Neidio i'r prif gynnwy

Yng Ngholeg Gwent, mae grŵp o ddysgwyr byddar* yn datblygu sgiliau bywyd annibynnol trwy gymorth wedi'i deilwra i'r unigolyn.

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Rhagfyr 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ar ymweliad â champws Casnewydd, cyfarfu'r Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch, Vikki Howells, â staff a dysgwyr Côr B/byddar Cwmbrân a chafodd gyfle i weld eu cyngerdd côr Nadolig.

Dros y pedair blynedd diwethaf mae dysgwyr byddar o Ysgol Uwchradd Cwmbrân wedi bod yn rhan o'r Clwb Byddar yng Ngholeg Gwent, gan helpu i fagu eu hyder a chefnogi gyda'r cyfnod trosglwyddo o'r ysgol. 

Mae gan y coleg bartneriaeth gref gydag Elite sy'n cefnogi dysgwyr wrth iddynt bontio i fyd gwaith.

Dywedodd Vikki Howells:

"Mae'r Clwb Byddar yng Ngholeg Gwent yn enghraifft ysbrydoledig o sut mae dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol yn ffynnu mewn addysg brif-ffrwd, diolch i'n dull gweithredu sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. 

"Nod y diwygiadau rydym yn eu gweithredu yng Nghymru yw cyflawni'r newid systemig mewn diwylliant ac ymarfer sydd ei angen i sicrhau bod ein holl blant a phobl ifanc yn gallu cyrraedd eu llawn botensial.

"Rwyf mor falch o weld bod Awdurdodau Lleol, ysgolion a cholegau yn gweithio'n galed gyda dysgwyr a'u teuluoedd i sicrhau eu bod yn cael y ddarpariaeth sydd ei hangen arnynt i ffynnu, gan weithio gydag asiantaethau allanol a byrddau iechyd."

Mae Coleg Gwent yn gyfeillgar i bobl fyddar, ac mae'r staff yn ymwybodol o bobl fyddar. Mae rhai dysgwyr yn fyddar, yn drwm eu clyw neu'n fyddar, ac yn defnyddio cymhorthion clyw a/neu fewnblaniadau cochlear. Mae myfyrwyr hefyd yn cyfathrebu gan ddefnyddio Iaith Arwyddion Prydain (BSL) a Saesneg drwy Gymorth Arwyddion (SSE). Yn 2023 i 2024 nododd 78 o ddysgwyr yn y coleg nam ar y clyw fel angen dysgu ychwanegol.

Yn ogystal â galluogi dysgwyr i gael mynediad i'w dysgu a chyrraedd eu potensial llawn, mae'r coleg yn cefnogi profiad gwaith i ddysgwyr drwy'r elusen leol Elite, sy'n darparu cyfleoedd galwedigaethol, hyfforddiant a chyflogaeth i bobl anabl ac sy'n delio ag anfantais. 

Yn ogystal â gwella hyder dysgwyr, mae Elite yn darparu cynlluniau prentisiaeth â chymorth sy'n arwain at ganlyniadau llwyddiannus i ddysgwyr pan fyddant yn gadael y coleg. Mae staff Elite yn dod i gyfarfodydd y Clwb Byddar, felly mae dysgwyr yn gweld wyneb cyfarwydd wrth iddynt symud i fyd gwaith.

Dywedodd Nicola Gamlin, Pennaeth Coleg Gwent: 

"Roeddem yn falch iawn o groesawu Vikki Howells, y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch i Goleg Gwent i weld talentau anhygoel Côr B/byddar Cwmbrân. Mae'r perfformiad ysbrydoledig hwn yn enghraifft o sut mae dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol yn ffynnu yn y coleg a thu hwnt. 

"Yn Ngholeg Gwent, mae gennym angerdd dros greu amgylchedd cynhwysol lle mae pob dysgwr yn cael ei gefnogi i gyflawni ei botensial llawn. Mae gweld y talent yn cael ei ddathlu heddiw yn rhoi teimlad o falchder mawr i mi o ran yr hyn y mae ein dysgwyr wedi'i gyflawni, ac rydym yn falch o allu rhannu hyn gyda'r Gweinidog." 

Nid stori am Went yn unig yw hon, lle mae dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol yn cael cymorth wrth drosglwyddo i'r cam nesaf ar y daith ddysgu. Mae Grŵp Llandrillo-Menai yng Ngogledd Cymru wedi bod yn meithrin perthynas agos gydag ysgolion lleol i gefnogi dysgwyr ag ADY. 

Dyma Sharon O'Connor, Pennaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol Grŵp Llandrillo Menai yn esbonio sut mae'r system ADY yn hyrwyddo cydweithredu a chyfathrebu:

"Dyma system sy'n caniatáu i ni nodi dyheadau'r myfyriwr, dyheadau'r rhieni, a sut rydym yn cydweithredu ag ysgolion. Mae'r athrawon yn rhan annatod o hyn, gan rannu gwybodaeth am yr hyn sydd ei angen yn y dyfodol. 

"Cydweithredu ag asiantaethau allanol ac awdurdodau lleol - mae hyn wedi bod yn hanfodol, ac wrth wraidd popeth yr ydym wedi'i wneud fel tîm ADY.  Rydym yn ymdrechu i greu cydberthynas glos fel bod y cyfathrebu'n glir, bod yr anghenion yn cael eu hadnabod yn gynnar, a bod pawb yn gyfforddus i gael sgwrs am bobl ifanc".

Mae'r system ADY, sy'n cael ei gweithredu ers mis Medi 2021, wedi'i chyflwyno'n raddol ledled Cymru. Mae'n creu un system ddeddfwriaethol sy'n cefnogi plant a phobl ifanc 0 i 25 oed, gan ddisodli'r System Anghenion Addysgol Arbennig (AAA).

Ochr yn ochr â'r diwygiadau i'r system ADY, mae'r Cwricwlwm i Gymru yn cynnig mwy o hyblygrwydd i ysgolion a cholegau addysgu mewn ffordd sy'n diwallu orau anghenion unigol pob plentyn, gan chwalu'r rhwystrau i sicrhau cyfleoedd a chanlyniadau addysgol rhagorol i bob dysgwr. 

Ers 2020, mae mwy na £107m o gyllid refeniw wedi cael ei fuddsoddi i gefnogi'r gwaith o weithredu'r system ADY, ac mae £60m o gyllid cyfalaf wedi'i ddarparu i awdurdodau lleol yng Nghymru i wella'r cyfleusterau a'r seilwaith ar gyfer pob dysgwr, gan gynnwys y rhai ag ADY.

*Pan fo'r erthygl yn defnyddio'r gair byddar, golygai hyn pob categori o bobl fyddar oni nodir yn wahanol.