Mae Cronfa Her yr Economi Sylfaenol gan Lywodraeth Cymru, sy'n anelu at sbarduno ffyniant ledled Cymru yn cael threblu bron, i dros £4 miliwn.

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Hydref 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rhannu’r dudalen hon

Gwnaeth Ken Skates, Gweinidog yr Economi y cyhoeddiad fel rhan o araith fawr i'r gymuned fusnes ynghylch Brexit a'r dewis sydd ynghlwm iddo o ran dyfodol economaidd Cymru.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Gronfa Her yr Economi Sylfaenol ym mis Chwefror fel rhan o'i hymateb i Brexit.

Mae'r gronfa yn anelu at brofi ffyrdd newydd o feithrin a datblygu rhannau pob dydd o economi Cymru, ac mae'n rhan o waith Llywodraeth Cymru i gyrraedd y cymunedau hynny ledled Cymru sy'n teimlo eu bod wedi ymddieithrio a'u gadael ar ôl.

Mae'r Economi Sylfaenol yn cynnwys y nwyddau a'r gwasanaethau pob dydd y mae pawb yn eu defnyddio a'u hangen.

Gwasanaethau gofal a iechyd, bwyd, tai, twristiaeth a manwerthwyr ar y stryd fawr, dyma ond ychydig o'r enghreifftiau o economi sylfaenol sy'n gwella profiad pobl o fywyd pob dydd.

Ym mis Mai, datgelwyd bod Cronfa Her yr Economi Sylfaenol yn cael ei dyblu i £3 miliwn.

Mae newyddion heddiw yn golygu £1.077 miliwn i gefnogi prosiectau arloesol ac arbrofol sy'n edrych ar ffyrdd o feithrin a datblygu yr Economi Sylfaenol, a helpu i ddatblygu economïau rhanbarthol fel y gellir rhannu ffyniant yn fwy cyfartal ledled Cymru.

Mae'r gronfa yn cynnig hyd at £100,000 i ymgeiswyr i ddadwneud y dirywiad fu mewn amodau cyflogi, rhwystro yr arian o gymunedau Cymru rhag cael ei golli a lleihau cost amgylcheddol y cadwyni cyflenwi estynedig. Bydd hefyd yn gweithio i sicrhau bod gwersi sydd wedi'u dysgu yn cael eu rhannu ledled Cymru.

Cafodd y gronfa ei chyhoeddi gan Lee Waters, Dirprwy Weinidog yr Economi ym mis Chwefror. Heddiw mae wedi datgelu manylion y tri prosiect llwyddiannus cyntaf i dderbyn cyllid wedi'i neilltuo gyda dros 40 o brosiectau i'w cyhoeddi eto.

  • Mae Cyngor Sir Abertawe yn derbyn £27,000 ar gyfer prosiect i helpu cwmnïau adeiladu bychain i ymgeisio am gontractau awdurdodau lleol – cam cyntaf tuag at gefnogi cyrff cyhoeddus eraill i roi mwy o’u gwaith i BBaChau.
  • Mae Economi Gylchol Cymru yn derbyn £100,000 i greu ‘System Credyd Cydfuddiannol’ yn seiliedig ar fodel yn Sardinia, sy’n caniatáu i gwmnïau fasnachu â’i gilydd gyda chredydau yn hytrach nac arian parod, sy’n rhaid eu hail-ddefnyddio o fewn yr economi ranbarthol.
  • Bydd prosiect Nwy ac Olew Gŵyr yn elwa o £81,478 am gynllun fydd yn cynnig profiad gwaith i bobl ifanc, gan dargedu unigolion sydd mewn perygl o adael y system addysg ac i ddiweithdra.

Dywedodd Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Lee Waters:

"Mae'r Economi Sylfaenol yn hollol hanfodol fel ffynhonnell waith yn ogystal â'i swyddogaeth o ddarparu'r nwyddau a'r gwasanaethau hanfodol sydd eu hangen arnom i gyd ac sy'n cael eu mwynhau gennym.

"Mae ein Cynllun Gweithredu Economaidd yn pennu ein cyfeiriad ar gyfer dull ehangach a mwy cytbwys o ddatblygu yn economaidd, yn seiliedig ar wneud cymunedau yn gryfach ac yn fwy cadarn. Mae Cronfa Her yr Economi Sylfaenol yn sylfaenol i hyn ac rwy'n falch o gyhoeddi ein bod bron iawn yn treblu y swm sydd ar gael i brosiectau all wneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl ledled Cymru.

"Mae'r hwb yma mewn cymorth ariannol yn ymateb i'r diddordeb mawr ac i safon y ceisiadau a gyflwynwyd, a byddwn yn gwneud rhagor o gyhoeddiadau yn fuan ar yr holl geisiadau llwyddiannus.

"Does dim llawer o amheuaeth bod hwn yn gyfnod heriol ac ansicr, oherwydd yn bennaf y ffordd hynod flêr y mae Llywodraeth y DU wedi ymdrin â Brexit, ond fel Llywodraeth Cymru, mae ein penderfyniad a'n hymrwymiad i gefnogi ein cymunedau, boed fawr neu fach, ym mhob rhan o Gymru, yn gadarn iawn.

"Rydw i am i'n Heconomi Sylfaenol barhau i ddatblygu a chynnig mwy o gyfleoedd fel y gall pob cymuned elwa, yn enwedig y rhai hynny mewn ardaloedd llai breintiedig. Mae cynyddu y swm sydd ar gael drwy'r Gronfa yn dangos hynny yn glir.

Cafodd y £1.5 miliwn gwreiddiol ar gyfer y Gronfa Her Sylfaenol ei sicrhau fel rhan o gytundeb cyllidebol dros 2 flynedd gyda Plaid Cymru.