Bydd sioeau amaethyddol sydd ar ddod yr haf hwn yn rhoi mwy o gyfleoedd i drafod ac i weld y gorau o gefn gwlad Cymru, meddai'r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, Lesley Griffiths.
Bydd y Gweinidog yn ymweld â sioeau Ynys Môn a Sir Benfro yr wythnos hon, a bydd y Prif Weinidog Mark Drakeford hefyd ym Mona ar gyfer Sioe Mon.
Bydd Llywodraeth Cymru yn y ddwy sioe lle bydd ffermwyr yn gallu darganfod mwy am y cynigion ar gyfer y Cynllun Ffermio Cynaliadwy.
Meddai y Gweinidog Materion Gwledig:
Rwy'n edrych ymlaen at ymweld â'r ddwy sioe yr wythnos hon. Mae Sioe Môn a Sioe Sir Benfro yn uchafbwyntiau y calendr gwledig, ac yn boblogaidd iawn gyda phobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd.
Fel yn y Sioe Frenhinol mae'r sioeau'n dod â chymunedau gwledig at ei gilydd, ac yn gyfle gwych i gynnal trafodaethau.
Bydd Llywodraeth Cymru yn y ddwy sioe, a byddwn yn annog pawb i alw heibio a darganfod mwy am y cynigion ar gyfer y Cynllun Ffermio Cynaliadwy. Byddwn yn ymgynghori ar y cynllun terfynol tua diwedd y flwyddyn hon lle byddwn yn ymgorffori canfyddiadau ymarfer cyd-ddylunio y llynedd i helpu i lunio fersiwn nesaf cynigion y Cynllun Ffermio Cynaliadwy.
Mae'r diwydiant yn wynebu newidiadau a llawer o heriau gan gynnwys yr argyfyngau hinsawdd a natur. Mae'r hafau diwethaf wedi tynnu sylw at effaith fyd-eang gwirioneddol a dinistriol iawn y newid yn yr hinsawdd a does dim amheuaeth mai hon fydd yr her fwyaf i amaethyddiaeth a chynhyrchu bwyd. Pa newidiadau bynnag a wnawn ar gyfer y dyfodol, y flaenoriaeth yw caniatáu i'n ffermwyr gynhyrchu bwyd yn gynaliadwy wrth fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd.
Dwi'n edrych ymlaen at y sioeau yr haf yma, ac i glywed barn pobl.
Meddai’r Prif Weinidog:
Mae Sioe Môn yn un o uchafbwyntiau calendr digwyddiadau haf Gogledd Cymru, ac rwy'n edrych ymlaen at ddod heddiw. Bydd yn gyfle i barhau i drafod gyda ffermwyr ac eraill am gefnogaeth i'r diwydiant yn y dyfodol.
Mae digwyddiadau fel Sioe Môn yn dangos yr hyn y mae ein cymunedau gwledig yn ei gyflawni ac yn tynnu sylw at y cynnyrch ardderchog sydd gennym yma yng Nghymru. Er mwyn cynhyrchu bwyd yn gynaliadwy yn y dyfodol mae'n rhaid inni fynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur sy'n rhy real o lawer. Mae ffermwyr mewn sefyllfa ddelfrydol i'n helpu i wneud hynny, a chyfrannu at gyrraedd ein targed sero net.