Neidio i'r prif gynnwy

Bydd dros £1.2 miliwn o arian grant yn helpu i fynd i'r afael â sbwriel ledled Cymru ac i lanhau'n strydoedd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Ionawr 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Aeth Huw Irranca-Davies, y Dirprwy Brif Weinidog, sydd â chyfrifoldeb dros Newid Hinsawdd, ati heddiw i gadarnhau'r estyniad i'r grant.

Mae cyllid a ddarperir gan Lywodraeth Cymru o dan y cynllun Gwella Ansawdd yr Amgylchedd Lleol yn helpu Cadwch Gymru'n Daclus i gefnogi grwpiau cymunedol, gwirfoddolwyr ac awdurdodau lleol ledled y wlad. Gyda'i gilydd, maen nhw'n gofalu am ardaloedd lleol ac yn eu gwneud yn lleoedd gwell i fyw a gweithio ynddyn nhw ac i ymweld â nhw.

Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog, Huw Irranca-Davies:

“Mae'r cyllid hwn yn hanfodol er mwyn cefnogi'r holl wirfoddolwyr ymroddedig ledled Cymru sy'n rhoi o'u hamser i lanhau'n strydoedd a'n mannau gwyrdd lleol. Diolch o galon i bob un ohonoch chi am y cyfraniad enfawr rydych chi'n ei wneud i'ch cymunedau.

“Dw i'n falch y bydd y cyllid hwn hefyd yn helpu i atal sbwriel yn y lle cyntaf. Bydd system newydd i fonitro sbwriel yn rhoi gwell dealltwriaeth inni o le mae sbwriel yn cronni ac ym mha leoedd mae angen inni ganolbwyntio ar ei atal yn y lle cyntaf.”

Cafodd un o'r rheini sy'n elwa ar y cyllid, sef grŵp cymunedol ym Merthyr Tudful, gymorth oddi wrth Cadwch Gymru'n Daclus i fynd ati i Lanhau Gellideg Fawr: gan wneud deuddydd o waith i lanhau'r ystad. Ers y digwyddiad hwnnw, mae Cadwch Gymru'n Daclus wedi bod yn cefnogi trigolion lleol eraill i greu grŵp cymunedol Cyfeillion Gellideg i barhau â'r gwaith y dechreuon arno nhw fis Medi diwethaf.

Dywedodd Owen Derbyshire, Prif Swyddog Gweithredol Cadwch Gymru'n Daclus: 

“Rydyn ni'n falch iawn o gael dathlu'r holl bethau anhygoel a gyflawnwyd drwy'r bartneriaeth sydd gennym gyda Llywodraeth Cymru.

“Mae'r gefnogaeth rydyn ni'n parhau i'w chael oddi wrthi wedi bod yn allweddol er mwyn inni fedru sicrhau newidiadau cadarnhaol go iawn mewn cymunedau lleol ledled Cymru. Gyda chymorth y miloedd o wirfoddolwyr ymroddedig rydyn ni'n eu cefnogi, rydyn ni wedi trawsnewid ein hamgylchedd, gan greu mannau glanach, gwyrddach y gall pawb ymfalchïo ynddyn nhw.

“Mae'r ymdrechion hynny nid yn unig wedi gwella'n hamgylchedd, ond maen nhw hefyd wedi rhoi hwb i falchder a lles lleol. Mae'r bartneriaeth hon wir yn dangos pa mor bwerus yw cydweithio, ac rydyn ni'n awyddus iawn i barhau i fynd ati gyda'n gilydd i greu dyfodol mwy disglair, a mwy cynaliadwy i Gymru.”