyrwyr ôl-raddedig yn astudio’n rhan-amser, o gymharu â 30% o israddedigion.
  • Yn 2022/23, roedd 63% yn fwy o fenywod wedi’u cofrestru na dynion.
  • Gwelwyd gostyngiad o 2% yn nifer y myfyrwyr israddedig amser llawn o'r ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru (WIMD 2019 - Cwintel 1), o 10,120 o gofrestriadau yn 2021/22 i 9,940 o gofrestriadau yn 2022/23.
  • Gwelwyd gostyngiad o 3% yn nifer y myfyrwyr israddedig amser llawn o’r ardaloedd lleiaf difreintiedig yng Nghymru (WIMD 2019 - Cwintel 5) o 15,705 o gofrestriadau yn 2021/22 i 15,195 o gofrestriadau yn 2022/23.

Cofrestriadau mewn darparwyr addysg uwch yng Nghymru

  • Mae nifer y cofrestriadau mewn darparwyr addysg uwch yng Nghymru wedi cynyddu 4%; o 149,045 yn 2021/22 i 154,385 yn 2022/23.
  • Mae nifer y myfyrwyr israddedig wedi cynyddu 1%; o 110,385 yn 2021/22 i 111,745 yn 2022/23.
  • Mae nifer y myfyrwyr ôl-raddedig wedi cynyddu 10%; o 38,660 yn 2021/22 i 42,640 yn 2022/23. 
  • Roedd 36% o fyfyrwyr ôl-raddedig yn astudio’n rhan-amser, o'i gymharu â 25% o fyfyrwyr israddedig.
  • Y grŵp pwnc mwyaf poblogaidd mewn darparwyr addysg uwch yng Nghymru yn 2022/23 oedd Busnes a Rheolaeth, a phynciau’n gysylltiedig â meddygaeth yn dilyn.

Llif trawsffiniol myfyrwyr amser llawn yn 2022/23

  • Mae Cymru’n fewnforiwr net o ran myfyrwyr amser llawn o’r DU. 
  • Roedd 44,080 o fyfyrwyr amser llawn o wledydd eraill y DU mewn darparwyr addysg uwch yng Nghymru, o gymharu â 28,385 o fyfyrwyr amser llawn o Gymru yn astudio mewn darparwyr addysg uwch yng ngweddill y DU.
  • Roedd 41% o fyfyrwyr israddedig amser llawn o Gymru yn astudio yn Lloegr, a 36% o fyfyrwyr ôl-raddedig amser llawn o Gymru yn astudio yn Lloegr.

Cymwysterau addysg uwch

  • Gostyngodd nifer y cymwysterau a ddyfarnwyd i fyfyrwyr o Gymru 4%; o 31,510 yn 2021/22 i 30,315 yn 2022/23.
  • Cynyddodd nifer y cymwysterau a ddyfarnwyd gan ddarparwyr addysg uwch yng Nghymru 3%; o 45,120 yn 2021/22 i 46,465 yn 2022/23.

Nodyn

Mae niferoedd myfyrwyr yn seiliedig ar gofrestriadau addysg uwch. Gallai myfyriwr fod wedi cofrestru fwy nag unwaith.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Sedeek Ameer
E-bost: addysguwchachyllidmyfyrwyr.yst@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

Image