Dechreuodd mwy o bobl nag erioed gael eu trin am ganser ym mis Mehefin, o fewn y cyfnod targed o 62 diwrnod, yn ôl ffigurau newydd a ryddhawyd heddiw.
Yn ôl y ffigurau diweddaraf ar gyfer mis Mehefin, dechreuodd 86.5% (578 allan o 668 o gleifion) gael triniaeth o fewn yr amser targed fel achosion brys gydag amheuaeth o ganser, o gymharu ag 88.6% (534 allan o 603 o gleifion) y mis blaenorol. Hefyd, roedd nifer y bobl a ddechreuodd gael triniaeth am ganser drwy’r llwybr hwn yn gyffredinol yn uwch na’r hyn a gofnodwyd erioed.
Yn y cyfamser, roedd mwy o bobl (824 allan o 846 o gleifion) wedi dechrau cael triniaeth o fewn y cyfnod targed fel achosion heb fod yn achosion brys, lle nad oedd amheuaeth o ganser yn y lle cyntaf, o gymharu â’r mis blaenorol; 97.4% o’r cleifion, ychydig iawn yn is na’r targed o 98%. Dyma’r nifer fwyaf o bobl yn dechrau cael triniaeth ers mis Rhagfyr 2015.
Yn gyffredinol, ym mis Mehefin gwelwyd y nifer uchaf o bobl yn dechrau cael triniaeth am ganser yng Nghymru ers dechrau cadw cofnodion.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, Vaughan Gething:
“Mae mwy o bobl nag erioed yn dechrau cael triniaeth am ganser yng Nghymru a mwy o bobl nag erioed hefyd yn goroesi’r clefyd, diolch i’n Gwasanaeth Iechyd. Fodd bynnag, rwy’n disgwyl i’r byrddau iechyd barhau gyda’u hymdrechion i gyrraedd y targedau anodd hyn. Rydw i am ddiolch i holl staff y Gwasanaeth Iechyd sy’n gweithio mor galed i sicrhau bod y rhan fwyaf o bobl yn medru dechrau ar eu triniaeth yn brydlon.”