Mae tros 5,500 o fusnesau wedi gwneud cais am y £100 miliwn oedd wedi’i neilltuo ar gyfer elfen grantiau busnes Cronfa Cadernid Economaidd (ERF) Llywodraeth Cymru.
Mae £200 miliwn trydydd cam y gronfa yn dal i fod ar gael i fusnesau.
Mae busnesau mawr a bach ledled Cymru wedi ymgeisio am y grantiau ers 3pm ddydd Mercher pan agorwyd rownd ddiweddaraf Grantiau Datblygu’r ERF. Cafodd gwiriwr cymhwysedd y rownd hon ei lansio yn gynharach yn y mis.
Mae’r £100 miliwn o grantiau busnes yn rhan o’r £300 miliwn sydd wedi’i neilltuo gan Lywodraeth Cymru ar gyfer trydydd cam yr ERF i helpu busnesau sy’n dal i deimlo effeithiau pandemig y coronafeirws. Mae £20 miliwn o hwn wedi’i glustnodi ar gyfer busnesau twristiaeth a lletygarwch.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y caiff y ceisiadau nawr eu prosesu ar fyrder a gobeithir dechrau eu talu o ganol mis Tachwedd.
Bydd busnesau’n dal yn gallu elwa ar y £200 miliwn sydd ar gael trwy’r trydydd cam. Bydd busnesau adwerthu, lletygarwch a hamdden sydd wedi gorfod cau ac sydd ag eiddo â gwerth ardrethol o rhwng £12,001 a £51,000 yn cael ymgeisio am gyfran o’r £200 miliwn a bydd pob busnes bach sy’n gymwys am Gymorth Ardrethi hefyd yn gallu cael help. Bydd gofyn i fusnesau gofrestru neu ddiweddaru’u manylion gyda Busnes Cymru neu drwy gysylltu â’u hawdurdod lleol i gael cymorth ariannol.
Bydd busnesau nad ydyn nhw’n gymwys am grantiau ar sail eu hardrethi yn cael gwneud cais am grantiau o hyd at £2,000 o gronfa ddewisol o dan ofal eu hawdurdod lleol.
Dywedodd Gweinidog yr Economi Ken Skates:
“Mae’r nifer aruthrol o geisiadau sydd wedi dod i law yn brawf o bwysigrwydd y Gronfa Cadernid Economaidd i fusnesau Cymru. Rydym yn gwybod bod busnesau wedi bod yn paratoi ar gyfer hyn am beth amser, byth ers lansio’r gwiriwr cymhwysedd ddechrau’r mis.
“Rydyn ni’n gwybod ei bod hi’n gyfnod hynod anodd i fusnesau ond byddwn yn gweithion galed i gael yr arian allan trwy’r drws ac i gyfrifon banc y busnesau sy’n gymwys amdano cyn gynted ag y medrwn.
“Hoffwn atgoffa’r busnesau hynny sydd ddim yn gymwys am y grantiau sy’n seiliedig ar ardrethi bod grantiau ar gael ar eu cyfer trwy eu hawdurdod lleol.
“Rydym ni yn Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo’n llwyr i wneud popeth yn ein gallu i gefnogi’n busnesau, ein gweithwyr a’n cymunedau trwy’r dyddiau hynod anodd hyn.