Neidio i'r prif gynnwy

Fod y gwasanaeth blaenllaw sy’n rhoi cyngor ar dechnoleg ddigidol, Gwasanaeth Cyflymu Cymru i Fusnesau, wedi helpu dros 1000 o fusnesau yn y flwyddyn gyntaf.

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Mawrth 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’r Gwasanaeth Cyflymu Cymru i Fusnesau yn cael ei gyllido gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop. Mae’n rhan o wasanaeth Busnes Cymru ac yn rhoi cyngor ac arweiniad TGCh cynhwysfawr i BBaChau ynghylch sut i ddefnyddio technolegau ar-lein fel cyfrifiadura cwmwl, apiau a meddalwedd  ar-lein, y cyfryngau cymdeithasol, gweithio symudol a llawer mwy er mwyn i’w busnes ddatblygu a thyfu.

Mae’r gwasanaeth yn rhad ac am ddim ac yn annibynnol. Mae’n cynnwys mynediad at adolygiad o anghenion ar-lein, dosbarthiadau meistr a gweithdai, cymorth TGCh1:1, a gwefan diagnostig llawn. Hefyd, mae modd i fusnesau lawrlwytho’r Cyfeiriadur Meddalwedd newydd, heb sôn am nifer o becynnau a chanllawiau ar-lein a phwyntiau gwerthfawr i’w cofio sydd ar gael ar y wefan: https://businesswales.gov.wales/superfastbusinesswales/cy.

Hyd yn hyn, mae 1081 o fusnesau wedi cael ymgynghoriad dros y ffôn gyda chynghorwr busnes ar-lein, mae 860 o fusnesau wedi mynd i ddosbarthiadau meistr a gweithdai, tra bo 545 o fusnesau wedi cael cyngor 1:1 gan gynghorwr busnes digidol.

Dywedodd Julie James, y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth: 

“Rwy’n falch bod dros fil o fusnesau wedi manteisio ar wasanaeth Cyflymu Cymru i Fusnesau ers iddo gael ei lansio dros flwyddyn yn ôl. Rwy’n annog rhagor i ddilyn eu hesiampl. Mae’r gwasanaeth yn cynnig canllawiau a chyngor annibynnol sy’n rhad ac am ddim ar sut i gael y gorau o dechnoleg ddigidol. Rhywbeth sy’n dod yn bwysicach yn y byd busnes bob dydd.

“Gall Band-eang cyflym iawn wneud gwahaniaeth sylweddol i’r ffordd y mae busnes yn cyfathrebu â chwsmeriaid. Hefyd, gall helpu i gyflenwi gwasanaeth o safon uwch sy’n fwy effeithlon. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i fuddsoddi yn y seilwaith band-eang cyflym iawn, rhywbeth sy’n hanfodol i gefnogi twf a ffyniant yng Nghymru.”  

Mae Chris Jones Regeneration, busnes ymgynghori yn Sir Fynwy wedi cael budd o’r gwasanaeth sydd am ddim. Dywedodd Chris Jones: 

“Galluogodd y gweithdy ni i weld lle’r oedden ni o ran y llwyfan eang o dechnolegau digidol, ein helpu i wirio rhai o’r pethau oeddem yn eu gwneud yn dda ac adnabod lle’r oedd y bylchau yn ein sgiliau.

“Roedd y sesiwn 1-1 a gafwyd wedyn yn holistig ac yn canolbwyntio ar y cleient o’r dechrau’n deg. Nodwyd ffyrdd i gynyddu effeithlonrwydd a gweithio’n well o ran cyrraedd cwsmeriaid ac ymdrin â pherthynas y cleient a’r busnes. Edrychwyd ar yr elfen rheoli prosiect ac offerynnau gweledol a rhoddodd y cynghorwr gyngor i ni ar atebion digidol sy’n isel eu cost.  Paratowyd adroddiad diagnostig gyda rhai camau clir a realistig y gall y busnes weithredu arnynt dros amser.  

“Drwyddi draw, roedd y gwasanaeth yn bersonol, yn ymateb i ni ac yn bwysicach na dim, roedd yn weithredol.”

Dyma restr o bynciau sy’n cael eu cynnwys yn y gwasanaeth yn 2017: Sut i ehangu eich busnes bwyd a diod gan ddefnyddio technoleg ddigidol, seiberddiogelwch, Diogelu Data a systemau CRM, a Sut i ehangu eich busnes adeiladu gan ddefnyddio technoleg ddigidol.

I gael gwybod mwy am Wasanaeth Cyflymu Cymru i Fusnesau neu i gofrestru, ffoniwch 0300 060 3000, e-bostiwch superfast@businesswales.org.uk neu ewch i: https://businesswales.gov.wales/superfastbusinesswales/cy.