Neidio i'r prif gynnwy

Mae pobl o bob cwr o Gymru'n parhau i deimlo'n fodlon â gwasanaethau cyhoeddus a'u bywydau bob dydd, yn ôl canlyniadau diweddaraf Arolwg Cenedlaethol Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Mehefin 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Arolwg Cenedlaethol Cymru 2016-17 ar ei newydd wedd yn rhoi darlun ehangach o lefelau llesiant a boddhad â'r gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, ynghyd â'r materion sy'n wynebu cymunedau lleol. 


Yn ôl y canlyniadau, mae 82% o bobl Cymru'n gyffredinol fodlon â'u bywydau. 


Mae Arolwg Cenedlaethol Cymru yn arolwg sy'n cael ei gynnal wyneb yn wyneb gyda dros 10,000 o oedolion 16 oed a throsodd, a ddewiswyd ar hap, ym mhob cwr o Gymru. Defnyddir y canlyniadau gan Lywodraeth Cymru i helpu i wneud Cymru yn lle gwell i fyw.


Dechreuodd yr Arolwg ar ei ffurf wreiddiol yn 2012. O 2016-17 ymlaen, mae'n disodli Arolwg Iechyd Cymru, Arolwg y Celfyddydau yng Nghymru, Arolwg Hamdden Awyr Agored Cymru a'r Arolwg Oedolion Egnïol.


Ymysg prif ganlyniadau Arolwg Cenedlaethol 2016-17 mae'r canlynol:

  • Dywedodd 90% o'r ymatebwyr eu bod yn fodlon â gofal eu meddyg teulu; roedd 91% yn fodlon â'r gofal a dderbyniwyd yn eu hapwyntiad GIG diwethaf a 96% o'r cleifion ysbyty yn teimlo eu bod yn cael eu trin ag urddas a pharch.
  • Roedd 90% o'r rhieni yn fodlon ag ysgol gynradd eu plant ac 85% yn fodlon ag ysgol uwchradd eu plant
  • Roedd 70% yn dweud bod eu profiad o ofal cymdeithasol naill ai'n ardderchog neu'n dda
  • Dywedodd 66% eu bod yn medru ymdopi â'u holl filiau ac ymrwymiadau heb anhawster
  • Roedd 73% yn teimlo bod pobl yn eu hardal leol yn trin ei gilydd ag urddas a pharch
  • Dywedodd 48% eu bod yn teimlo'n gadarnhaol am y dyfodol
  • Roedd 80% wedi ymweld â'r awyr agored yn y 12 mis diwethaf
  • Mae 62% yn cerdded neu feicio i fynd o le i le
  • Mae 85% o'r bobl yn defnyddio'r rhyngrwyd.

Mae arolwg 2016-17 yn datgelu barn pobl am waith Llywodraeth Cymru ac am iechyd ac addysg, gyda sero'n cyfateb i 'gwael iawn' a 10 yn cyfateb i 'da iawn'.

Sgôr cyffredinol Llywodraeth Cymru oedd 5.6; gyda 6.2 ar gyfer iechyd a 6.2 ar gyfer addysg. 

Gan groesawu'r canlyniadau, dywedodd yr Ysgrifennydd Cyllid a Llywodraeth Leol, Mark Drakeford: 

"Mae'r arolwg newydd, eang hwn yn rhoi darlun o wasanaethau cyhoeddus a phrofiadau'r bobl sy'n eu defnyddio, ynghyd â'u bywydau'n fwy cyffredinol. 

"Cynhaliwyd yr arolwg hwn mewn cyfnod o ansicrwydd yn dilyn canlyniad y refferendwm ar yr Undeb Ewropeaidd a chyni parhaus Llywodraeth y Deyrnas Unedig. 

"Er gwaethaf hyn, mae'r canlyniadau sy'n cael eu cyhoeddi heddiw yn dangos bod pobl Cymru'n gyffredinol fodlon â'r gwasanaethau cyhoeddus sydd mor bwysig i ni i gyd.

"Rydyn ni'n gwybod bod amser caled o'n blaen, ac mae angen i ni i gyd baratoi ar gyfer yr heriau hyn. Mae canfyddiadau'r arolwg hwn yn amserol iawn, ac yn mynd i'n helpu ni i sicrhau bod modd i ni ddarparu'r gwasanaethau o ansawdd uchel y mae gan bobl hawl eu disgwyl.

"Bydd gwrando ar farn pobl o bob cwr o'r wlad yn ein helpu i wneud Cymru'n lle gwell fyth i fyw, gweithio a mwynhau."