Wrth i rwystrau a chymhlethdodau newydd yn ein perthynas ag Ewrop barhau i ddod i’r amlwg, heddiw cyhoeddodd Jeremy Miles, y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd, £7m yn ychwanegol ar gyfer prosiectau i helpu’r sectorau sydd wedi teimlo’r ergyd fwyaf.
Bydd y cyllid gan Gronfa Bontio’r UE, yn cael ei rannu ar draws llinynnau amrywiol o waith sy’n cael ei wneud gan lywodraeth leol, y byd academaidd, y trydydd sector a grwpiau cymunedol, i helpu i sicrhau bod pob rhan o Gymru mor barod â phosibl am yr ansicrwydd parhaus yn sgil ein perthynas newydd â’r UE.
Diben Cronfa Bontio’r UE yw cefnogi busnesau a chyrff cyhoeddus i ymateb i’r newidiadau sy’n deillio o’n hymadawiad â’r Undeb Ewropeaidd a’u helpu i barhau i ddarparu gwasanaethau hanfodol i bobl Cymru.
Mae’r gyfran ddiweddaraf yn cynnwys cyllid a fydd yn:
- adeiladu ar ein partneriaethau a’n rhwydweithiau ar draws y byd i hybu sector addysg uwch Cymru sydd o safon fyd-eang, ar lefel ryngwladol
- galluogi cydlynwyr Brexit o fewn llywodraeth leol i barhau i weithio gyda chynghorau i fynd i’r afael â phryderon a goblygiadau yn lleol
- mynd i’r afael â thlodi bwyd yng Nghymru, gan gydnabod y bydd goblygiadau perthynas newydd y DU a’r UE yn cael eu teimlo ar lefel anghymesur ar draws ein cymdeithas
- cefnogi gweithgarwch pwysig yn y trydydd sector yng Nghymru er mwyn gallu deall goblygiadau’r berthynas newydd â’r UE yn well
- parhau i ariannu gwasanaethau cyngor a chymorth ar gyfer dinasyddion yr UE nad ydynt o'r DU.
Dywedodd Jeremy Miles:
“Ers i ni adael y cyfnod pontio ddiwedd mis Rhagfyr, mae wedi bod yn amlwg i bawb bod yr amodau wedi newid yn ddramatig, a bod hyn yn cael effaith sylweddol ar ein busnesau a’n cymunedau.
“Hyd yma, mae ein Cronfa Bontio’r UE wedi cael ei defnyddio i helpu cannoedd o fusnesau yng Nghymru, yn ogystal â sefydliadau gwasanaethau cyhoeddus a phartneriaid eraill i gynllunio a pharatoi ar gyfer effeithiau ein hymadawiad â’r UE.
“Rydym yn gweithredu nawr i ddarparu cymorth ychwanegol i rai o’n grwpiau mwyaf agored i niwed, yn ogystal â chryfhau meysydd a allai gael eu taro waethaf gan y cyfuniad o COVID a’r heriau ychwanegol yn sgil ein hymadawiad â’r UE.
“Byddwn yn parhau i weithredu er budd pennaf pobl Cymru, ac os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon am sut y gallai’r newidiadau effeithio arnoch chi, ewch i’n gwefan Paratoi Cymru i gael y cyngor a’r canllawiau diweddaraf.”