Mae ffigurau newydd yn dangos bod mwy o bractisau meddygon teulu yng Nghymru ar agor rhwng 8:00am a 6:30pm
Yn 2016:
- Roedd 85% o feddygfeydd ar agor yn ystod yr oriau craidd dyddiol neu o fewn awr o hynny, cynnydd o’i gymharu â 60% yn 2011
- Dim ond 3% o feddygfeydd oedd ar gau am hanner diwrnod ar un neu ragor o ddiwrnodau'r wythnos, gostyngiad o’i gymharu â 4% yn 2015
- Roedd 84% o feddygfeydd yn cynnig apwyntiadau ar unrhyw amser rhwng 17:00 a 18:30 yn ystod yr wythnos, o’i gymharu â 79% yn 2015
- Gwelwyd cynnydd yn y ganran o feddygfeydd oedd yn cynnig apwyntiadau cyn 8:30 o leiaf ddeuddydd yr wythnos, o 16% yn 2015 i 19% yn 2016.
"Ry'n ni'n gwybod bod cael mynediad at wasanaethau gofal sylfaenol yn hynod o bwysig i bobl. Yn ein rhaglen lywodraethu, Symud Cymru Ymlaen, fe wnaethon ni ymrwymo i barhau i wella mynediad at feddygfeydd ac mae'r ffigurau hyn yn dystiolaeth o'n llwyddiant. Mae'r ffigurau hefyd yn dangos bod mwy o apwyntiadau ar gael i bobl ar amseroedd sy'n fwy cyfleus. Mae'n bleser gweld bod hyn wedi parhau i wella yn 2016.
"Hoffwn ddiolch i'n meddygon teulu a'u timau sy'n gweithio'n ddiflino i ymestyn eu horiau agor yng Nghymru. Maen nhw hefyd yn gweithio gyda gweithwyr iechyd eraill i sicrhau bod y claf yn cael gofal gan y person cywir a allai olygu gweld fferyllydd, ffisiotherapydd neu nyrs. Bydd hyn yn caniatáu i feddygon teulu ganolbwyntio ar roi eu hamser a'u harbenigedd i'r bobl hynny sydd ag anghenion gofal cymhleth. Byddwn yn parhau i gydweithio â meddygon teulu a gweithwyr proffesiynol eraill i wella mynediad at y gwasanaeth a phrofiad y claf."