Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r 16 prosiect a fydd yn rhannu cronfa gymorth gwerth £1 miliwn wedi'u cyhoeddi i ddathlu bod Tîm Pêl-droed Menywod Cymru yn cymryd rhan ym Mhencampwriaeth Ewrop am y tro cyntaf.

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Ebrill 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r prosiectau a ddewiswyd yn cynnwys digwyddiadau sgrinio ledled Cymru a'r byd, gweithgareddau pêl-droed ar gyfer pobl ifanc, hyfforddiant a phecynnau cymorth ar gyfer hyfforddwyr a dyfarnwyr benywaidd, a dathliadau diwylliannol.

Pwrpas y gronfa yw cefnogi prosiectau a fydd yn hyrwyddo Cymru, yn cyflwyno ein gwerthoedd, yn enwedig o ran cydraddoldeb a chynhwysiant ac yn hybu chwaraeon menywod, gan annog mwy i gymryd rhan a chreu gwaddol gadarnhaol a pharhaol.

Ymhlith y prosiectau sy'n cael cyllid mae:

  • dau dwrnamaint pêl-droed stryd cynhwysol undydd i ferched
  • rhwydwaith Hyfforddi Menywod pwrpasol ac ymgyrch i gynyddu'n ddramatig nifer y menywod a'r merched sy'n dyfarnu pêl-droed
  • murluniau mewn cymunedau lle cafodd chwaraewyr Cymru eu geni a lle gwnaethant ddechrau eu teithiau pêl-droed
  • adnoddau dosbarth â phwyslais rhyngwladol ar gyfer ysgolion cynradd ledled Cymru a thu hwnt i hyrwyddo dysgu ieithoedd, cydweithredu rhyngwladol, a sicrhau bod disgyblion yn ymwneud â phêl-droed menywod
  • bardd preswyl i fynd gyda thîm pêl-droed Cymru yn ystod ei ymgyrch i gofnodi a dathlu taith y tîm
  • rhaglen ryngwladol sy'n dathlu diwylliant Cymru ar lwyfan byd-eang sy'n cynnwys perfformiadau a gweithdai gan artistiaid benywaidd o Gymru yn y Swistir.

Dywedodd Jack Sargeant, y Gweinidog Chwaraeon:

Nid yw'r buddsoddiad hwn yn ymwneud yn unig â dathlu'r ffaith bod tîm pêl-droed menywod Cymru yn cymryd rhan yn Euro 2025, mae'n gyfle i greu newid parhaol ledled Cymru. O furluniau cymunedol i arddangosfeydd diwylliannol rhyngwladol, bydd y prosiectau arloesol hyn yn ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf, yn hyrwyddo gwerthoedd Cymru yn fyd-eang, ac yn creu llwybrau ystyrlon i fenywod a merched mewn pêl-droed.

Mae'r dull 'Tîm Cymru' hwn yn ehangu ein presenoldeb yn y twrnamaint ac yn creu gwaddol a fydd o fudd i gymunedau ymhell ar ôl y chwiban olaf. Gyda'n gilydd, rydym yn defnyddio'r platfform hwn i hyrwyddo cydraddoldeb, dathlu diwylliant Cymru, a dangos bod Cymru'n cyflawni mwy pan fyddwn yn gweithio fel un.