Neidio i'r prif gynnwy

Mwy na 500 o oedolion yn dechrau dysgu Cymraeg, diolch i Glwb Cwtsh

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Mai 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Rhaglen flas wyth wythnos rad ac am ddim yw Clwb Cwtsh sy'n canolbwyntio ar eiriau ac ymadroddion i'w defnyddio gyda phlant bach. Tra bydd yr oedolion yn dysgu, caiff y plant hefyd eu diddanu drwy'r Gymraeg, gan gychwyn eu taith eu hunain tuag at ddysgu'r iaith.

Mae mwy na 500 o oedolion ledled Cymru ar fin cwblhau'r rhaglen gyntaf yr wythnos hon. Yn ogystal â chefnogi dysgwyr i ddefnyddio eu sgiliau newydd, mae'r rhaglen yn eu hannog hefyd i symud ymlaen i ddosbarthiadau Cymraeg i Oedolion eraill i barhau â'u dysgu.

Dywedodd Eluned Morgan, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes:

"Mae Clwb Cwtsh eisoes wedi profi llwyddiant mawr. Mae galluogi mwy na 500 o oedolion i ddechrau dysgu Cymraeg mewn cyfnod mor fyr yn gryn gamp.

"Mae darparu mwy o gyfleoedd i oedolion ddysgu Cymraeg yn hollbwysig er mwyn cyrraedd ein targed o filiwn o siaradwyr erbyn 2050. Mae cynnig adloniant i blant tra bydd eu rhieni yn dysgu yn ffordd greadigol o greu mwy o gyfleoedd i oedolion gychwyn ar eu taith i fod yn siaradwyr Cymraeg hyderus.

"Llongyfarchiadau i bawb sydd wedi cymryd rhan yng Nghlwb Cwtsh, ac i Mudiad Meithrin a'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol am ddarparu cynllun mor arloesol."

Dywedodd Gwenllian Lansdown Davies, Prif Weithredwr Mudiad Meithrin:

"Mae mwyafrif y plant sydd mewn Cylch Meithrin yn dod o gartref di-Gymraeg. Mae galluogi a chefnogi rhieni a'r teulu estynedig i ddechrau dysgu Cymraeg - a hynny mewn awyrgylch anffurfiol a hwyliog - yn holl-bwysig".

Dywedodd Efa Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol:

“’Dyn ni’n gwybod bod llawer o bobl eisiau dysgu Cymraeg er mwyn helpu eu plant a ’dyn ni’n falch dros ben bod y fenter newydd hon ar y cyd â’r Mudiad Meithrin wedi denu cymaint o ddysgwyr newydd.

“Mae cynnig cyfleoedd hyblyg i ddysgu yn un o’n prif amcanion.  Yn ogystal â datblygu cynlluniau arloesol fel hwn, ’dyn ni’n cynnig ystod eang o raglenni dysgu, yn y dosbarth ac ar-lein, gyda chynlluniau ar y gweill i gynyddu’r ddarpariaeth ar-lein.”

Bydd grwpiau nesaf Clwb Cwtsh yn dechrau yn nes ymlaen eleni. I gael gwybod mwy a dod o hyd i'ch dosbarth agosaf, ewch i http://www.meithrin.cymru/clwbcwtsh/