Heddiw (dydd Mercher 8 Mai) bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn amlinellu sut y bydd yn sicrhau bod y diwygiadau’n ymwneud ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) yn cael eu gweithredu'n gyson mewn ysgolion ac awdurdodau lleol yng Nghymru.
Bydd hefyd yn cyhoeddi £20 miliwn pellach ar gyfer ysgolion i wella cyfleusterau i ddysgwyr ag ADY, fel rhan o ddadl ar y diwygiadau ADY y prynhawn yma.
Dywed Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle:
Mae gwaith rhagorol yn cael ei wneud i gefnogi dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol ledled Cymru. Rwyf wedi mynd ati yn ystod yr wythnosau cyntaf i wrando ar rieni, ysgolion awdurdodau lleol a'r sector iechyd i weld beth sy'n digwydd ar lawr gwlad.
Rwyf am weithredu nawr i wella'r broses o weithredu'r system ADY, gan ganolbwyntio ar y materion sylfaenol sy'n cael eu codi gyda mi.
Rydym eisoes wedi adolygu'r broses weithredu'n helaeth, ond rwyf am weld gwelliannau pellach i wneud y system yn fwy cyson ledled Cymru.
Bydd y £20 miliwn, ychwanegol, fel rhan o'n Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy, yn parhau i wneud gwahaniaeth mawr i addysg dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol. Mae gan bob plentyn yng Nghymru yr hawl i addysg ragorol ac mae'n hanfodol parhau i fuddsoddi yn y system addysg er mwyn i bob plentyn lwyddo.
Bydd y £20 miliwn a gyhoeddir heddiw hefyd yn helpu i adeiladu a diweddaru ardaloedd synhwyraidd, uwchraddio offer arbenigol, creu ystafelloedd dosbarth a mannau awyr agored arbenigol yn ogystal â gwella'r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol drwy gyfrwng y Gymraeg.
Dros y tair blynedd diwethaf rydym wedi buddsoddi £60 miliwn ychwanegol i gefnogi'r seilwaith ADY fel rhan o'n Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy ac wedi diogelu ein buddsoddiad ychwanegol o £56.3 miliwn i weithredu diwygiadau a hybu adnoddau mewn ysgolion, addysg bellach ac awdurdodau lleol.
Yn 2022, cafodd Ysgol Gymraeg Gwaun y Nant yn y Barri grant o bron i £214,000. Defnyddiwyd yr arian i greu a darparu canolfan adnoddau ADY arbenigol yn yr ysgol. Bydd hyn hefyd yn cynyddu'r ddarpariaeth cyfrwng Gymraeg i ddysgwyr ag ADY.
Dywedodd Rhydian Lloyd, Pennaeth Ysgol Gymraeg Gwaun y Nant:
Mae'r cyllid ychwanegol wedi caniatáu i ni sefydlu canolfan adnoddau cyfrwng Cymraeg modern a phenodedig ar gyfer dysgwyr ag ADY ar draws Bro Morgannwg.
Rydym wedi sylwi bod cynnydd sylweddol yn nifer y disgyblion sy'n dangos arwyddion o ADY, yn enwedig y rhai sydd â chyflwr ar y sbectrwm awtistig ac anawsterau sylweddol o ran cyfathrebu cymdeithasol, rhyngweithio, rheoleiddio a gorbryder.
Trwy sefydlu ein canolfan adnoddau, gallwn roi mwy o gefnogaeth i'r disgyblion hyn a gwella'r ddarpariaeth ar gyfer rhai o'n dysgwyr mwyaf bregus.