Neidio i'r prif gynnwy

Daeth y cynlluniau i symud pencadlys y cwmni rheilffyrdd Keolis UK o Lundain i Gymru gam yn nes yr wythnos.

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Ionawr 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn dilyn dyfarnu'r contract am wasanaeth rheilffyrdd Cymru a'r Gororau a Metro De Cymru i KeolisAmey y llynedd, cyhoeddodd Keolis UK y byddai'n symud ei bencadlys o Lundain i swyddfa newydd yng Nghymru erbyn 2019, ac y bydd yn symud ei is-adran reilffyrdd byd-eang o Baris i Gymru erbyn 2020.

Yr wythnos hon, cyfarfu y Gweinidog â Guillaume Pepy, Cadeirydd rhiant gwmni Keolis, SNCF, ym Mae Caerdydd i drafod y datblygiadau ar symud Pencadlys Keolis UK i Gymru a rhagor o gyfleoedd i gydweithio rhwng Cymru a Ffrainc. 

Meddai'r Gweinidog:

"Bu Guillaume Pepy yn allweddol wrth ddiwygio diwydiant rheilffyrdd Ffrainc ers ei benodi yn Gadeirydd SNCF yn 2008. Daw â chyfoeth o brofiad yn y diwydiant rheilffyrdd ac arbenigedd o ran sut y bydd y cwmni rheilffyrdd KeolisAmey, sy'n gweithredu fel Trafnidiaeth Cymru, yn cael effaith bositif ar ein sector trafnidiaeth.

"Mae'r bartneriaeth hon yn cryfhau cysylltiadau economaidd Ewropeaidd a dwi'n falch iawn bod y gwaith i symud pencadlys Keolis i Gaerdydd yn mynd rhagddo'n dda . Mae cydweithio ag arweinwyr y diwydiant trafnidiaeth Ewropeaidd yn allweddol i'n helpu i gyflawni ein gweledigaeth o greu rhwydwaith trafnidiaeth o safon fyd-eang y gall pobl yng Nghymru fod yn falch ohono." 

Meddai Guillaume Pepy: 

"Dwi'n falch iawn o benderfyniad Cymru i wella dyfodol y wlad drwy system drafnidiaeth gyhoeddus fodern. Mae SNCF wedi ymrwymo'n llawn i gefnogi llwyddiant y strategaeth hon."

Yn ogystal ag ymrwymiad Keolis, cyhoeddodd Amey y byddai'n agor canolfan ddylunio newydd yng Nghymru, ble y bydd yn cynnig gwasanaethau ymgynghori ac y bydd rhagor o swyddi'n cael eu creu pan fydd y cwmni yn agor canolfan gyd-wasanaethau a chyswllt cwsmeriaid yn cynnig gwasanaethau i'r ddau fusnes.

Mae'r buddsoddiad o £5 biliwn sydd wedi'i ymrwymo fel rhan o gytundeb newydd gwasanaeth teithwyr Trafnidiaeth Cymru i greu 600 o swyddi newydd, gyda 30 o brentisiaethau newydd i gael eu creu bob blwyddyn.