Neidio i'r prif gynnwy

Bydd 11 o barciau a safleoedd treftadaeth y Cymoedd, a elwir yn Byrth Darganfod, sy'n cynnwys Amgueddfa Mwyngloddio Cefn Coed a Pharc Penallta erbyn hyn, yn rhannu mwy na £6.6 miliwn er mwyn gwneud y gorau o botensial asedau naturiol a diwylliannol yr ardal.

Sefydliad:
Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Medi 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Cafodd y cyhoeddiad ei wneud gan y Prif Weinidog Mark Drakeford a’r Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, sydd â chyfrifoldeb am Dasglu’r Cymoedd, Lee Waters, yn ystod ymweliad ag Amgueddfa Mwyngloddio Cefn Coed. Bydd yr amgueddfa'n cael cyllid gwerth £1.8m gan Dasglu'r Cymoedd, yn ogystal â dros £1.5m y mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi'i glustnodi ar gyfer gwaith atgyweirio gofalus a thriniaeth arbenigol ar y fframau pen yng Nghefn Coed. Gyda'i gilydd, bydd y cronfeydd cyfun hyn yn cynnig cyfleodd i ddatblygu safle Porth Darganfod enghreifftiol ar gyfer Parc Rhanbarthol y Cymoedd, a fydd yn talu teyrnged i dreftadaeth ddiwylliannol, ddiwydiannol ac amgylcheddol cymoedd y gorllewin. 

Ymhlith y gwelliannau eraill i Byrth Darganfod a fydd yn elwa ar fuddsoddiad, bydd llwybrau beicio hygyrch i deuluoedd a ddatblygir ym Mharc Gwledig Cwm Dâr, a chanolfan ymwelwyr newydd ym Mharc Penallta. O'r ganolfan hon, y mae angen mawr amdani, darperir rhaglen o weithgareddau sy'n canolbwyntio ar y gymuned a fydd yn cefnogi llesiant economaidd a chymdeithasol. 

Bydd Parc Gwledig Bryngarw, Canolfan Treftadaeth y Byd Blaenafon, Parc Cyfarthfa, Fforest Cwmcarn, Castell Caerffili, Parc Brynbach, Parc Slip a Pharc Coffa Ynysangharad hefyd yn cael cyllid i wireddu uchelgeisiau Parc Rhanbarthol y Cymoedd. 

Nod Parc Rhanbarthol y Cymoedd yw gwneud y gorau o botensial treftadaeth ddiwylliannol naturiol a chysylltiedig y Cymoedd i greu buddion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.  

Mae'r buddsoddiad yn y Pyrth Darganfod yn hanfodol er mwyn sicrhau bod y safleoedd hyn yn gallu darparu lleoedd diogel a chroesawgar y gall y gymuned leol eu mwynhau yn ogystal ag ymwelwyr. Bydd y safleoedd yn gweithio gyda'i gilydd i sicrhau ein bod yn manteisio i'r eithaf o'r amrywiaeth o dirluniau godidog sydd gennym ledled y cymoedd. 

Dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford:

Mae wedi bod yn wych ymweld ag Amgueddfa Mwyngloddio Cefn Coed heddiw a dysgu am y cynlluniau cyffrous sydd ganddynt fel Porth Darganfod. 

Yn ogystal â dod yn gyrchfannau yn eu rhinwedd eu hunain, mae gan Byrth Darganfod gyfle gwych i adrodd straeon y Cymoedd ac annog pobl leol ac ymwelwyr i grwydro o gwmpas ardaloedd cyfagos, gan gynnwys trefi a phentrefi lleol, a'r dirwedd ehangach. 

Rwy’n falch iawn y bydd cymorth Llywodraeth Cymru yn eu galluogi i ddod â hanes, diwylliant ac asedau naturiol yr ardal yn fyw ac edrychaf ymlaen at weld hynt y prosiectau pwysig hyn er budd y rhanbarth.

Dywedodd Dirprwy Weinidog yr Economi sydd â chyfrifoldeb am Dasglu'r Cymoedd, Lee Waters:

Mae’r cyhoeddiad heddiw, sy’n cynnwys dau safle Porth Darganfod ychwanegol yn Amgueddfa Mwyngloddio Cefn Coed a Pharc Penallta, yn cynnig cyfle cyffrous i ddatblygu cyfleusterau newydd sy’n adlewyrchu ein huchelgeisiau ar gyfer Parc Rhanbarthol y Cymoedd yn llawn. 

Bydd y prosiectau hyn yn rhoi Parc Rhanbarthol y Cymoedd ar y map yn genedlaethol ac yn rhyngwladol fel lle a all ysbrydoli, cyffroi a denu ymwelwyr lleol ac o bell. Byddant hefyd yn darparu cyfleoedd ar gyfer twf economaidd, sef un o brif nodau Tasglu'r Cymoedd.

Datblygwyd y cynlluniau hyn drwy ymgysylltu'n helaeth â chymunedau'r Cymoedd ac edrychaf ymlaen at barhau i weithio gyda'n gilydd i ddod â Pharc Rhanbarthol y Cymoedd yn fyw.