Mae'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol Julie James wedi cyhoeddi mwy na £20 miliwn drwy'r Cynllun Tir ar gyfer Tai i helpu cymdeithasau tai i brynu tir er mwyn adeiladu mwy o gartrefi ledled Cymru.
Ymwelodd y Gweinidog â chartrefi newydd a adeiladwyd drwy'r rhaglen ar ddatblygiad Herbert Road yng Nghasnewydd, sef un o brosiectau Pobl Group.
Mae 20 o gartrefi eisoes wedi cael eu hadeiladu ar y cyn-safle diwydiannol ar lannau afon Wysg, a bydd y safle'n parhau i gael ei drawsnewid dros y pedair blynedd nesaf, gan ddarparu 215 o gartrefi newydd i gyd.
Mae Cynllun Tir ar gyfer Tai yn rhoi benthyciadau i gymdeithasau tai er mwyn eu galluogi i brynu tir i ddatblygu tai fforddiadwy a thai'r farchnad agored. Caiff yr arian ei ailgylchu wrth i'r benthyciadau gael eu had-dalu, fel y gellir prynu mwy o dir ac adeiladu mwy o gartrefi. Mae Llywodraeth Cymru'n buddsoddi £10 miliwn ychwanegol yn 2019/20, yn ogystal ag arian wedi'i ailgylchu drwy ad-dalu benthyciadau blaenorol.
Dywedodd y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol Julie James:
Mae tai yn golygu llawer iawn mwy na brics a mortar. Mae'n hollbwysig bod pawb yng Nghymru yn gallu manteisio ar dai diogel a fforddiadwy fel y gallant gyflawni eu potensial llawn.
Rydym wedi ymrwymo i greu 20,000 o dai fforddiadwy yn ystod tymor y llywodraeth hon, ac mae Cynllun Tir ar gyfer Tai yn un o'r ffyrdd rydym yn buddsoddi er mwyn cyflawni hyn.
Gan mai cynllun benthyciadau ydyw, rydym yn ailfuddsoddi mewn prosiectau newydd wrth i'r arian gael ei ad-dalu er mwyn sicrhau mwy o werth o lawer na'r £52 miliwn a fuddsoddwyd hyd yn hyn. Mae'n enghraifft ardderchog o'r ffordd rydym yn gweithio gyda chymdeithasau tai er mwyn adeiladu mwy o gartrefi a gwella bywydau pobl Cymru.
Rwy'n falch fy mod wedi gweld y cartrefi hyn heddiw, sy'n cefnogi pobl â gwahanol anghenion – ac rwy'n edrych ymlaen at ddilyn hynt datblygiad newydd Herbert Road.
Dywedodd Neil Barber o Pobl Group, sy'n gwmni datblygu dielw:
Mae Cynllun Tir ar gyfer Tai yn enghraifft wych o arloesedd Llywodraeth Cymru wrth ddarparu tai fforddiadwy newydd y mae galw mawr amdanynt. Mae'r arian hwn wedi galluogi cwsmeriaid Pobl i brynu neu rentu un o'r 20 o gartrefi hyfryd newydd yn Herbert Road, gyda llawer mwy i ddod.