Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru yn darparu mwy na £2.8 miliwn i sbarduno prosiectau pwysig yng nghanolbarth a de-orllewin Cymru a fydd yn cefnogi’r rhanbarth i adfer o effeithiau economaidd y coronafeirws.

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Mawrth 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd pob un o’r chwe awdurdod lleol yn yr ardal yn derbyn £380,000 ar gyfer cynlluniau seilwaith sy’n cyd-fynd ag amcanion economi fwy ffyniannus, cyfartal a gwyrdd fel yr amlinellir yn y Genhadaeth i Gryfhau ac Ailadeiladu’r Economi a lansiwyd yn ddiweddar gan Lywodraeth Cymru.

Yng Ngheredigion, bydd yr arian yn helpu i sicrhau bod adeilad gwag yn cael ei ddefnyddio eto ar Stryd Fawr Aberteifi. Bydd cymorth yn cael ei roi hefyd er mwyn paratoi plotiau ar gyfer datblygu ac adeiladu naw uned fusnes ym Mharc Busnes Aber-miwl ym Mhowys.

Bydd y gwaith o adeiladu Prosiect Denu Twristiaid Pentywyn yn Sir Gaerfyrddin gyda chyfleusterau i ymwelwyr drwy gydol y flwyddyn yn cael ei ddatblygu diolch i’r buddsoddiad a’r cyllid a fydd yn caniatáu i waith dylunio gwesty yng nghanol y ddinas yn Abertawe gael ei ddatblygu fel rhan o Gam Un cynllun adfywio Bae Copr sydd werth £135 miliwn.

Bydd y gwaith o adnewyddu a datblygu Glan Cei’r gorllewin yn Hwlffordd, ynghyd ag addasu ac aildrefnu adeilad warws gwag a man masnachu awyr agored yn mynd rhagddo yn sgil y buddsoddiad.

Mae cyllid hefyd yn cael ei ddarparu i wella’r cyfleusterau sydd ar gael i drigolion ac ymwelwyr fel ei gilydd ar lan y môr yn Aberafan ac Ystad Dai Sandfields drwy fuddsoddi mewn man hamdden a chyhoeddus newydd ar y thema ‘Aqua’.

Bydd cyfanswm o £2.28 miliwn ar gyfer y chwe phrosiect yn creu cyfleoedd gwaith pwysig yn y rhanbarth.

Yn ogystal, mae pob awdurdod lleol yn derbyn £100,000 i wella ac annog arloesedd ym maes IoT (Y Rhyngrwyd Pethau) fel goleuadau stryd clyfar, cyfrif nifer yr ymwelwyr, monitro amgylcheddol, a rheoli gwastraff yn glyfar.

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Ken Skates:

“Rwy’n falch iawn y bydd cyllid Llywodraeth Cymru yn sbarduno’r broses o gyflawni prosiectau seilwaith pwysig yng nghanolbarth a de-orllewin Cymru.

“Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi rhoi pwysau anhygoel ar ein busnesau a’n heconomi, ond bydd y newyddion heddiw yn hwb i’r ardal a’r cwmnïau a’r trigolion a fydd yn elwa.

“Nod ein Cenhadaeth i Gryfhau ac Ailadeiladu’r Economi yw ailadeiladu economi Cymru fel ei bod yn fwy ffyniannus, teg a gwyrdd nag erioed o’r blaen ac mae’r prosiectau hyn wirioneddol yn cefnogi’r weledigaeth honno.

“Rwyf hefyd yn falch ein bod yn buddsoddi mewn gwella technoleg yn y rhanbarth. Mae’r pandemig wedi dangos i ni bŵer a phwysigrwydd digidol o ran y ffordd rydym yn byw ac yn gweithio.

“Rydym wedi ymrwymo i gefnogi busnesau a chymunedau ledled Cymru wrth i ni anelu at ddychwelyd at y twf economaidd yr oeddem yn ei weld cyn y pandemig ac mae’r newyddion heddiw yn arwydd clir.