Neidio i'r prif gynnwy

Bydd Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates, yn cyhoeddi bod pot o £32.9 miliwn ar gael i wella trafnidiaeth ledled Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Mai 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd grantiau'n cael eu dyrannu i awdurdodau lleol er mwyn helpu i gyllido cynlluniau a fydd yn cefnogi blaenoriaethau economaidd Llywodraeth Cymru ar gyfer swyddi a thwf. Byddant hefyd yn hybu gweithgarwch economaidd drwy gynnig gwell cyfleoedd i fanteisio ar gyflogaeth, yn hyrwyddo teithio llesol a chynaliadwy, ac yn cysylltu cymunedau.

Gwahoddwyd yr holl awdurdodau lleol i gyflwyno ceisiadau am gyllid, a daeth dros 100 o geisiadau i law.

Bydd y Gronfa Trafnidiaeth Leol, sy'n werth £28.8 miliwn, yn cynnig cymorth i 52 o gynlluniau ar draws 21 o awdurdodau lleol a bydd y Gronfa Rhwydwaith Trafnidiaeth Leol, sy'n werth £4.1 miliwn, yn helpu gyda 14 o gynlluniau ar draws 12 o awdurdodau lleol.

Mae'r grantiau hyn yn cynnwys dros £20 i wella trafnidiaeth gyhoeddus integredig. Mae'r swm hwnnw’n cynnwys £3.6 miliwn i ddechrau adeiladu'r gyfnewidfa fysiau newydd ym Merthyr Tudful.

Yn y Gogledd, bydd swm o £3.6 miliwn yn cael ei fuddsoddi er mwyn gwella trafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol ar y B5129/A548 drwy Sir y Fflint ac yna ymlaen i Barc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy, a bydd dros £3 miliwn ar gael i awdurdodau lleol ar draws y Canolbarth a'r De-orllewin i wella coridorau a chyfnewidfeydd trafnidiaeth gyhoeddus.

Wrth iddo ymweld â Pharc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy lle'r oedd wedi mynd i weld y gwaith yn cael ei wneud ar rai o’r gwelliannau hynny, dywedodd y Gweinidog Trafnidiaeth, Ken Skates:

“Mae'r grantiau hyn yn fuddsoddiad sylweddol i gefnogi twf cynaliadwy yn yr economi leol, i wella cyfleusterau trafnidiaeth gyhoeddus, i greu ac i wella llwybrau a fydd yn annog rhagor o bobl Cymru i gerdded a beicio.

“Mae'r prosiectau llwyddiannus, fel yr un hwn yng Nglannau Dyfrdwy, yn enghreifftiau penigamp o'r atebion ymarferol rydyn ni wedi gofyn i'r awdurdodau lleol eu dylunio er mwyn ei gwneud yn haws i drigolion gyrraedd eu gweithleoedd a'u busnesau, a gwneud hynny mewn ffordd fwy cynaliadwy.”

Mae’r buddsoddiad hwn mewn cynlluniau trafnidiaeth lleol yn hwb i’r grantiau a gyhoeddwyd gan y Dirprwy Weinidog wythnos ddiwethaf, gan gynnwys y £19m o’r Gronfa Teithio Llesol a’r £10.0m ar gyfer creu Llwybrau Diogel mewn Cymunedau a chynlluniau diogelwch ar y ffyrdd.  Heddiw, rydym yn cyhoeddi’r cynlluniau sy’n elwa ar y £12.7m a fydd yn creu cyfleoedd i lawer mwy o bobl allu gwneud eu teithiau pob dydd ar feic ac ar droed, a’r gyfran y bydd pob awdurdod lleol yn ei chael o’r £6.3m ar gyfer gwaith dylunio a dichonoldeb ac i dalu am fân welliannau yn eu rhwydweithiau.

Caiff rhestr lawn o'r cynlluniau llwyddiannus ei chyhoeddi, fesul awdurdod lleol, ar wefan Llywodraeth Cymru.

•    Caiff rhestr lawn o'r cynlluniau llwyddiannus ei chyhoeddi, fesul awdurdod lleol, ar wefan Llywodraeth Cymru.