Mae mwy na 90% o bobl ifanc sy’n gadael gofal ac sy’n gymwys wedi cofrestru i’r Cynllun Peilot Incwm Sylfaenol yn ystod y chwe mis cyntaf ers ei lansio.
Mae adborth cynnar gan bobl ifanc sy’n gadael gofal yn cyfeirio at y nifer o ffyrdd mae’r incwm yn cael ei ddefnyddio i wella eu bywydau, gan gynnwys dysgu sut i reoli eu harian a chynilo.
Mae’r Cynllun yn dal yn ei ddyddiau cynnar a bydd yn cael ei asesu’n fanwl gan dîm gwerthuso a benodwyd yn annibynnol. Er hynny, dywedodd un unigolyn sy’n gweithio gyda phobl ifanc sy’n gadael gofal fod y Cynllun ‘wedi’u grymuso i allu gwneud penderfyniadau nad oedden nhw’n gallu eu gwneud o’r blaen’.
Mae Emma Phipps-Magill, cyfarwyddwr gweithredol Voices from Care Cymru, wedi gweithio gyda phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal ers dros 30 mlynedd, a dywedodd bod y Cynllun yn rhoi cyfleoedd iddyn nhw wneud dewisiadau cadarnhaol mewn bywyd.
“O ran y gwahaniaeth mae wedi’i wneud i’w bywydau, mae wedi rhoi cyfle iddyn nhw edrych ar dai preifat yn lle aros ar restrau tai cymdeithasol, mae wedi’u galluogi i deithio a dysgu sut i yrru fel eu bod yn gallu pasio eu prawf gyrru, ac mae wedi’u helpu i fynd i’r brifysgol, pethau nad oedden nhw’n gallu eu gwneud o’r blaen,” meddai.
“Mae hyn yn beth cadarnhaol imi gan ein bod yn aml yn clywed am bobl ifanc sy’n gadael gofal yn methu â phrofi pethau fel hyn ac rydyn ni’n edrych ar y pethau negyddol cymaint mwy na’r pethau cadarnhaol.
“Grym y Cynllun yw ei fod yn grymuso pobl ifanc sy’n gadael gofal i allu gwneud penderfyniadau ariannol ac annibynnol ar sail gwybodaeth a mwynhau profiadau na fydden nhw o bosibl wedi’u cael o’r blaen.”
Mae’r Cynllun yn rhoi cyfle i bobl ifanc sy’n gadael gofal ac sy’n troi’n 18 oed gael £1,600 (cyn treth) y mis am gyfnod o ddwy flynedd.
Bydd y rhai sy’n troi’n 18 oed rhwng mis Gorffennaf 2022 a mis Mehefin 2023 yn gymwys.
Nod y Cynllun gwerth £20m yw gosod pobl ifanc sy’n gadael gofal ar lwybr tuag at fywydau iach, hapus, llawn boddhad.
Ers i’r Cynllun gael ei lansio ym mis Gorffennaf ac i’r taliad cyntaf gael ei wneud ym mis Awst y llynedd, mae mwy na 400 o bobl ifanc sy’n gadael gofal wedi cofrestru i’r Cynllun.
Yn ystod chwe mis cyntaf y Cynllun, roedd cyfradd fanteisio o 92% yn seiliedig ar amcangyfrifon gwreiddiol o gymhwysedd gan awdurdodau lleol.
Dywedodd Jane Hutt, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, fod nifer cychwynnol y bobl ifanc sy’n rhan o’r Cynllun yn addawol, ynghyd â’r adborth a geir ganddyn nhw.
“Rydyn ni’n dechrau gweld manteision y Cynllun i fywydau llawer o bobl ifanc sy’n gadael gofal wrth inni nodi ei chwe mis cyntaf.
“Er enghraifft, mae pobl ifanc, wrth siarad amdano, yn dweud ei fod yn caniatáu iddyn nhw gynilo i gefnogi eu hunain yn y dyfodol, ac archwilio talu am gymwysterau pellach a allai wella eu cyfleoedd am swydd a gyrfa.
“Mae’n bwysig eu bod yn dysgu o hyn oherwydd gall ddarparu sylfaen gadarn i adeiladu eu bywydau arni ac nid yn unig bod o fudd iddyn nhw eu hunain, ond i genedlaethau’r dyfodol hefyd.
“Rydyn ni’n dal yng nghamau cynnar y broses hon ac mae gennym lawer i’w ddysgu am effaith hirdymor y Cynllun hwn, ond mae’r nifer sy’n manteisio ar y taliadau a’r adborth gan y rhai sydd wedi cofrestru hyd yn hyn yn addawol.”
Drwy gydol y Cynllun, mae’r rhai sy’n gymwys wedi cael eu cefnogi gan dimau ac ymarferwyr gwasanaethau cymdeithasol i reoli’r broses.
Mae Cyngor ar Bopeth Cymru wedi cefnogi 65% o bobl ifanc sy’n rhan o’r Cynllun ag ystod o faterion ariannol.
Mae’r cymorth sy’n cael ei gynnig i bobl ifanc yn amrywio o gyfrifiadau ‘gwell eu byd’ cyn iddyn nhw benderfynu cofrestru i’r Cynllun, cyngor ariannol tra maen nhw’n rhan o’r Cynllun a chymorth gyda chynllunio ar gyfer yr adeg pan fyddan nhw’n rhoi’r gorau i gael eu taliad.
Nod y taliadau, y mae 57% wedi dewis eu cael unwaith y mis a’r 43% sy’n weddill wedi dewis eu cael ddwywaith y mis, yw eu helpu i adeiladu sylfaen ar gyfer pontio o ofal i fywyd fel oedolyn.
Maen nhw hefyd wedi cael yr opsiwn i ddewis i’w taliadau rhent gael eu talu’n uniongyrchol i’w landlord, gan leihau’r arian a delir iddyn nhw, gyda 33% wedi dewis gwneud hynny.