Mae gan y Gogledd gyfradd cyflogaeth uwch, cyfradd diweithdra is a chyfradd anweithgarwch economaidd is na Chymru gyfan, yn ôl rhifyn diweddara’r Proffil Rhanbarthol Marchnad Lafur ac Economaidd.
Mae’r Proffil, sy’n cyhoeddi ffigurau ar lefel rhanbarthol, yn dangos bod cyfradd cyflogaeth y Gogledd wedi codi 2.3 pwyntiau canrannol dros y flwyddyn er bod cyfradd diweithdra wedi gostwng 0.6 pwynt canrannol. Mae’r cyfraddau yn y Gogledd wedi gwella llawer mwy o’u cymharu â rhai Cymru gyfan ers 2001.
Gan groesawu’r ffigurau, dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi:
“Mae’r ffigurau hyn yn newyddion da i’r Gogledd gan ddangos bod cyflogaeth wedi codi ers 2001 a bod y rhanbarth wedi elwa ar y cynnydd mwyaf yng Nghymru dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae hyn yn dangos bod y rhanbarth mewn safle da wrth inni wynebau heriau’r dyfodol.
“Wrth gwrs, nid da lle gellir gwell. Mae’r Cynllun Gweithredu ar yr Economi a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr yn nodi sut y bydd pob adran o’r llywodraeth yn adeiladau sylfeini cryfach ar gyfer ein heconomi, gan sbarduno dyfodol ein diwydiannau a sicrhau bod ein rhanbarthau’n gallu ffynnu, gan gynnwys y Gogledd.
“Mae datblygiadau cyffrous ar y gweill yn y rhanbarth gan gynnwys yr Athrofa Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch yng Nglannau Dyfrdwy a Pharc Gwyddoniaeth Menai yn y Gaerwen. Mae’r datblygiad Wylfa Newydd hefyd yn cynnig cyfleoedd gwych ac rydyn ni’n gweithio’n galed iawn i sicrhau bod y rhanbarth yn gallu elwa arnyn nhw.
“Rydyn ni hefyd wrthi’n cydweithio â phartneriaid rhanbarthol a Llywodraeth y DU i ddatblygu Bargen Twf y Gogledd a fydd yn canolbwyntio ar ehangu’r economi ar draws y rhanbarth.
“Mae’r ffigurau hyn yn newyddion da i’r Gogledd a byddwn yn parhau i adeiladu arnyn nhw i gryfhau ymhellach economi’r rhanbarth.”